/sites/default/files/styles/16x9_1920w/public/2024-02/25-1%200-22%20Bangor%20Uni%20%205795.jpg?h=5674054a&itok=fPJ2OCMn

Busnes, Marchnata a Rheolaeth

Mae astudio Busnes, Rheolaeth a Marchnata ym Mangor yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn diwydiant neu academia. Mae gennym berthynas agos â llawer o gyrff proffesiynol sy'n cydnabod ansawdd ein cyrsiau ac sy'n cael eu graddio'n uchel yn rheolaidd am ein cymorth i fyfyrwyr

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn busnes, rheolaeth a marchnata

Cwrdd â'n Myfyrwyr

Mae Lowri yn astudio Cyfrifeg a Chyllid gyda ni yn yr Ysgol Busnes dyma ei phrofiad hyd at hyn.

0:01 Enw fi ydi Lowri a dwi o Ynys Môn a dwi'n astudio yn Ysgol Busnes Bangor.

0.04 Mae'r profiad wedi bod yn rili da a dwi'n teimlo fel mae'r coleg yn lle rili neis i astudio yma.

0.10 Dwi wedi dysgu sut i wneud lot o statments gwahanol a sut i ddeall yr information i gyd sy'n dod mewn hefo nhw.

0.15 Mae o'n rili neis ac mae'r lle yn gefnogol iawn so mae o'n lle lyfli i ddysgu yma.

0.20 Mae o rili wedi helpu yn barod gyda interviews ar gyfer jobs ar ôl gadel.

0.24 Do mae lecturers a personal tutors fi wedi rhoi gymaint o gymorth i mi yn barod

0.29 yn helpu gydag ar ôl gadel Prifysgol a gwybod lle i fynd ar gyfer gwaith.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Cyfleusterau Ysgol Busnes Bangor

Uchod mae llawr fasnachu'r Ysgol Fusnes. Ynddi mae gennym derfynellau Bloomberg i fyfyrwyr ddefnyddio.

Graddio'r Gaeaf

Pob blwyddyn rydym yn gweld cannoedd o fyfyrwyr yn graddio o Ysgol Busnes Bangor yn ystod yr haf ar aeaf. Dyma gip olwg o'r seremoni raddio'r gaeaf.

Rydym yn hoffi cadw mewn cysylltiad â’n myfyrwyr ar ôl iddynt raddio felly dewch i ymuno â’n cymuned ar-lein o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ar LinkedIn Ysgol Busnes Bangor.

Ymunwch â'r gymuned

Delyth Jones-Williams profile picture

Proffil Graddedigion Delyth Jones-Williams

Mae astudio ym Mangor wedi golygu fy mod yn gallu datblygu fy ngyrfa yn bellach, heb y radd doedd ddim posibilrwydd i mi ddatblygu fy ngyrfa yn bellach. Rwyf yn hyderus nawr bod yno lawer o gyfleoedd i mi yn y dyfodol. Dros y 3 mlynedd diwethaf dwi wedi cael cyfnodau anodd ond erioed wedi teimlo fy mod ar ben fy hun, mha hynny yn beth braf iawn.

 

Dr Sara Parry Darlithydd mewn Marchnata

Dewch i gwrdd â Dr Sara Parry Uwch Ddarlithydd Marchnata yma yn Ysgol Busnes Bangor. Enillodd Dr Parry ei PhD mewn Marchnata yma ym Mhrifysgol Bangor cyn ymuno â'n staff dysgu. 

Georgia Stanmore a Bangor Business School student.

Blog Profiad gwaith Georgia

Treuliais flwyddyn mewn diwydiant fel intern Gwerthiant Masnachol yn VMware. Mae'r cwmni’n un o frandiau mwyaf blaenllaw’r diwydiant technoleg ac mae'n arbenigo mewn cyfrifiadura a rhithwiroli. Nid wyf yn un sy’n frwd ofnadwy dros dechnoleg ond bu llawer o’r teulu’n dilyn gyrfaoedd ym maes Gwerthu ac mae gen i brofiad yn y maes hefyd, ac felly mi oedd hi’n briodol imi wneud cais am rôl fel hon. Penderfynais i weithio yn y diwydiant hwnnw oherwydd mai mewn gwerthiant y mae’r arian mawr! Roedd VMware yn un o nifer fawr o gwmnïau technoleg y gwnes i gais iddynt ond rwy’n hapus iawn yma.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?