Bydd y wefan groeso hon yn eich helpu ar eich ffordd i gychwyn eich taith yn fyfyriwr ym Mangor. Bydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch wrth i chi ymgartrefu yn eich bywyd fel myfyriwr.

Ein Hwythnos Groeso yw'r cyflwyniad delfrydol i fywyd prifysgol. Mae'n rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau newydd a chwrdd â staff academaidd yn ogystal â dewis eich modiwlau yn derfynol, a chanfod eich ffordd o gwmpas cyn i chi ddechrau eich astudiaethau.

Mae ein Harweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ac sydd wrth law i’ch helpu i ymgartrefu. Cadwch lygad amdanynt yn eu crysau lliwgar - bydd llawer iawn ohonynt i’w gweld yn cyfarch newydd-ddyfodiaid ac yn annog pawb i ymuno yn yr holl weithgareddau.

Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Pontio

Barod am Brifysgol Bangor

Byddwch yn barod am Brifysgol Bangor mewn 10 cam. Paratowch i ddarganfod yr eithriadol.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am yr Wythnos Groeso: