Beth yw eich opsiynau o ran adrodd?
Unwaith y byddwch wedi gwneud datgeliad ynglŷn â Thrais Rhywiol, Aflonyddu neu Droseddau Casineb ac wedi cael mynediad at gefnogaeth, gallwch ddewis adrodd am y mater wrth yr Heddlu a/neu'r Brifysgol os mai dyna yw eich dymuniad.
Adrodd wrth yr Heddlu
Gallwch adrodd wrth yr Heddlu am unrhyw achos o drais rhywiol, aflonyddu neu droseddau casineb trwy ffonio 999 mewn argyfwng neu 101 neu 0300 3300101 os nad yw'n argyfwng. Gallwch hefyd fynd i Orsaf Heddlu a siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff.
Gallwch adrodd wrth yr heddlu'n annibynnol neu gyda chefnogaeth gan aelod o'n staff sydd wedi ei hyfforddi ac mewn achosion o Drais Rhywiol. Gallwch hefyd adrodd trwy Amethyst, sef y Ganolfan Ymosodiadau Rhywiol ac Atgyfeirio.
Adrodd wrth y Brifysgol
Yn ogystal ag adrodd wrth yr heddlu, neu'n hytrach na gwneud hynny, gallwch adrodd wrth y Brifysgol yn ffurfiol er mwyn mynd i'r afael â'r mater trwy'r drefn ddisgyblu. Bydd y Brifysgol yn ystyried y mater er mwyn penderfynu a yw rheolau a rheoliadau'r Brifysgol wedi eu torri ac os hynny, bydd yn cymryd camau disgyblu priodol.
Ni all y Brifysgol ymchwilio na chymryd camau disgyblu tra bo proses droseddol yn mynd rhagddi fodd bynnag, ond gallwn gymryd camau i sicrhau eich diogelwch tra bo unrhyw ymchwiliad yn mynd rhagddo. Nid yw'r camau y bydd y Brifysgol yn eu cymryd yn ddibynnol ar ganlyniad ymchwiliad troseddol.
Gall y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr dderbyn adroddiad ffurfiol gennych a'i gyflwyno i'r Prifysgol ar eich rhan.
Adrodd yn Ddienw
Gallwch hefyd adrodd am unrhyw achos o drais rhywiol, aflonyddu neu droseddau casineb wrth y Brifysgol yn ddienw a gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio'r Ffurflen Adrodd a Chefnogaeth neu'n gyfrinachol trwy'r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr.
Ni fydd y Brifysgol yn gallu ymchwilio'n llawn i adroddiad dienw ond gellir defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei darparu i weld a fu cwynion tebyg ac a oes patrwm o ymddygiad neu dueddiadau y dylid ymchwilio iddynt.