Bwlio ac Aflonyddu
Beth yw Aflonyddu?
Aflonyddu yw unrhyw ymddygiad di-groeso sy'n tramgwyddo, yn darostwng neu'n brawychu unrhyw un neu sy'n achosi ofn neu ofid. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad corfforol, trais rhywiol, ymosodiad, malais geiriol neu ddi-eiriau, gorfodaeth a stelcio, ond nid yw wedi eu cyfyngu i'r rhain. Mewn rhai achosion, gall aflonyddu fod yn gysylltiedig â gender, hil, ethnigrwydd neu wreiddiau cenedlaethol, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd neu gredoau, oed, anabledd neu unrhyw nodweddion personol eraill.
Effaith yr ymddygiad yn hytrach na bwriad y sawl sy'n ei gyflawni sy'n pennu a oedd yn aflonyddu.
Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys y rhain (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt):
- Cyswllt corfforol: Yn amrywio o gyffwrdd di-groeso at ymosodiad difrifol, ystumiau, bygwth ac ymddygiad ymosodol.
- Ar lafar neu'n ysgrifenedig (yn cynnwys ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol): Sylwadau, awgrymiadau a chynigion di-groeso, sibrydion maleisus, jôcs a thynnu coes, iaith anweddus.
- Di-eiriau: Llenyddiaeth neu luniau anweddus, graffiti a lluniau cyfrifiadurol, ynysu neu ddiffyg cydweithredu a gwahardd neu ynysu o weithgareddau cymdeithasol.
Beth yw Bwlio?
Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwlio ond caiff ei ddiffinio fel arfer fel ymddygiad ailadroddus gyda'r bwriad o frifo rhywun yn emosiynol neu'n gorfforol, ac yn aml caiff ei anelu at rai pobl oherwydd eu hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol neu agwedd arall o'r fath megis edrychiad neu anabledd.
Gall bwlio ddigwydd mewn sawl ffordd gan gynnwys:
- Ymosodiad corfforol
- Pryfocio
- Gwneud bygythiadau
- Galw enwau
- Seiberfwlio