Llun o Brif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor yn y cefndir

Dathlu'r 140

Dathlu 140 mlynedd o ragoriaeth academaidd ac effaith fyd-eang Bangor

140th Anniversary logo

Dathlu 140 mlynedd o ragoriaeth academaidd ac effaith fyd-eang Bangor

Yn 2024, bydd Prifysgol Bangor yn nodi 140 mlynedd ers ei sefydlu, gan ddathlu cant a deugain o flynyddoedd o ragoriaeth academaidd, ymchwil arloesol a phrofiadau gwych i fyfyrwyr.

Ymunwch â ni wrth i ni ailedrych ar yr etifeddiaeth a ddechreuodd ym 1884, a cadwch lygad ar y dudalen hon gan mai yma byddwn yn rhannu newyddion am ddigwyddiadau difyr, a straeon calonogol wrth i ni ddathlu'r garreg filltir fawr hon.

Y Dechreuadau

Ar ddechrau'r 1880au gorymdeithiodd torf o dair mil o ffermwyr, chwarelwyr a'u teuluoedd i lawr Stryd Fawr Bangor i fynnu addysg uwch.  Codwyd £1,200 ganddynt i drawsnewid hen dafarn y goets fawr, y Penrhyn Arms, i fod yn Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, fel yr adwaenid y sefydliad bryd hynny.

Agorodd y Brifysgol ei drysau ar 18 Hydref 1884 i 58 o fyfyrwyr, gyda deg aelod o staff. Cyflwynwyd graddau i fyfyrwyr i ddechrau gan Brifysgol Llundain tan 1893, pan ddaeth Bangor yn un o dri choleg cyfansoddol gwreiddiol Prifysgol Cymru.

Merch oedd y cyntaf i gofrestru.  Roedd Mary Ellen Williams yn ferch gyffredin, nid o gefndir cyfoethog a dylanwad fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.  Merch leol oedd hi, merch i groser. Roedd myfyrwyr benywaidd yn draean o’r myfyrwyr yn y blynyddoedd cynnar - a oedd yn anarferol yn y cyfnod.  

Un o'r merched cyntaf yn y Brifysgol oedd Margaret Verney o Blas Rhianfa ar Ynys Mon.  Byddai merched yn gwneud cyfraniad mawr at dwf addysg prifysgol yng Nghymru. 

Ym 1903, rhoddodd cyngor dinas Bangor lain 10 erw o dir yn edrych dros y ddinas ar gyfer adeiladu adeilad prifysgol newydd, mwy.   Lewis D Jones (Llew Tegid), prifathro lleol, a arweiniodd yr ymdrechion codi arian ar draws Gwynedd a Môn i helpu ariannu’r adeilad newydd.  Cyfrannodd miloedd o ffermwyr, chwarelwyr a phobl leol at y nod o godi £120,000.  

Gosodwyd y garreg sylfaen ym 1907, a phedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1911, agorwyd y prif adeilad trwy ymweliad Brenhinol.

Hanes Prifysgol Bangor ar Ffilm

Trwy gydol y flwyddyn hon o ddathliadau, bydd y brifysgol yn lansio cyfres o 6 ffilm sy’n adrodd hanes difyr Bangor.  Ymunwch â Gari Wynn, yr hanesydd a’r gŵr busnes lleol, wrth iddo fynd â ni ar daith o amgylch y campws a dinas Bangor, a chael gweld arddangosiad o rai o gasgliadau arbennig Adran Archifau Prifysgol Bangor.

00:00:01
Dyma Brifysgol Bangor. Prifysgol â thros 10,000 o fyfyrwyr, nid yn unig o Gymru, ond o bedwar ban byd.

 

00:00:04
Ymunwch â ni yn y ffilm fer hon i glywed sut y daeth y brifysgol i fod. Mae stori dechreuad Prifysgol Bangor yn hudolus. Lowri ydw i, a dwi’n astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yma ym Mhrifysgol Bangor. Dyma'r gyntaf mewn cyfres o chwe

00:00:34
ffilm sy'n archwilio hanes Prifysgol Bangor.  Yma i fynd â ni ar daith hynod ddiddorol mae Gari Wyn, hanesydd lleol, dyn busnes ac un a raddiodd o Ysgol Hanes Prifysgol Bangor. Helo Gari, felly be ydi'r stori heddiw i mynd ymlaen hefo ni. Wel,‘da ni’n dechrau yn y dechrau. Sefydlu’r coleg cyntaf yn 1884 a gwireddu’r freuddwyd yma yn lle ‘da ni’n sefyll rŵan yn y cwad yn 1911.

00:00:59
Uwch ben y twr draw acw mae gennym ni ffigyrau pwysig yn hanes Cymru. O'r ochor yma. O’r ochr yma ‘da ni ddim ond yn gweld Llywelyn ap Gruffudd ac yna Dewi Sant. Ond ar yr ochor arall mae Owain Glyn Dwr a mae Owain Gwynedd

00:01:11
dau dywysog cyntaf Cymru ac Owain Glyndŵr ydi’r dyn greodd y freuddwyd yma achos holl syniad Owain Glyndŵr oedd Dyma chi ddechreuad cenedlaetholdeb Cymreig,

00:01:24
eglwys ddatgysylltiedig a hefyd Senedd annibynnol ac efallai, efallai yn fwy perthnasol i ni yn sefyll yma yn cwad y Brifysgol newydd, Prifysgol

00:01:36
annibynnol. Felly byddaihynny wedi cymryd pedwar can mlynedd i gael ei hun yn barod? Yn union, pedwar can mlynedd cyn i’r holl beth ddigwydd ac wedyn pobl ym Mangor, pobl busnes lleol, pobl hefo gweledigaeth yn sicrhau cael y gwesty gan y teulu Penrhyn ac

00:01:51
wedyn newid y gwesty i fod yn goleg annibynnol hefo adrannau gwahanol ac un hefo llyfrgell. Wedyn cam wrth gam, yn mynd o 1884, a (David) Lloyd George yn dod i mewn i’r stori yn 1890 a sawl person unigol arall ym Mangor yn

00:02:08 helpu i greu'r adeilad gwych yma a godwyd rhwng 1907 ac 1911, a hynny wedi ei fodelu ar golegau Lloegr Balliol a Choleg Yr Iesu yn fwy arbennig. Bysa ni’n gallu dweud bod hwn yn enghraifft gyntaf o ariannu torfol o’r adeg yna...Mae hynny’n berffaith wir Lowri.

00:02:29
Y gwir amdani ydi oedd yna drawstoriad o gymdeithas. Oedd gennych chi’r chwarelwyr tlawd, yr amaethwyr tlawd, unigolion amlwg iawn – pob math o bobl i gyd hefo un nod sef gwireddu’r freuddwyd o greu’r brifysgol gyntaf oedd gynna ni yng Ngogledd Cymru a a gwneud hynny yn y pen draw a gwneud hynny yn y pen draw ar ôl wythnosau a

00:02:49
misoedd o gasglu arian. Dechrau hefo 1200 o chwarelwyr tlawd oedd wedi cyfrannu tuag at yr holl broses a wedyn erbyn -amser agor y gwesty mawr yma a’i droi o’n brifysgol fodern, a hynny ym mis Hydref 1884, rydym yn ffeindio

00:03:08
eu bod wedi casglu £35,000! Wedyn, ar hyd stryd fawr Bangor, sef y stryd hiraf yng Ngogledd Cymru, y stryd fawr hiraf yng Nghymru i gyd. dwy filltir bron iawn o un pen i’r llall, roedd prosesiwn enfawr o bobl. Tair mil o bobl yr ardal yn dod ac yn clodfori'r digwyddiad mawr yma a hynny wrth gwrs yn

00:03:29
tanio’r freuddwyd fawr o ddechreuad y brifysgol ti’n rhan ohoni heddiw. A faint o fyfyrwyr oedd yn y brifysgol ar. Yr adeg yna? Wel y cofrestru cyntaf yn y flwyddyn gyntaf, 58 o fyfyrwyr, ond beth sy’n hynod o arloesol

00:03:44
ydi bod 19 o rheini yn ferched ac roedd hynny’n hollol ddieithr yn hanes prifysgolion Cymru felly roedd Bangor ar flaen y gad o safbwynt addysg merched hefyd. Felly Gari, ydynni’n gwybod rhywbeth am y merched cyntaf a raddiodd yma ym Mhrifysgol Bangor?

00:04:00
Mae gennym ni lot o wybodaeth amdanyn nhw Lowri. Roedd sawl un yn gymeriadau difyr iawn ond efallai’r pwysicaf ohonynt i gyd yw dynes o’r enw Margaret Mary Verney, hi’n aelod

00:04:11
amlwg o deulu Plas Rhianfa ar Ynys Môn a’r ferch gyntaf i raddio ymysg merched cyntaf Bangor. Hefyd wedyn yn dod yn aelod o Gyngor y Brifysgol ac efallai’n bwysicach na dim, yn cyfrannu tuag at addysg merched trwy Brydain, rhywbeth doedd merched ddim yn gwneud yn ystod y cyfnod yna

00:04:32
a dod yn aelod o’r pwyllgor oedd yn datblygu Prifysgol Cymru.  Felly mae cyfraniad Margaret Verneyyn gyfraniad allweddol pwysig yn hanes addysg yng Nghymru a hyd yn oed

00:04:42
yn hanes addysg ym Mhrydain hefyd. Felly Shan, allwch chi ddweud rhywbeth am brifathro cyntaf a’r athrawon cyntaf yma ym Mhrifysgol Bangor? Pwy oedd y cyntaf i ddysgu yma? Harry Reichel oedd y prifathro cyntaf. Gwyddel o dras

00:04:57
Almaeneg chwaraeodd ran allweddol yn datblygu’r brifysgol am bron i hanner canrif ac fe ddysgodd Cymraeg yn rhugl.   Mi ddechreuodd o adrannau hollol chwyldroadol yn y byd addysg ar y pryd – adran

00:05:14
coedwigaeth, adran clasuron, ac efallai yn fwy arbennig na dim, yr adran amaethyddiaeth - y cyntaf un ym Mhrydain yma ar gyrion Bangor.

00:05:24
Doedd o erioed wedi digwydd mewn Prifysgol o’r blaen ac roedd o hefyd yn ddyn oedd yn tynnu pobl alluog o’i
gwmpas o. Yn enwedig yr athrawon newydd

00:05:35
Syr Henry Jones, un o athronwyr mwyaf yn hanes athroniaeth y brifysgol ac yna nes ymlaen roedd Syr John Morris Jones.  Heb Syr John Morris Jones ddaeth yn athro yma ychydig o flynyddoedd wedyn, o dan arweiniad Reichel,

00:05:53
fysa gennym ni ddim gramadeg Cymraeg heddiw yma. Fysa na ddim patrwm o orgraff a sylfaen i addysgu'r Gymraeg mewn prifysgolion ddim wedi cael ei gosod oni bai am Harry Reichel. Felly oedd popeth yn tyfu,

00:06:07
ond o ble oedd y cyllid a’r arian yn dod? Unwaith eto oedd y gymdeithas yn dod at ei gilydd, ychydig iawn o’r arian oedd yn dod o’r tu allan. Mi roedd pobl fel William Rathbone o Lerpwl yn hel pobl at ei gilydd ac roedd

00:06:21
adeiladwyr o Lerpwl fel y teulu Clwyd a’r teulu Roberts i gyd yn rhoi arian tuag at ddyfodol y coleg ac i feithrin adrannau newydd. Mewn dim o amser

00:06:31
roedd pobl yn cael parch newydd tuag at y ddinas oherwydd yr holl waith oedd Bangor yn wneud ir byd addysg. ac mi ddaru’r Caernarfon and Denbigh gyfeirio at Fangor yn y cyfnod yma fel: ‘The Athens of Wales!” Diolch Gari, ffordd wych i orffen y bennod gyntaf.

00:06:49
Dilynwch ran nesaf y stori hynod ddiddorol hon drwy ymuno â ni yn rhan dau – Gweledigaeth 1884 – Twf y brifysgol a’i hadeiladau. Gweledigaeth 1884 – Twf y Brifysgol a’i hadeiladau.

Rhan Dau - Gweledigaeth 1884

00:00:01,600 --> 00:00:10,330
Dyma Prifysgol Bangor. Un o'r prifysgolion gyntaf i'w adeiladu yn Nghymru a bellach yn y pump uchaf yn y Deyrnas Unedig.


00:00:10,720 --> 00:00:15,400
Lowri ydw i a dwi'n astudio a symud a plentyndod ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor.


00:00:15,730 --> 00:00:20,080
Dyma'r ail allan o Chwech ffilm sydd yn edrych i fewn i hanes Prifysgol Bangor.


00:00:20,410 --> 00:00:26,979
Felly Gary dywedwch i ni'r cam nesaf o'r stori hyn. Wel ar ôl i'r coleg sefydlu ei hun draw yn fan acw


00:00:26,980 --> 00:00:31,840
drosodd milltir i'r dwyrain yn Porth Penrhyn yn y Gwesty Penrhyn,


00:00:32,080 --> 00:00:37,209
mi roedd dechrau galw am fwy o addysg i bobl y cylch ac angen prifysgol newydd


00:00:37,210 --> 00:00:40,810
i Ogledd Cymru. Wedyn mae Lloyd George yn dod i mewn i'r stori achos yn 1890


00:00:40,810 --> 00:00:49,510
mae Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog yr Amgueddfa Genedlaethol yn cael ei adeiladu ac yn anelu at godi'r adeilad gwych yma yn y flwyddyn


00:00:49,510 --> 00:00:56,379
1911 ac i wneud hynny oedd angen cant a hanner o filoedd rhywbeth tebyg i dri chan miliwn heddiw ma


00:00:56,380 --> 00:01:05,190
Fyswn i'n ddweud Lowri. Felly Gari lle gafon nhw'r arian i adeiladu'r prifysgol newydd?


00:01:05,190 --> 00:01:11,909
Wel mi aeth pobl fatha Lloyd George a William Rathbone ati i sefydlu Pwyllgor Codi Arian a phenodi dyn o'r enw


00:01:11,910 --> 00:01:19,080
Llew Tegid oedd yn brifathro lleol yn Ysgol y Garth a'i swydd newydd o oedd y casglu'r


00:01:19,080 --> 00:01:26,069
arian ag perswadio bobl i gyfrannu tuag at godi yr adeilad gwych yma oedd yn mynd i fod yn hollol


00:01:26,070 --> 00:01:32,370
wahanol adeilad i'r hen goleg a dechrau ar y gwaith hwnnw yn 1907 a'r garreg yma,


00:01:32,370 --> 00:01:41,040
sef y garreg sylfaen gwreiddiol yn cael ei dadlennu gan y Brenin Edward y Seithfed y cwmni lleol yr enw Cwmni Watkin Jones yn gwmni enwog y Mangor.


00:01:41,040 --> 00:01:44,879
yn gyfrifol am wneud y gwaith cynnar a hefyd o dan y garreg,


00:01:44,880 --> 00:01:52,560
welwch chi garreg i goffhau Henry Hare sef y pensaer arbennig unigryw hwnnw oedd mor enwog yn Lloegar am i adeiladau


00:01:52,560 --> 00:01:59,310
yn Rhydychen a Chaergrawnt a llefydd felly a mae ei garreg o yn fama hefyd yn atgoffa ni am y diwrnod yna yn 1907


00:01:59,310 --> 00:02:06,510
ac ym mhen pedair blynedd oedd yr adeilad ysblennydd yma wedi agor. Felly Gari da ni yn llyfrgell Shankland


00:02:06,510 --> 00:02:14,819
rwan. Lle yn union gafodd y Brifysgol yr holl arian a defnyddiau i allu gwneud yr adeilad yma? Wel mae'r stori yma'n hollol unigryw.


00:02:14,820 --> 00:02:22,139
Y dyn gafodd ei benodi i greu y llyfrgell, cyntaf un o gasgliad enfawr o lyfrau mwy a gwerthfawr


00:02:22,140 --> 00:02:28,950
a prin oedd gan Cymru yn ei bodolaeth oedd Thomas Shankland ac oedd angen adeilad oedd yn


00:02:28,950 --> 00:02:36,090
cyd fynd yn urddasol hefo'r holl hanes yna ag wedyn mi ddaru na ddyn or enw Owen Owens,


00:02:36,390 --> 00:02:46,230
perchennog siop fawr yn Llundain ac yn Lerpwl a ty haf ganddo yn Penmaenmawr yn wreiddiol o Machynlleth a fo dalodd am y paneli derw gwych.


00:02:46,230 --> 00:02:56,460
yma sydd wedi dod o Awstria yr adeilad ei hun y strwythur, wedi cael ei adeiladu ar arian cymdeithas y brethynwyr,


00:02:56,790 --> 00:03:04,439
sef y Royal Drapers' Society, does yna ddim adeilad tebyg iddo yn y coleg yma


00:03:04,440 --> 00:03:07,980
a dros am adeilad tebyg iddo fo yng Ngogledd Cymru os fyswn i'n bod yn fanwl gywir.


00:03:11,280 --> 00:03:16,710
Oce ta Gari da ni rwan yn y neuadd dwi'n siwr bod ganddo chi lot o hanes am yr ystafell yma.


00:03:17,340 --> 00:03:20,960
Beth ydi'r prif hanes yn fan hyn? Wel, mae rhaid i ni gofio


00:03:20,970 --> 00:03:26,280
Mae John Pritchard Jones o boced ei hun. Mab ffarm o ardal lle ti'n dod ohoni


00:03:26,280 --> 00:03:32,129
hi yn wreiddiol Lowri wedi talu bron i bymtheg mil o bunnoedd a hynny oherwydd bod Lloyd George wedi gofyn iddo


00:03:32,130 --> 00:03:40,530
wneud hynny oherwydd roedd nhw'n teimlo bod rhaid cael neuadd wych urddasol enfawr fel hyn a


00:03:40,530 --> 00:03:44,730
roedd hi'n arloesol yn ei chyfnod oherwydd nid yn unig oedd hi'n dal 1500 o bobl,


00:03:45,030 --> 00:03:54,240
ond hefyd wyt ti'n mae yna bob math o nodweddion cynnar, newydd, modern yma yn arbennig felly y goleuadau ma achos mae'r goleuadau yma


00:03:54,480 --> 00:04:03,180
yn cael eu galw yn Electroliers a be ydi hynny yn y pen draw ydi'r canhwyllyr cyntaf ym Mhrydain yn gweithio hefo trydan a fel ti'n gweld


00:04:03,180 --> 00:04:11,489
mae yna urddas arbennig y paneli y paneli derw yma wedi dod, y rhan fwyaf o Awstria a ffenestri arbennig a'r bleindiau arbennig.

00:04:11,490 --> 00:04:18,540
Mae bob dim wedi cael i'w bwyso a mesur gan y pensaer Henry Hare.


00:04:19,030 --> 00:04:25,500
Dwi'n ym meddwl fod yna neuadd fawr mwy urddasol na hon ym Mhrydain i gyd. Da ni'n lwcus iawn yma ym Mangor felly! Gwir!


00:04:26,500 --> 00:04:30,219
Diolch yn fawr iawn Gari mae'n rhoi persbectif gwahanol ar yr adeiladau


00:04:30,220 --> 00:04:36,670
mae myfyrwyr yn cerdded drwyddyn nhw bob un dydd bob un dydd. Ymunwch a ni eto nesa i ddarganfod mwy am hanes Prifysgol Bangor.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?