Cynhadledd Bangor ar yr Adferiad
Reconciliation and its failures in the late Stuart World, 1658-1714
Cynhadledd Bangor ar yr Adferiad: 23-25 Gorffennaf 2024
Nodweddir y cyfnod rhwng 1658 ac 1715 gan wrthdaro, ac atgofion pegynol o wrthdaro ym myd y Stiwartiaid. Ond roedd y cymod - a gyflawnwyd, a geisiwyd, a oedd yn aflwyddiannus, a’i wrthwynebu - yn angenrheidiol, ac roedd hefyd yn ddimensiwn pwysig o’r oes. Pan oedd cymdeithas wedi’i rhwygo i’r fath raddau gan ddigwyddiadau megis yr adferiad, setliad crefyddol y 1660au cynnar, yr argyfwng eithrio a dechreuad yr ymryson pleidiol chwerw, chwyldro 1688-9, ac olyniaeth Hanoferaidd, roedd sawl grŵp yn teimlo bod angen gwella’r rhwyg ar unwaith, neu ddod o hyd i ffordd o weithio gyda hen elynion; a’r methiant i wneud hyn a benderfynodd gwrs gwrthdaro diweddarach.
Aeth ffurfiau o gymodi ymlaen i lywio meddwl gwleidyddol, rhagdybiaethau poblogaidd, a diwylliant llenyddol a gweledol. Roedd gwella’r rhwyg ac adfer anghytgord yn ganolog i syniadau Cristnogol o’r eglwys ac iachawdwriaeth; i ddamcaniaethau contract am darddiad y llywodraeth; i eiriolaeth o oddefgarwch a dealltwriaeth grefyddol; i genres llenyddiaeth a bwysleisiodd ailymddangosiad harmoni ar ôl rhwyg, a synthesis ar ôl pegynnu; i ddulliau pragmatig newydd o ymdrin â gwleidyddiaeth; i gytundebau heddwch rhyngwladol a meithrin cynghreiriau tramor; ac i fyrdd o ffurfiau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol, a chelfyddydol eraill. Wrth gwrs, roedd cymodi hefyd yn gweithredu ar lefelau personol, teuluol a chymunedol.
Mewn cyferbyniad, roedd yr anallu i glymu pobl ynghyd hefyd yn effeithio ar berthnasoedd dynol, ac roedd gwrthwynebiad i gymodi yn meithrin symudiadau mor amrywiol â gweriniaetholdeb ôl-1660, anghydffurfiaeth, Jacobitiaeth, cenedlaetholdeb Albanaidd a Gwyddelig, a gwrthwynebiad trefedigaethol a gwrthwynebiad i wladychiaeth; ac arweiniodd at ryfela ffurfiannol Ewropeaidd y degawdau hyn.
Gellir dadlau mai ymdrechion i roi terfyn ar raniad, ac effeithiau eu rhwystredigaeth, oedd y ffactorau hollbwysig a luniodd y byd Stiwartaidd hwyr.
Yn 2024, bydd Cynhadledd Bangor ar yr Adferiad yn croesawu pobl i brydferthwch Eryri i archwilio’r thema hon: i archwilio enghreifftiau penodol, yn ogystal â cheisio deall barn actorion yr oes ar gymodi. Sut, ac i ba raddau, y credent fod ail-wau cymdeithas yn bosibl neu hyd yn oed yn ddymunol; i ba raddau y gallwn gael cipolwg newydd ar y cyfnod drwy feddwl am gymodi fel thema?
Bydd papurau’r cyfarfod llawn fel a ganlyn:
- Martin Dzelzainis (Caerlŷr): Four Elegies and a Funeral: negotiating the Restoration
- William Pettigrew (Caerhirfryn): Royal African Companies: Trading in Enslaved Africans to Unify Restoration Society
- Valerie Rumbold (Birmingham): Awkward print: making the unreconciled Swift
- Alasdair Raffe (Caeredin): Reconciliation and Fragmentation in Scottish Protestantism, 1660-1715
Llety
Plîs nodwch côd isod i’w ddefnyddio pan yn llogi ystafell i sicrhau y pris gorau ar eich cyfer.
- RESTO24 – Ystafell yn unig @£40 y noson
- RESTO24-B - G&B @£50 y noson
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG