Students sitting on the steps outside Pontio

Llysgenhadon Myfyrwyr

Oes gennych chi angerdd am eich prifysgol ac Addysg Uwch? Ydych chi yn hoffi cwrdd ag eraill a rhannu eich profiadau? Os felly, dylech ystyried bod yn Llysgennad Myfyrwyr!

cOFRESTRU EICH DIDDORDEB

Manteision bod yn Llysgennad Myfyrwyr

Mae bod yn Llysgennad Myfyrwyr yn rôl amrywiol iawn sydd yn cynnig amryw o gyfleoedd cyffrous i chi ddatblygu eich sgiliau arwain, adeiladu tîm a chyfathrebu, a fydd yn cryfhau eich CV a’ch cyflogadwyedd wedi i chi raddio. 

Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn cael eu cyflogi ar gytundeb achlysurol. Bydd amryw o gyfleoedd cyflogedig yn cael eu cynnig i Lysgenhadon yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Byddwch yn gweithio gyda Llysgenhadon Myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau gwahanol ac sydd mewn blwyddyn academaidd wahanol i chi. Cyfle gwych i wneud ffrindiau newydd!

Fel Llysgennad, byddwch yn creu cysylltiadau ac yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o staff dysgu. 

Byddwch yn sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd am Brifysgol Bangor. Mi fydd gennych chi rôl arwyddocaol yn y broses recriwtio wrth i chi helpu darpar fyfyrwyr ddod o hyd i gwrs.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Disgrifiad Swydd Llysgennad Myfyrwyr

Bydd Llysgenhadon yn cynrychioli Prifysgol Bangor a chynorthwyo gyda digwyddiadau recriwtio, ar y campws ac yn allanol. Darllenwch y disgrifiad llawn o'r swydd isod.

  • Ysgol/Adran: Recriwtio a Derbyniadau’r DU
  • Cyflog: £12.22 yr awr
  • Hyd cytundeb: Achlysurol
  • Yn atebol i: Uwch Swyddog Llysgennad Myfyrwyr
  • Dyddiad Cau: 08-12-2023

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer rôl Llysgennad Myfyrwyr ar sail contract achlysurol.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Cynorthwyo’r Brifysgol i ddarparu cyfleoedd ymgysylltu ar draws y campws gan gynnwys dyddiau agored a Dyddiau deiliaid cynnig.
  • Cynrychioli’r Brifysgol ar ddyddiau agored ac amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, ar y campws ac oddi arno. Gall hyn gynnwys aros i ffwrdd o’r brifysgol a gweithio gyda’r nos a phenwythnosau.
  • Cynnal teithiau o amgylch y campws, neuaddau a chwaraeon mewn digwyddiadau ar draws y Brifysgol.
  • Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr i’r Brifysgol gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad pleserus ac o ansawdd uchel.
  • Darparu gwybodaeth ac ateb ymholiadau am fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor i ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni.
  • Cyfle i gynorthwyo ysgolion ac adrannau academaidd ar draws y Brifysgol ar brojectau a digwyddiadau amrywiol.
  • Darparu adborth llafar ac ysgrifenedig fel rhan o broses werthuso’r Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr.
  •  Unrhyw dasg neu rôl arall a ystyrir yn angenrheidiol gan yr Uwch Swyddog Llysgenhadon Myfyrwyr a Phrifysgol Bangor.
  • Ymwneud â pholisïau iaith Gymraeg y Brifysgol.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion gwaith a chynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol.

Gofynion Personol

Cymwysterau/Hyfforddiant

Hanfodol

  • Rhaid bod yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor.

Profiad/Gwybodaeth

Dymunol

  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o Brifysgol Bangor.
  • Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy waith cyflogedig neu wirfoddol.
  • Profiad o hwyluso gweithdai grŵp a/neu fentora.
  • Profiad o fod yn Arweinydd Cyfoed.
  • Profiad o ddefnyddio Campus Connect ac Unibuddy.
  • Profiad o arwain teithiau campws neu neuaddau.

Sgiliau/Galluoedd

Hanfodol

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Bod yn frwdfrydig, yn ddibynadwy a phrydlon.
  • Gallu ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd ystod eang o ddarpar fyfyrwyr.
  • Gallu defnyddio blaengarwch i ddatrys problemau a gweithio’n greadigol.
  • Bod yn barod a brwdfrydig i rannu eich profiad o Brifysgol Bangor.
  • Cadw meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu.

Dymunol

  • Profiad blaenorol o weithio gydag amrywiaeth o bobl a pharodrwydd i ymgysylltu ag unigolion.
  • Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg.
  • Gallu cyfathrebu mewn ieithoedd eraill.
  • Profiad o greu cynnwys ar gyfer flogiau.
  • Gallu creu cynnwys ysgogol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
  • Diddordeb mewn ysgrifennu blogiau.

Cyffredinol

Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hynny trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithlu o bob rhan o'r gymuned beth bynnag fo eu rhyw, hunaniaeth rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, dyletswyddau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg trwy ein Polisi Iaith blaengar. Rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff pob cais ei drin yn gyfartal.

Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhyw Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi derbyn gwobr Efydd i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw a'r cynnydd a wneir ym mholisïau, arferion a diwylliant y Brifysgol. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Mae’n ddyletswydd ar yr holl staff i sicrhau bod eu gweithredoedd yn cydymffurfio ag amcanion amgylcheddol cyffredinol y Brifysgol a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Mae pob cynnig yn amodol ar dystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig ac ar dderbyn geirdaon boddhaol.

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnom i sicrhau bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn y gallwch ddechrau gweithio inni. O wneud cais am y swydd bydd gofyn i chi egluro ar ba sail y credwch y byddwch yn gallu byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithiol ar ddyddiad dechrau’r swydd os bydd eich cais yn llwyddiannus. Os nad oes gennych yr hawl i weithio’n rhydd mewn unrhyw swydd yn y Deyrnas Unedig eisoes, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth y byddwn yn ei wneud i chi yn amodol arnoch chi’n cael fisa hawl i weithio. Mae'r ddolen yma yn darparu gwybodaeth am y gwahanol lwybrau fisa i gyflogaeth a'r gofynion cymhwystra (gan gynnwys newid statws fisa lle caniateir hynny). Os bydd eich cais yn llwyddiannus byddwn yn trafod yr opsiynau o ran fisa gyda chi ar adeg cynnig y gwaith cyflogedig.

Cofiwch, os derbyniwn geisiadau gan ymgeiswyr sydd ar Gofrestr Adleoli’r Brifysgol ac sydd â sgiliau sy’n cyfateb yn weddol i ofynion y swydd, caiff yr ymgeiswyr hynny eu hystyried yn gyntaf.

Cofrestru eich diddordeb

Os ydych yn unigolyn cyfrifol ac yn frwd dros rannu eich profiadau gyda darpar fyfyrwyr ac yn awyddus i gynrychioli Prifysgol Bangor drwy fod yn Llysgennad Myfyrwyr, byddem wrth ein bodd clywed gennych.

Cofrestru eich diddordeb

Beth nesaf? 

Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich diddordeb, bydd un o’r tîm yn cysylltu pan fydd cyfnod ceisio’r cynllun yn weithredol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’r tîm. 

Cysylltu â ni 

Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen isod

Trwy lenwi'r ffurflen hon, rydych yn cytuno i Brifysgol Bangor gysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth am y Cynllun Llysgennad Myfyrwyr.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?