Cymrodyr Er Anrhydedd
Mae Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn anrhydedd tra phwysig y gall y Brifysgol ei rhoi yn flynyddol i unigolion amlwg sydd â chysylltiad â’r Brifysgol, neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu gwahanol feysydd. Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd wedi cael eu cyflwyno dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn y Seremonïau Graddio bob blwyddyn, ac mae dros 150 o bobl wedi cael eu hanrhydeddu yn y ffordd hon. Mae’r Brifysgol yn cadw mewn cysylltiad â’i Chymrodyr er Anrhydedd, ac mae Cinio Blynyddol y Cymrodyr er Anrhydedd yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yn y Brifysgol.
Cliciwch ar rai o’r enwau isod i gael proffil o rai'n unig o Gymrodyr er Anrhydedd enwocaf y Brifysgol:
Graddau Er Anrhydedd
Mae gan y Brifysgol awdurdod hefyd i roi Graddau er Anrhydedd. Mae wedi dewis defnyddio’r awdurdod hwn i nodi achlysuron arbennig iawn, a dim ond pedwar o bobl sydd wedi derbyn yr anrhydedd hwn hyd yma. I ddathlu canrif a chwarter ers ei sefydlu, penderfynodd y Brifysgol roi doethuriaethau er anrhydedd i bedwar o bobl tra adnabyddus yr ystyriwyd bod eu cyfraniadau dros gyfnod maith o bwysigrwydd rhyngwladol sylweddol. Cynhaliwyd y seremoni arbennig i gyflwyno’r Doethuriaethau er Anrhydedd ar 10 Mehefin 2009, a'r rhai a anrhydeddwyd oedd:
Syr David Attenborough, OM, CH, FRS – am ei gyfraniad i ddarlledu ac astudio’r amgylchedd
Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, AC – am ei gyfraniad i wleidyddiaeth
Yr Athro Syr John Meurig Thomas, FRS – am ei gyfraniad i wyddoniaeth
Yr Archesgob Desmond Tutu – am ei gyfraniad i heddwch byd a chymod