UWB Crest

Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor

Helô, a Chroeso i Seicoleg Bangor

Rydym yn gobeithio y cewch fod y tudalennau hyn yn ddefnyddiol wrth benderfynu lle hoffech astudio ar gyfer eich gradd gyntaf. Ceir sawl rheswm pam y mae astudio yma’n brofiad gwych. Dyma rai ohonynt, ac enwi ond ychydig:

  • Yn y National Student Survey diweddaraf rhengwyd Bangor yn gydradd 3ydd am foddhad myfyrwyr

  • Daeth yr adran Seicoleg ym Mangor yn 14ydd yng 'Nghanllawiau Prifysgolion Da' y 'Times', 2013
  • Llynedd graddiodd 70% of our students graduated with a 1st or 2:1

  • Gwelodd yr RAE 2008 Seicoleg Bangor wedi ei rhengu'n 7fed (o 76) am rym ymchwil, sy'n mesur y cyfuniad o safon a swm ymchwil

  • Rhaglenni gradd sydd wedi cael achrediad llawn gan y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

  • Yn ddiweddar, wedi ennill y safle cyntaf o blith prifysgolion y DU am gefnogaeth i Fyfyrwyr, yn ôl y Times Higher Supplement
  • Un o'r Ysgolion Seicoleg fwyaf yn y DU

  • Mae Bangor o fewn cyrraedd hwylus, ac o fewn 3 awr yn y car i Birmingham, Leeds neu hyd yn oed Gaerliwelydd

  • Mae Bangor yn ddinas gyfeillgar a diogel gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yma.

Mae Fideo'r Ysgol, sydd wedi ei gyflwyno gan fyfyrwyr Seicoleg, yn rhoi blas ar beth sydd gan Seicoleg Bangor i'w gynnig.

Sylwadau gan Fyfyrwyr

“Mae Bangor yn wych – Mae’r cwrs yn wirioneddol dda, a’r bobl yn well fyth! Yn ôl pob tebyg, dod yma yw’r penderfyniad gorau wnes i erioed” – Myfyriwr Bl.1.

“Wnes i ddim cais tan yn hwyr, a bûm yn lwcus iawn i gael un o’r ychydig o leoedd a oedd ar gael yn y system glirio. Yn awr, rwy bron wedi gorffen, ac yn methu credu imi fod mor lwcus â chael lle ar yr unfed awr ar ddeg yn yr Ysgol Seicoleg orau yn y wlad” – Myfyriwr Bl.3.

 

RAE2008

  • Seicoleg yn rhagori yn yr RAE2008. Mwy...

Lincs