Polisi Gwirfoddoli

Archifau a Chasgliadau Arbennig 

Polisi Gwirfoddoli  

Cynnwys 

  1. Cyflwyniad 

  1. Amcanion y polisi 

  1. Egwyddorion Ymarfer Da  

  1. Recriwtio a Dewis 

  1. Tasgau gwirfoddolwyr 

  1. Hyfforddi a Datblygu 

  1. Iechyd a Diogelwch   

  1. Treuliau  

  1. Yswiriant  

  1. Cyswllt 

 

Rheoli Dogfennau 
 

Enw’r ffeil 

Polisi Gwirfoddoli yr Archifau a Chasgliadau Arbennig 

Awdur(on) Gwreiddiol  

Cyd-lynydd Archifau / Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig 

Awdur(on) Presennol 

Rheolwr yr Archifau a Chasgliadau Arbennig 

Statws 

Cymeradwywyd gan y Grŵp Tasg Casgliadau a Materion Diwylliant, Rhagfyr 2022 

Dosbarthu 

Gwasanaethau Digidol ac arlein 

Awdurdod 

Archifau a Chasgliadau Arbennig 

 

 
Dyddiad adolygu : Ebrill 2025 

  

  1. Cyflwyniad 
     

Mae gwirfoddolwr yn berson sydd yn ymgymryd â gwaith gwirfoddol ar ran yr Archifau a Chasgliadau Arbennig drwy ddewis, nid oes ganddynt gytundeb cyflogaeth na hawl i gydnabyddiaeth ariannol 

Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig wedi elwa’n fawr o waith gwirfoddolwyr ac unigolion ar brofiad gwaith yn y gorffennol and yn awyddus iawn i barhau gyda’r lefel bresennol o gefnogaeth ganddynt. Mae gwirfoddolwyr yn adnodd gwerthfawr iawn sy’n cyd-fynd ac ychwanegu at y gwaith y mae’r staff yn ei gyflawni. Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn dymuno cefnogi ac annog gwirfoddolwyr ac i feithrin awyrgylch sy’n llesol i bawb, gyda’r partïon oll yn elwa o’r berthynas. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gwirfoddoli gyda’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn brofiad buddiol a phleserus.  

Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn swyddfa fach ac yn gweithio o dan bwysau sylweddol oherwydd y prinder lle yn y lleoliad presennol. Nid oes gennym ardal arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n golygu fod rhaid i wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr ddefnyddio’r un gofod. Gall gwirfoddolwyr gyflwyno her sylweddol hefyd i’r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig o safbwynt yr amser sydd ei angen i’w rheoli a’u harolygu. O ganlyniad, mae’n rhaid ystyried yn ofalus faint o wirfoddolwyr y gallem dderbyn yn ystod cyfnod o amser. Mae angen trafod y termau penodol fel bod y gwirfoddolwr a’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn glir ynglŷn ag amser, hyd a chynnwys y cyfnod gwirfoddoli. 
 

  1. Amcanion y polisi  
     

Bydd cyflwyno cyfleoedd i weithio’n wirfoddol i fyfyrwyr PB ac aelodau o’r gymdeithas yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynorthwyo Prifysgol Bangor i gyrraedd rhai o’i phrif amcanion strategaethol, fel a welir yn Strategaeth 2030 PB, sef i ddarparu 

  • sefydlu fframwaith i recriwtio, cefnogi a rheoli gwirfoddolwyr  

  • rhoi arweiniad a chyfarwyddyd i staff a gwirfoddolwyr  

  • cydnabod mai pwrpas gwaith gwirfoddol yw cyfrannu at waith Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac nid cymryd lle staff cyflogedig a gwneud eu gwaith 

 

  1. Egwyddorion Ymarfer Da  
     

  • Bydd polisi a dulliau gweithredu'n ymwneud â gwirfoddolwyr yn cael eu monitro a'u hadolygu'n rheolaidd  

  • Bydd tasgau blaenoriaeth i wirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaidd  

  • Bydd anghenion hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn rheolaidd 
     

 

  1. Recriwtio a Dewis 
     

  • Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor yn anelu at recriwtio gwirfoddolwyr o bob rhan o’r gymuned   

  • Cedwir at egwyddorion cyfle cyfartal wrth recriwtio gwirfoddolwyr  

  • Bydd lleoliadau am gyfnod prawf o 28 diwrnod  

  • Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio drwy hysbysebion printiedig, ar-lein a chyswllt anffurfiol â defnyddwyr presennol  

  • Caiff holl ddarpar wirfoddolwyr eu cyfweld i drafod eu sgiliau, eu    swyddogaethau a'u disgwyliadau  

 

  1. Tasgau gwirfoddolwyr 
     

Ein amcan yw darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau i’n gwirfoddolwyr yn seiliedig ar eu gallu a’u sgiliau. Pan fo’n bosib, gwneir pob ymdrech i deilwra’r gwaith yn ôl diddordebau personol y gwirfoddolwr. Bydd tasgau y gellir eu gwneud gan ein gwirfoddolwry o bell [adref] hefyd yn cael eu cynnig gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal arlein neu yn y cnawd er mwyn monitro cynnydd.  

Mae’r tasgau a roddir i wirfoddolwyr yn disgyn o dan y catagorïau canlynol :  

Cadwraeth a gofal am gasgliadau 

  • Glanhau a phecynnu dogfennau 

  • Ail-focsio a labelu casgliadau 

  • Creu ffolderi i ddeunydd arbennig 

 

Rhestru eitemau (gan gynnwys defnyddio CALM) 

  • Gwaith rhestru syml o dan oruchwyliaeth archifydd cymwysedig proffesiynol. 

  • Teipio hen slipiau catalogio i dabl ar Word neu ffeil Excel 

  • Mewnbwnio data i daenlen Excel o’r catalogau papur i’r uwchlwytho i’r gronfa ddata CALM gan staff 

 

Marchnata a hyrwyddo 

  • Cynorthwyo yn ystod dyddiau agored, darlithoedd etc. 

  • Creu tects ar gyfer ein gwefan 

  • Creu deunydd i hyrwyddo e.e. posteri / pamffledi. 

 

Ateb ymholiadau a gwaith ymchwil 

  • Ateb ymholiadau syml yn ymwneud â’r casgliadau 

  • Cynnal ymchwil ar gyfer arddangosfeydd y dyfodol neu ddeunydd marchnata. 

 

Gweinyddol 

  • Llungopio a sganio dogfennau 

  • Sganio hen ohebiaeth yn ymwneud â’n casgliadau 

  • Casglu gwybodaeth ystadegol 
     

  1. Hyfforddi a Datblygu 
     

  • Rhaid i wirfoddolwyr fynychu hyfforddiant a fydd yn darparu braslun iddynt o’r adran – ein gwaith a’r math o gasgliadau rydym yn eu cadw ynghyd â materion iechyd a diogewlch e.e. cario eitemau trwm 

  • Bydd gwirfoddolwyr sy’n rhestru casgladau yn derbyn gwybodaeth am ein polisi catalogio a’n canllawiau catalogio.  

  • Bydd gwirfoddolwyr sy’n glanhau a chreu pecynnau yn derbyn hyfforddiant gan staff sydd wedi mynychu hyfforddiant NCS ar lanhau a chreu pecynnau.  

  • Penodir aelod staff i oruchwylio'r gwirfoddolwr a rhoi gwaith iddo/iddi 

  • Bydd unrhyw waith a gynhyrchir yn eiddo i Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor. 

 

  1. Iechyd a Diogelwch   
     

Ni roddir gwirfoddolwyr mewn sefyllfaoedd a fydd yn peryglu eu hiechyd a'u diogelwch, neu iechyd a diogelwch eraill.  Rhaid i wirfoddolwyr gydymffurfio â gofynion Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol 

  1. Treuliau  
     

Nid yw’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn gallu talu costau teithio i wirfoddolwyr (o'u cartref i'r lle gwaith), nac unrhyw dreuliau eraill.  

  1. Yswiriant  
     

Tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau caiff gwirfoddolwyr eu hindemnio rhag hawliau trydydd parti dan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol.  

  1. Cyswllt 
     

Gofynir i unrhyw un sydd gyda ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig gwblhau Ffurflen Ymholiad Gwirfoddoli (sydd ar gael arlein ac yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig,  a’i dychwelyd i’r adran yn bersonol neu ei hafnon ar ebost i archifau@bangor.ac.uk  

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?