UWB Crest

Ffair Cyrisau Ôl-raddedigion

Ffair Cyrsiau Ôl-raddedigion 2013 - Cynllunio am yfory...heddiw

Slideshow of images for Ffair Cyrisau Ôl-raddedigion

Manylion

Dyddiad?

  • Dydd Gwener 1 Mawrth 2013

Amser?

  • 12.30 –  2.30 y.p

Lleoliad?

  • Neuadd Prichard Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau

Cyswllt?

  • Os hoffech wybod mwy cysylltwch â 01248 383648

Cofrestru?

Dydd Gwener, 1 Mawrth 2013

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Cyrsiau Ôl-raddedig ar Ddydd Gwener 1 Mawrth 2013 i arddangos y rhaglenni ôl-radd ac ymchwil sydd ar gael ym Mangor.

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol a bydd cynrychiolwyr o bob ysgol academaidd yn bresennol yn ogystal â'r Swyddfa Derbyniadau a’r adrannau gwasanaeth.

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn astudio cwrs ôl-radd ym Mangor i ymweld â’r ffair ac i gymryd mantais o’r cyfle i ddysgu mwy am y gwahanol gyfleoedd ôl-radd sydd ar gael.

Yn ogystal, bydd rhai Ysgolion yn cynnal teithiau unigol a chyflwyniadau pwnc yn dilyn y digwyddiad.

Teithiau a Chyflwyiadau Unigol

Ysgol Gwyddorau Eigion

Yn dilyn y Ffair Astudio ar gyfer Ôl-raddedigion, cewch gyfle i ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Eigion (Porthaethwy) yn y prynhawn. Bydd trafnidiaeth o Fangor ar gael (os oes ei hangen) i Borthaethwy ac yn ôl.

Mawr obeithiaf y gellwch ddod i’r Diwrnod Agored a gweld y cyfleusterau sydd ar gael gennym ar gyfer addysgu/ ymchwil o fewn yr Ysgol, yn cynnwys Llong Ymchwil y Prince Madog os bydd wedi’i hangori ym mhen draw’r pier. Byddwch hefyd yn cwrdd â Chyfarwyddwyr Cyrsiau ac yn cael picau bach/ bara brith gyda rhai o’n myfyrwyr presennol.

Dewch i gael gwybod am rai cyfleoedd posibl ar gyfer cyllido:

  • Mae cyllid Meistri (Undeb Ewropeaidd) ar gael i fyfyrwyr sydd â hawl.
  • Mae Ysgoloriaethau'r Kirby Laing Foundation ar gael ar gyfer ein holl gyrsiau MSc - caiff enwebiadau eu gwneud gan Cyfarwyddwyr y Cwrs.

Mae croeso ichi ymweld a dod â ffrindiau neu berthnasau gyda chi, a byddwn yn edrych ymlaen at gyfarfod â chi.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â s.hague@bangor.ac.uk

Ysgol Seicoleg

Bydd teithiau o'r Ysgol, labordy a chyfleusterau (gan gynnwys y swît MRI) ar gael ar ol y Ffair Ôl-radd.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar y stondin Seicoleg ar y diwrnod.

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Yn dilyn y Ffair Astudio ar gyfer Ôl-raddedigion, cewch gyfle i ymweld â’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn y prynhawn  Am 2.30y.p, cewch eich tywys o'r Ffair i'r adran, ble cewch y cyfle i weld ein adnoddau, cwrdd â Chyfarwyddwyr Cyrsiau a siarad gyda myfyrwyr ôl-raddedig presennol.

Mae croeso i chi ddod a'ch ffrindiau neu theulu gyda chi, ac rydym yn edrych ymlaen i'ch cyfarfod. Am fwy o fanylion, ebostiwch senrgy@bangor.ac.uk

Ysgol Addysg

Yn dilyn y Ffair Astudio ar gyfer Ôl-raddedigion, cewch gyfle i ymweld â’r Ysgol Addysg (Safle Normal) yn y prynhawn. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar y stondin Addysg ar y diwrnod.