Croeso i'n gwefan Neuaddau Preswyl
Mae'r Swyddfa Neuaddau yn gyfrifol am yr holl geisiadau am neuaddau preswyl, dynodi ystafelloedd a rheoli'r preswylfeydd.
Ar hyn o bryd mae gan y Brifysgol oddeutu 2300 o ystafelloedd ar dri safle preswyl o gwmpas Bangor a gallwn warantu lle mewn llety i holl fyfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais erbyn 31 Gorffennaf.
Mae'r llety'r Brifysgol yn cydymffurfio gyda Chod Ymarfer Prifysgolion ar gyfer Llety Myfyrwyr Dan Reolaeth y Brifysgol.
Mae'r holl neuaddau o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas ac adeiladau'r Brifysgol. Mae gan yr ystafelloedd wely, cwpwrdd dillad/storio, cadair a man gweithio. Mae bron bob neuadd yn hunan arlwy.
Mae gennym ni hefyd nifer o leoedd hunanarlwyo sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr sy'n ymweld â'r Brifysgol o dramor drwy'r Swyddfa Ryngwladol.
Porwch drwy'r wybodaeth yn defnyddio'r ddewislen.