UWB Crest

Astudiaethau Israddedig

Bywyd ym Mangor

bangor life section on main bangor site

Croeso i’r adran ‘Bywyd ym Mangor’ ar y wefan. Yma, os ydych am gael mwy o wybodaeth am fywyd myfyrwyr ym Mangor yn gyffredinol, cliciwch yma, a chewch eich cyfeirio at brif adran Prifysgol Bangor ar Fywyd Myfyrwyr. Yn yr adran hon, cewch wybod am yr hyn y mae byw ym Mangor yn ei olygu. Ceir gwybodaeth am gyllid, llety a phroffiliau o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd. Cewch ragflasu'r bywyd nos, mynd ar daith rithwir o gwmpas rhai o’n cyfleusterau, a chymryd golwg 360 gradd ar yr ardal.

Ar y tudalennau hyn, cewch wybodaeth sy’n arbennig o berthnasol i fyfyrwyr Seicoleg ym Mangor, a honno’n cynnwys amrywiaeth o fideos o gyfweliadau â myfyrwyr, dyddiadur fideo wythnos groeso ein myfyrwyr a chyfryngau eraill a ddylai fod yn gymorth ichi gael rhywfaint o ddealltwriaeth o’r hyn y mae byw ac astudio Seicoleg ym Mangor yn ei olygu. Mae BangorTV yn cynnig cyfle i chi wylio fideos am bob agwedd o fywyd fel myfyriwr ym Mangor.

Mae’r adran hon yn cael ei datblygu o hyd, felly dewch yn ôl yn aml i weld mwy o ddeunydd.

Cewch hefyd gyfoeth o wybodaeth am fywyd ym Mangor a’r cylch yn adran gwefan BBC Gogledd-Orllewin Cymru ar fywyd myfyrwyr.