UWB Crest

Newyddion

Llwyddiant Mawr i Gôr Dysgwyr Cymraeg.

Dyddiad Cyhoeddi: 27/05/2009

Mae côr o oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor wedi ennill un o brif wobrau Eisteddfod Môn. Enillon nhw'r gystadleuaeth i gorau dan 30 o leisiau, ac yn sgil eu perfformiad ardderchog enillodd eu harweinydd, Elwyn Hughes, y baton aur sy'n cael ei rhoi i arweinydd gorau'r ŵyl.

Mae'r côr wedi cael tipyn o lwyddiant ers cael ei sefydlu yn 2005 ar gyfer Eisteddfod y Faenol. Yno enillodd y côr y gystadleuaeth i Gorau Dysgwyr ac ailadrodd y gamp yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007. Llynedd, penderfynodd y côr fentro i gystadlu yn erbyn corau o Gymry Cymraeg am y tro cynta. "Roedden ni tipyn bach yn siomedig i ddod yn drydydd llynedd," meddai Joan ac Andrew Knight (alto a thenor) o Borth Swtan, "felly roedden ni wrth ein boddau o gael ennill eleni. Roedd cystadleuaeth y corau'n dilyn seremoni coroni'r bardd gyda'r derwyddon i gyd yn eu gwisgoedd a'r plant lleol yn dawnsio dawns y blodau. Roedd hi'n fraint cael cymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg go iawn."

Dim ond ers blwyddyn mae Mark a Nikki Gillard (bas a soprano) o Benmynydd wedi symud i'r ardal. Maen nhw'n dilyn y Cwrs Wlpan ar hyn o bryd. "Dan ni'n mwynhau canu beth bynnag, ond achos bod yr ymarferion i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r côr wedi ein helpu ni i symud ymlaen efo'r iaith hefyd."

Mae pob un o aelodau'r côr yn, neu wedi, dysgu Cymraeg ar gyrsiau Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor. Yn ôl Elwyn Hughes, trefnydd y cyrsiau, "mae'r ymarferion a'r Eisteddfodau eu hunain yn gyfle ardderchog i ddysgwyr ar bobl lefel ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth." "Dan ni'n dysgu pob math o ganeuon traddodiadol a chyfoes," ychwanegodd Elizabeth Pearce (alto) o Fenllech, "ac yn dysgu llawer am hanes a diwylliant Cymru ar yr un pryd. Yn bwysicach na dim byd arall, dan ni'n cael llawer iawn o hwyl!"

Y cam nesa i'r côr fydd cystadlu yn Eisteddfod Llandegfan ar ddechrau Gorffennaf cyn troi am Eisteddfod Genedlaethol y Bala ar ddechrau Awst i geisio ennill cystadleuaeth Côr y Dysgwyr am y trydydd tro.