UWB Crest

Ysgol y Gyfraith

Gwybodaeth am yr Ysgol

Delwedd yn dangos tri myfyriwr tu allan i Brif adeilad y celfyddydau

Graddau yn y Gyfraith wedi’u cynllunio i ddatblygu gydag amgylchedd newidiol y gyfraith

Mae graddau Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi cael eu cynllunio’n ofalus i ddatblygu gyda thirwedd gyfreithiol newidiol, a rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau cyfreithiol y mae galw amdanynt gan ddiwydiant sy’n fwyfwy byd-eang. Mae cannoedd o fyfyrwyr o nifer o wledydd ar draws y byd yn dewis Ysgol y Gyfraith Bangor bob blwyddyn am ei harbenigedd addysgu a’i hamgylchedd amrywiol, amlddiwylliannol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gynlluniau gradd i israddedigion, gyda’r rhain i gyd yn Raddau Cymwys yn y Gyfraith, sy’n dynodi iddynt gael eu cymeradwyo gan Gymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr. Cânt eu cydnabod wrth gael mynediad at hyfforddiant galwedigaethol proffesiynol, sef yr hyn sydd ei angen i ddod yn Gyfreithiwr neu’n Fargyfreithiwr. Darllenwch fwy am ein graddau i israddedigion ...

Mae ein dewis o raddau Ôl-radd yn ceisio gwthio datblygiadau myfyrwyr ymhellach, gan eu galluogi i gymryd golwg fanylach ar y gyfraith yn gyffredinol neu ddilyn arbenigedd penodol. Mae ein rhaglenni LLM, MBA ac MA wedi cael eu cynllunio’n ofalus i ymateb i’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant cyfreithiol, a chynhyrchu graddedigion galluog, gwybodus. Darllenwch fwy am ein graddau i ôl-raddedigion...

Er mwyn helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn, mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion.

 

Prifysgol gyda thraddodiad hir o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwilio

Sefydlwyd Prifysgol Bangor yn 1884, gan ei gwneud yn un o’r sefydliadau hynaf a mwyaf clodwiw ym Mhrydain sy’n dyfarnu graddau. Am fwy na 120 o flynyddoedd, mae myfyrwyr o bob rhan o’r byd wedi graddio o Fangor ac wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr yn yr yrfa a ddewiswyd ganddynt.

Mae’r Brifysgol wedi codi’n sylweddol yn rhestr ‘Times Higher Education World University Rankings’ 2011-12, a nawr ymhlith y 275 brifysgol gorau yn y byd. Enwyd Bangor fel y brifysgol gorau yng Nghymru am safon ei dysgu, ac mae o hefyd ymhlith y 15 prifysgol gorau yn y UK am ragoriaeth dysgu (Sunday Times University Guide for 2012).

Mae’r Tywysog Siarl yn Ganghellor y Brifysgol, ac yn 2007 ymwelodd â Bangor i ddathlu canmlwyddiant gosod carreg sylfaen Prif Adeilad y Brifysgol.

Darllenwch fwy am Brifysgol Bangor…

 

Cymuned ryngwladol ffyniannus mewn parth diwylliannol unigryw

Gyda myfyrwyr o dros 79 o wledydd ar draws y byd, mae gan Fangor gymuned ryngwladol ffyniannus. Mae’r Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol yn bodoli i helpu i wneud Bangor yn lle cartrefol, gan gynnig cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol a’u teuluoedd cyn eu hastudiaethau, yn ystod hynny, ac ar eu hôl.

Mae dinas Bangor wedi’i lleoli mewn un o’r gosodiadau prifysgol mwyaf ysblennydd ym Mhrydain gyfan, wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a’r Fenai, ac mae’n falch o’i diwylliant Cymreig cyfoethog – lle bynnag yr ewch ym Mangor, fe glywch y Gymraeg yn cael ei siarad ochr yn ochr â holl ieithoedd eraill ein myfyrwyr rhyngwladol.

Darllenwch fwy am fywyd ym Mangor, neu gwyliwch beth sydd gan raddedigion 2011 i ddweud am astudio ym Mangor...

 

 

Arbenigedd ymchwil ar draws pob disgyblaeth o’r Gyfraith

Mae ein staff rhyngwladol yn cynnwys arbenigwyr mewn meysydd yn cynnwys Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ewrop, Cyfraith Caffael, Cyfraith Cystadlu, Cyfraith Cyllid a Llywodraethau Datganoledig. Rhyngddynt, mae ganddynt brofiad sylweddol, amhrisiadwy ar lefelau proffesiynol ac academaidd ac maent wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion a chyhoeddiadau blaenllaw. Adlewyrchir yr arbenigedd hwn yn yr addysgu, drwy’r hyn y bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drwyadl o systemau, materion a hinsoddau cyfreithiol cyfoes ar draws y byd.

Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor hefyd yn gartref i’r Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (ICPS), un o ganolfannau mwyaf blaenllaw Prydain ar gyfer ymchwil i gyfraith caffael cyhoeddus. Mae’r project Ennill wrth Dendro (Winning in Tendering), a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd, wedi’i leoli yn yr ICPS, sydd â’r nod o annog twf economaidd yng Nghymru ac Iwerddon drwy drawsffurfio profiad tendro cyhoeddus cyflenwyr llai.

Darllenwch fwy am weithgarwch ac arbenigedd ymchwil yn Ysgol y Gyfraith Bangor...

 

Cyflwyno cyfres newydd o raddau LLM gan arweinwyr yn eu meysydd

Eleni, mae Prifysgol Bangor wedi lansio naw o raddau LLM newydd sydd wedi eu haddasu’n benodol i ddiwallu anghenion darpar fyfyrwyr a’u paratoi ar gyfer cyflogadwyedd yn y farchnad swyddi fyd-eang.

Mae’r rhaglenni llawn her hyn yn adlewyrchu’r galw diweddaraf mewn diwydiannau ar draws y byd am raddedigion yn y meysydd canlynol: Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Eiddo Deallusol Ryngwladol, y Gyfraith a Bancio, Cyfraith Caffael Cyhoeddus a Chyfraith a Throseddeg.

Bydd y dysgu’n cael ei arwain gan arbenigwyr pwnc sydd â phrofiad proffesiynol ac ymchwil sylweddol yn eu meysydd priodol.

Darllenwch fwy am y rhaglenni newydd hyn…

 

Annog pob myfyriwr i wireddu ei bosibiliadau’n llawn

Mae profiad academaidd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi’i gyfoethogi gan raglen o weithgareddau wedi’i chynllunio i annog myfyrwyr i gyflymu eu datblygiad personol a meithrin y sgiliau sydd eu hangen mewn marchnad swyddi gynyddol gystadleuol.

Drwy ein gwaith parhaus yn datblygu cysylltiadau gydag ymarferwyr cyfreithiol ar draws Brydain, rydym wedi datblygu rhaglen o leoliadau gwaith a phrofiadau mewn swydd gyda nifer o gwmnïau a chorfforaethau cyfreithiol, wedi’u llunio i roi profiad a golwg unigryw i fyfyrwyr ar y math o yrfaoedd y byddent yn dymuno eu dilyn o bosibl ar ôl graddio.

Mae Mooting, yr Innocence Project a Chyfraith Stryd i gyd yn cynnig cyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr roi eu gwybodaeth gyfreithiol ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol, a datblygu sgiliau dadansoddi, cyfathrebu, cyflwyno a gwaith tîm ymhellach.

Yn y dosbarth, mae meintiau dosbarth llai yn meithrin amgylchedd dysgu bywiog ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan lawn yn y profiad dysgu, gyda myfyrwyr a darlithwyr yn datblygu cysylltiadau agos a chefnogol.

Darllenwch fwy am Yrfaoedd a Datblygiad Personol ym Mangor…