Mae gan Brifysgol Bangor nwyddau arbennig gan gynnwys teis sidan cain a hwdis lliwgar sydd ar gael i'w prynu. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gyddflieiniau sidan i ferched, crysau-t, gorchuddion gliniaduron a bagiau am oes yn ogystal â thedis, sgarffiau, dolenni llawes, pennau ysgrifennu a phapurau nodiadau. Gweler yr holl nwyddau sydd wedi'u brandio.
Mae rhai ategolion a memorabilia sydd wedi eu brandio gyda gorffennol y Brifysgol ar gael hefyd drwy siop alumni Ede and Ravenscroft.