UWB Crest

Cyrsiau

Diwrnodau Agored

Image of Open Day

Diwrnodau Agored y Brifysgol

Cynhelir ein Diwrnod Agored nesaf ar Ddydd Sadwrn 7fed o Orffennaf 2012. Mae cofrestru nawr yn agored...

Rydym yn cynnal nifer o Ddiwrnodau Agored drwy gydol y flwyddyn er mwyn rhoi syniad i chi o sut beth ydy astudio yma ym Mangor.

Ar Ddiwrnod Agored cewch:

  • fwy o wybodaeth am yr ysgolion academaidd/cyrsiau
  • taith o amgylch y campws a chael cipolwg ar y neuaddau preswyl
  • cyfarfod staff y Brifysgol a myfyrwyr presennol
  • syniad o sut beth ydy bywyd myfyriwr ym Mangor

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am ein Diwrnodau Agored, cysylltwch â'r Uned Recriwtio Myfyrwyr ar 01248 388143/382005 neu e-bostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk

Darganfyddwch fwy am ein Diwrnodau Agored, gwyliwch fideos a darllenwch ein canllawiau i gael y mwyaf o'ch ymweliad i Fangor yma.

Diwrnodau Agored yr Ysgol/UCAS

Rydym yn cynnal nifer o Ddiwrnodau Agored drwy gydol y flwyddyn er mwyn rhoi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl os ydych yn penderfynu dod i astudio yn ein hysgol.

Mi fydd ein staff a’n myfyrwyr presennol ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i roi gwybodaeth fanwl i chi am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Cewch hefyd fynd am dro o amgylch y ddinas ac fe awn â chi am daith o amgylch y neuaddau preswyl er mwyn rhoi cipolwg i chi o sut beth ydy bywyd ym Mangor.

Os ydych wedi gwneud cais trwy UCAS, bydd yr adran yn cysylltu â chi er mwyn eich gwahodd i'r Diwrnod Agored.

Cliciwch yma i gael rhestr o ddyddiadau Diwrnodau Agored yr Ysgol/UCAS

Map o'r Brifysgol

Cliciwch i lawrlwytho map o Fangor (PDF).

Ffair Cyrsiau Ôl-radd

Cynhelir Ffeiri Cyrsiau Ôl-radd ar