Tri myfyriwr yn edrych ar sgerbwd anifail wedi ei osod ar fwrdd arddangos gwydyr yn Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol yn Brambell

Gŵyl Wyddoniaeth Bangor

Cynhelir digwyddiadau yn ystod mis Mawrth 2024.

Ffeithiau Allweddol Gŵyl Wyddoniaeth Bangor

 Mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain a drefnir gan British Science Association

Cynhelir digwyddiadau Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn ystod mis Mawrth 2024. Gweler manylion llawn ein digwyddiadau isod os gwelwch yn dda.

Cynhelir digwyddiadau'r Ŵyl mewn amryw o leoliadau, Gweler y digwyddiadau unigol am y manylion os gwelwch yn dda. 

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor i bawb! Mae gennym ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer unigolion a theuluoedd a hefyd sesiynau a drefnir yn benodol ar gyfer ysgolion. Gweler y digwyddiadau unigol isod am fwy o wybodaeth. 

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn rhad ac am ddim - nid oes rhaid talu i fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau, ond efallai byddwch angen archebu eich lle neu gofrestru o flaen llaw ar gyfer rhai ohonynt.

Digwyddiadau

Cysylltwch â ni

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn cael ei chydlynu gan Stevie Scanlan, Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg mewn partneriaeth â llawer o gyd-weithwyr ym Mhrifysgol Bangor. 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiad. 

CYSYLLTU 

Ein Noddwyr

Mae'r Ŵyl Wyddoniaeth Bangor wedi ei noddi gan Gronfa Waddol Tom a Raj Parry Jones. Mae'r Gronfa wedi'i chysegru er cof am Dr Thomas Parry Jones OBE (1935-2013), gwyddonydd, dyfeisiwr ac entrepreneur o Gymru, a fu'n gyfrifol am ddatblygu a marchnata'r anadlydd electronig cyntaf.

Yn gyn-fyfyriwr ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, sefydlodd Dr Tom Parry Jones a'i wraig Raj Parry Jones y gronfa yn 2002 i annog pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd ac i annog entrepreneuriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r gronfa'n cefnogi rhaglenni ar draws y Brifysgol, gan gynnwys Gŵyl Wyddoniaeth Bangor, ac mae Prifysgol Bangor yn ddiolchgar iawn i Mrs Raj Parry Jones am ei chefnogaeth barhaus. 
 

Mwy o wybodaeth

Ers ei sefydlu ym 1884, mae Prifysgol Bangor wedi arbenigo mewn meysydd allweddol o wyddoniaeth.Mae ei lleoliad unigryw a’i hetifeddiaeth ddiwylliannol wedi ychwanegu at ei thraddodiad hir o ymchwil benigamp ac, ochr yn ochr â hyn, mae hi wedi ymrwymo i gyfathrebu ac i gynnwys unigolion a chymunedau, er mwyn symbylu datblygiad gwybodaeth ac arloesi.

  • Ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli pobl ifanc ynglŷn â gwyddoniaeth; eu grymuso fel dinasyddion, a chreu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr.
  • Nodi meysydd o ddiddordeb i’r cyhoedd a hefyd y rheiny sy’n achosi pryder, lle gall gwyddonwyr gyfrannu at drafodaethau er mwyn cyfnewid syniadau ac arbenigedd
  • Gwella mynediad y cyhoedd at ymchwil, a symbylu trafodaeth ar ddulliau a chanlyniadau gwyddonol, eu perthnasedd a’r goblygiadau ehangach ar gymdeithas.
  • Cynnal ymchwilwyr yn eu hymdrechion i adfyfyrio ar faterion a godir gan eu hymchwil.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?