UWB Crest

Newyddion

Newyddion Diweddaraf

Delwedd o Brif Adeilad

Gwaith hyfforddi ym maes dementia yn cael sylw mewn rhaglen ddogfen

Mae'r gwaith a wnaed i gefnogi a hyfforddi gofalwyr pobl â dementia, a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor yn cael sylw ar raglen Dementia: Making a Difference ar BBC 2 Wales heno (24.5.12) am 22.00

Dyddiad Cyhoeddi: 24/05/2012

Mwy......


Profi dull newydd o ddiogelu stociau pysgod y byd

Mae Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms1845 22/05/12) yn adrodd ar offer genetig newydd pwerus a hyblyg a fydd yn gymorth i ddiogelu stociau pysgod yn Ewrop a hefyd ddefnyddwyr o Ewrop. Mae’r papur yn adrodd ar y system gyntaf y profwyd ei bod yn gallu adnabod poblogaethau rhywogaethau pysgod i safon fforensig o ddilysu.

Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2012

Mwy......


Staff Ieithoedd Modern yn llwyddo yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

Cafwyd perfformiad hynod lwyddiannus gan yr Ysgol Ieithoedd Modern yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012 yn ddiweddar. Llwyddodd pedwar aelod o staff i gyrraedd y rhestr fer ymysg nifer uchel o enwebiadau.

Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2012

Mwy......


Astudiaeth fyd-eang gyntaf: Gall morwellt ar wely’r môr storio dwywaith gymaint o garbon â choedwigoedd

Mae ardaloedd o wely’r môr sydd dan fygythiad byd-eang yn llefydd arbennig i storio carbon yn ôl papur a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (20.5.11:doi:10.1038/ngeo1477).Yr astudiaeth “Seagrass Ecosystems as a Globally Significant Carbon Stock” yw’r dadansoddiad byd-eang cyntaf o garbon wedi ei storio mewn caeau o forwellt.

Dyddiad Cyhoeddi: 22/05/2012

Mwy......


Ymchwil o Fangor yn cynorthwyo llyfr newydd gan yr Amgueddfa Victoria ac Albert

Mae myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi cadarnhau amheuon fod cynllun patrwm gan Morris a’r Cwmni, mewn gwirionedd, yn hŷn nag a dybiwyd o’r blaen.

Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2012

Mwy......


Fflam Olympaidd yn dod i Fangor

Bydd Prifysgol Bangor yn ymuno â'r dathliadau pan fydd y Fflam Olympaidd yn dod i’r ddinas wythnos nesaf.  Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o’r Brifysgol ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o  gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ar Ddydd Llun,  Mai 28 ac i ddathlu’r digwyddiad bydd y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau o amgylch Bangor ar y diwrnod.

Dyddiad Cyhoeddi: 17/05/2012

Mwy......


Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael gwobr yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd

Ar ôl cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor, mae Gwladys Lambert wedi dod yn gydradd am ei chyflwyniad llafar yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ar 7-11 Mai.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2012

Mwy......


Cyfle i weld llyfr prin gan Charles Dickens

Mae rhifyn prin o Oliver Twist gan Charles Dickens i'w weld ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Mae’r arddangosfa 'Charles Dickens - Bywyd mewn Print' i'w gweld yn Ddarllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor i ddathlu daucanmlwyddiant genedigaeth yr awdur enwog.

Dyddiad Cyhoeddi: 16/05/2012

Mwy......


Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012

Mae Rebecca Earnshaw wedi’i henwi’n enillydd gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych mae wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2012

Mwy......


Academydd o Fangor i deithio i Wlad Pwyl

Yr wythnos hon, bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith.

Dyddiad Cyhoeddi: 13/05/2012

Mwy......


Cyhoeddwyd bod cyfrol ddiweddaraf yr Athro Gerwyn Wiliams ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2012

Cyhoeddodd Gerwyn Wiliams, aelod o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) haf diwethaf, ac y mae'n cyfleu ei argraffiadau o fywyd teuluol a chyhoeddus gan symud o ran lleoliad o Fae Caerdydd i Ground Zero.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012

Mwy......


Penodi aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

Mae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi’i phenodi’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yw Cadeirydd y Cyngor a swyddogaeth y grŵp yw cynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth newydd y Gymraeg a chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012

Mwy......


Gall grwpiau lleol elwa ar broject Traws(ffurfiannau) y Brifysgol

Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio rhyddhau grym creadigol ei myfyrwyr er budd elusennau  a grwpiau datblygu cymunedol yn y rhanbarth.

Mewn project newydd a chyffrous, bydd myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn benodol myfyrwyr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, yn cael eu hannog i weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector ar brojectau creadigol, bywiog a heriol a fydd yn hyrwyddo materion penodol neu’n denu cynulleidfaoedd newydd i grwpiau cymunedol.

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012

Mwy......


Ymchwilwyr yn cyfarfod yn Iwerddon i drafod effaith newid yn yr hinsawdd ar bysgodfeydd pysgod cregyn

Yn ddiweddar cyfarfu ymchwilwyr SUSFISH o Gymru ac Iwerddon yng Ngholeg y Brifysgol Cork i drafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynnyrch pysgodfeydd pysgod cregyn masnachol ym Môr Iwerddon.   Mae Prifysgol Bangor yn arwain y project cydweithredol hwn, dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n cynnull ynghyd arbenigwyr o Brifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe a Choleg y Brifysgol Cork yn Iwerddon.    

Dyddiad Cyhoeddi: 11/05/2012

Mwy......


Mae seicolegwyr wedi dadlennu sut y gall emosiwn atal prosesau ymenyddol lefel-uchel yn ddiarwybod inni

Mae Seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu eu bod wedi canfod, am y tro cyntaf, broses sy’n digwydd yn ddwfn o fewn ein hymennydd anymwybodol, lle mae adweithiau cysefin yn rhyngweithio â phrosesau meddyliol uwch. Gan ysgrifennu yn y  Journal of Neuroscience (9 Mai, 2012 • 32(19):6485– 6489 • 6485), maent yn nodi adwaith i fewnbynnau ieithyddol negyddol sy’n diffodd prosesu anymwybodol.

Dyddiad Cyhoeddi: 09/05/2012

Mwy......


Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd 2012

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau unigolion nodedig a fydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn 2012. Cyflwynir yr holl Gymrodoriaethau yn ystod y Seremonïau Graddio rhwng 14 a 20 Gorffennaf.

Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2012

Mwy......


Entrepreneuriaid Santander Bangor

Mae Tom Purnell, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, a Will Osborn, myfyriwr ôl-radd Seicoleg Defnyddwyr, wedi ennill cystadleuaeth Prifysgol Bangor o’r Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander a byddant yn cynrychioli'r Brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.

Dyddiad Cyhoeddi: 08/05/2012

Mwy......


Gwyddonwyr Morol Bangor yn cyfrannu at Gyngres Pysgodfeydd y Byd

Cafodd faner swyddogol Cyngres Pysgodfeydd Byd ei drosglwyddo i Brifysgol Bangor bedair blynedd  yn ôl ar ddiwedd y Gyngres ddiwethaf yn Yokohama, pan gymerodd yr Athro Michel Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion yr awenau ar gyfer y 6ed Gyngres Pysgodfeydd Byd a fydd yn agor nesaf Dydd Mawrth 8 Mai yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, Caeredin, Yr Alban.

Dyddiad Cyhoeddi: 03/05/2012

Mwy......


Adroddiad newydd yn tynnu sylw at ddylanwad ymchwil Prifysgol Bangor ar Gemau Olympaidd Llundain 2012

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor wedi’i chynnwys mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolymaidd, ac ar chwaraeon ym Mhrydain yn gyffredinol. Cyhoeddwyd yr adroddiad fel rhan o Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o swyddogaeth eang ac amrywiol prifysgolion Prydain.

Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012

Mwy......


Peidiwch â gwneud camgymeriad!

Bydd athletwyr yn y Gemau Olympaidd yn ceisio perfformio i’w llawn botensial o dan lawer o bwysau yr haf yma. Bydd pob un yn ceisio ennill medal aur ac yn canolbwyntio ar beidio â gwneud camgymeriadau. Ond mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos y bydd rhai perfformwyr yn debygol o wneud y camgymeriad maent yn ei ofni fwyaf. 

Dyddiad Cyhoeddi: 02/05/2012

Mwy......