UWB Crest

Ysgol Busnes Bangor

Mwy amdanom ni

Mae Ysgol Busnes Bangor ym Mhrifysgol Bangor yn ysgol busnes flaenllaw ym meysydd dysgu ac ymchwil gan gynnig amrywiaeth llawn o ddisgyblaethau o lefel israddedig i ddoethurol. Rydym wedi cael ein disgrifio fel ‘Yr Ysgol sy’n meddwl Busnes’ ac fel ‘Canolfan Rhagoriaeth Arbenigol’. Mae’r ddau yn wir!

Wedi ei sefydlu yn 1884, mae gan Prifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd sy’n parhau hyd heddiw.  Mae dros hanner yr adrannau a aseswyd hyd yma yn yr asesiadau ansawdd dysgu wedi cael y raddfa uchaf, sef  'rhagoriaeth', a dyfarnwyd Ysgol Busnes Bangor fel y gorau yn y DU am ansawdd yr ymchwil a chyflawnwyd gan ein staff ym maes Cyfrifeg a Chyllid. Enwyd Bangor fel y Brifysgol gorau yng Nghymru am safon ei dysgu, ac mae o hefyd ymhlith y 15 prifysgol gorau yn y UK am ragoriaeth dysgu (Sunday Times University Guide for 2012). Yn 2011, enwyd Prifysgol Bangor fel un o’r 275 prifysgolion gorau yn y byd yn raddfa 'Times Higher Education World University'.

Caiff myfyrwyr eu denu at Ysgol Busnes Bangor gan ein henw da am ansawdd uchel ac arbenigedd, yn arbennig ym maes Gwasanaethau Bancio a Chyllid. Mae Bangor yn ganolfan Ewropeaidd bwysig yn y maes hwn ac mae’n cynnwys un o ysgolion PhD mwyaf unrhyw ysgol fusnes yng ngwledydd Prydain.  Mae papurau ac erthyglau gan staff ymchwil yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd mewn cyfnodolion amlwg a chyhoeddir eu llyfrau i gynulleidfa fyd-eang. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein staff wedi gwneud gwaith ymgynghorol ar lefel uchel, yn cynnwys astudiaethau polisi o bwys i lawer o sefydliadau blaenllaw, fel y Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd a Thrysorlys y DU.  

Trwy ffurfio cysylltiadau â phrifysgolion led led y byd ac ymwneud â busnes, diwydiant a sefydliadau allanol, mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig dimensiwn eang i ddisgyblaethau academaidd, gan wella’r amgylchedd academaidd i staff a myfyrwyr. Rydym yn pwysleisio’r cysylltiadau rhwng ein pynciau a’r byd go iawn.  Mae astudiaethau achos, materion cyfoes, gwaith maes a pherthnasedd ymarferol yn nodweddion pwysig yn ein graddau.

Ym mis medi 2011, daeth Prifysgol Bangor y sefydliad Addysg Uwch Cymraeg gyntaf i agor campws yn Llundain. Mae Canolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor, sydd wedi ei leoli yng nghanol bwrlwm yr ardal ariannol, yn cynnig dewis o raglenni arloesol MSc a MBA'r Ysgol Busnes i fyfyrwyr a gweithredwyr sydd yn dymuno cyfuno profiad Llundain gydag arbenigedd academaidd Bangor.