Cost-effeithiolrwydd triniaethau i afiechydon niwrolegol
Yn ddiweddar, mae'r Athro Dyfrig Hughes a chydweithwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, wedi cyhoeddi canlyniadau tri threial clinigol ar ymyriadau epilepsi a seiatica.
Cymharodd y treialon ‘Standard and New Antiepileptic Drugs’ (SANAD II), dan arweiniad yr Athro Tony Marson o Brifysgol Lerpwl, amrywiaeth o gyffuriau gwrth-epileptig o ran eu gallu i reoli ffitiau, pa mor hawdd eu goddef yw’r sgil-effeithiau a'u cost-effeithiolrwydd, er mwyn asesu a ddylid argymell cyffuriau mwy newydd fel triniaethau rheng flaen.
Roedd y treialon yn cynnwys 1,510 o gyfranogwyr, a ddilynwyd am hyd at chwe blynedd.
Daw'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn meddygol blaenllaw, The Lancet, i'r casgliad mai valproate yw'r dewis cyntaf gorau o hyd ar gyfer epilepsi cyffredinol, tra mai lamotrigine yw’r cyffur llinell gyntaf gorau ar gyfer epilepsi ffocal o hyd.
Asesodd Dr Catrin Plumpton a'r Athro Dyfrig Hughes gost-effeithiolrwydd pob triniaeth, a chyfrifwyd bod valproate yn fwy effeithiol ac yn rhatach yn gyffredinol o'i gymharu â levetiracetam ar gyfer epilepsi cyffredinol. I gleifion ag epilepsi ffocal, mae lamotrigine yn gost-effeithiol o'i gymharu â levetiracetam a zonisamide.
(Gweler: The SANAD II study of the effectiveness and cost-effectiveness of valproate versus levetiracetam for newly diagnosed generalised and unclassifiable epilepsy: an open-label, non-inferiority, multicentre, phase 4, randomised controlled trial. Lancet. 2021 Apr 10;397(10282):1375-1386.
a
The SANAD II study of the effectiveness and cost-effectiveness of levetiracetam, zonisamide, or lamotrigine for newly diagnosed focal epilepsy: an open-label, non-inferiority, multicentre, phase 4, randomised controlled trial. Lancet. 2021 Apr 10;397(10282):1363-1374.
Meddai Dyfrig: "Mae ein hasesiadau economaidd yn cefnogi'r canlyniadau clinigol gan nad oedd y triniaethau llai effeithiol yn gost-effeithiol, ychwaith. Dylai'r canfyddiadau hyn arwain at newid mewn ymarfer clinigol, a symud i ffwrdd oddi wrth levetiracetam, sydd wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth fel y dewis cyntaf o driniaeth."
Cymharodd y treial clinigol NERVES, dan arweiniad Dr Martin Wilby yn y Walton Neurological Centre, effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd llawfeddygaeth â chwistrelliad steroid yng ngwaelod y cefn, rhwng yr asgwrn cefn a madruddyn y cefn - i gleifion â seiatica a achoswyd gan 'ddisg wedi llithro'. Cafodd163 o gleifion eu recriwtio i’r treial rhwng 2015 a 2017. Roedd y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Lancet Rheumatology, yn dangos, er nad oedd gwahaniaethau sylweddol yn y canlyniadau clinigol, bod llawfeddygaeth yn annhebygol o fod yn ddewis cost-effeithiol yn lle chwistrelliad steroid. Amcangyfrifodd Eifiona Wood, Dr Dan Hill-McManus a'r Athro Dyfrig Hughes fod y gymhareb cost-effeithiolrwydd yn uwch na'r trothwy a ddefnyddir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) wrth farnu gwerth ymyriadau gofal iechyd.
Meddai Dyfrig: “Disgwylir i ganlyniadau’r treial NERVES ddylanwadu ar y gofal y mae cleifion â seiatica yn ei gael mewn ysbytai. Nid yw llawfeddygaeth yn ddewis cost-effeithiol i gleifion sy'n gymwys i gael chwistrelliad steroid yn y cefn. Mae'r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried canlyniadau economaidd wrth benderfynu ar y defnydd gorau o adnoddau gofal iechyd."
Ariannwyd y treialon SAND II a NERVES gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.