Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein graddau Meistr trwy Ymchwil yn cynnwys cynllun astudio ac ymchwil, a ddiffinnir ymlaen llaw (fel arfer gan y myfyriwr), ac a fydd fel arfer yn (a) werthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth, a/neu (b) yn gyfraniad gwreiddiol at y maes. Ar gyfer MMus trwy Ymchwil, mae projectau fel arfer yn cynnwys cyfansoddiad neu berfformiad fel rhan fawr o'r broses ymchwil a'r cyflwyno.
Mae gan bob myfyriwr bwyllgor goruchwylio, sy'n cynnwys prif oruchwylydd, tiwtor personol, ac aelod arall o'r staff sydd ag arbenigedd perthnasol. Mae'r myfyrwyr ymchwil yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'u goruchwylydd ac mae hawl ganddynt i ymgynghori ag aelodau eraill o'u pwyllgor fel bo'n briodol. Cânt eu hannog hefyd i gyflwyno adroddiadau ynghylch eu gwaith mewn seminarau a cholocwia yn ystod pob un o'u cyfnodau astudio.
Mae cyflwyno MMus trwy Ymchwil fel arfer yn cynnwys cyflwyniad testunol (yn nodi cwestiynau, methodoleg a chanfyddiadau'r ymchwil, ac yn egluro sut mae'r gwaith sy'n seiliedig ar ymarfer yn dangos canlyniadau ymchwil, a heb fod yn fwy na 15,000 o eiriau), yn ogystal ag un o'r canlynol:
- Cyfansoddi: Portffolio o gyfansoddiadau, gan gynnwys tua 60 munud o gerddoriaeth.
- Perfformiad: Datganiad cyhoeddus tua 50-60 munud o hyd.
Gwneir yr asesiad terfynol trwy arholiad viva voce gan banel penodedig sy'n cynnwys arholwr mewnol o'r Ysgol (ddim yn union yr un fath ag aelodau'r pwyllgor goruchwylio), un arholwr allanol sy'n arbenigwr yn y maes, a chadeirydd.
Gofynion Mynediad
Gradd gyntaf o Brydain o safon Baglor (neu gyfwerth), a honno'n radd dosbarth cyntaf fel rheol. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynnig ar gyfer eu project ymchwil (gan gynnwys cwestiynau ymchwil, methodoleg, ac adolygiad llenyddiaeth). Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno samplau o'u gwaith ysgrifenedig. Gofynnir hefyd i ymgeiswyr yr MMus trwy Ymchwil gyflwyno enghreifftiau o'u gweithgareddau perthnasol diweddar fel perfformwyr neu gyfansoddwyr (i berfformwyr, gallai hynny fod ar ffurf perfformiad fideo heb ei olygu yn ddiweddar sy'n para tua 30 munud). Rhaid i ymgeiswyr nad yw'r Gymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.5 (heb yr un elfen yn is na 6.0).
Derbynnir ymgeiswyr yn ôl cryfder eu perfformiad academaidd ar lefel Baglor, ac yn ôl gwreiddioldeb a dichonoldeb eu cynnig ymchwil.
Gyrfaoedd
Yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn meistroli'r maes a byddant yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol at y maes pwnc. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud ymchwil ôl-radd PhD. Mae natur annibynnol, hunan-ysgogol a hunangyfeiriedig y broses ddysgu'n cymhwyso'r graddedigion at swyddi rheoli, rolau ymchwil proffesiynol, galwedigaethau creadigol ar lefel uchel, a gyrfaoedd academaidd.