Cyrsiau
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig rhagoriaeth academaidd yn un o'r lleoliadau astudio harddaf ym Mhrydain. Mae ein haddysg a'n hymchwil ymysg yr orau yn y byd, ac mae hyn ynghyd a'n lleoliad rhwng mynyddoedd Eryri a'r afon Fenai yn gwneud Bangor yn le perffaith i astudio. Dewch i weld beth sydd gan Fangor i'w gynnig, drwy ddewis un o'r opsiynau isod;
Os ydych chi'n chwilio am brifysgol sy'n cynnig safon uchel o addysgu yn ogystal â bywyd cymdeithasol byrlymus ac amrywiol, dowch i Fangor. Mae llawer o Gymry yn dewis astudio ym Mangor oherwydd yr awyrgylch cyfeillgar, naturiol Gymreig. Mae canran o'r 8,000 o fyfyrwyr sydd yma yn dod o wledydd tramor ac felly mae cyfle i chi wneud ffrindiau â phobl o bob ban y byd. Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nac yn unrhyw un o'r prifysgolion eraill yng Nghymru. Mae digwyddiadau ac adloniant Cymreig yn cael eu trefnu hefyd gan UMCB - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.
Pe baech chi'n penderfynu mai Bangor ydy'r brifysgol i chi - mi fyddwch chi'n byw mewn lleoliad gwych lle mae popeth yn agos a chyfleus. Gan fod y brifysgol wedi ei lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a'r môr, mae digon i'w weld a digon o weithgareddau awyr agored i'w cael yma.
Er mwyn dod o hyd i gwrs dysgu o bell, dewiswch un o'r Ysgolion isod:-
Mae'n rhaid i bob darpar fyfyriwr fynd drwy UCAS (Universities and Colleges Admissions Service) i wneud cais. Cliciwch ar yr isod am fwy o wybodaeth.
Os ydych chi eisiau trafod unrhyw beth neu angen mwy o wybodaeth, codwch y ffôn neu e-bostiwch yr Adran Recriwtio Myfyrwyr. Mi fedran nhw yrru prosbectws atoch, trefnu ymweliad neu drefnu lle i chi ar ein Diwrnodau Agored.