Myfyrwyr yn eistedd tu allan i Pontio ym Mhrifysgol Bangor

Ein Naratif Brand

Llawlyfr sy’n amlinellu sut yr ydym ni’n sôn am ein prifysgol, ein hamcanion a’r hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol.

Lle mae calon Gymreig yn tanio cymuned ryngwladol, i greu byd mwy cynaliadwy ac eithriadol i bawb.

Beth yw ein Llawlyfr Brand?

Ein brand sy’n amlygu pwy ydym ni a’r hyn rydym ni’n ei ddweud a’i wneud. Mae’n cynrychioli ein diwylliant, ein gwerthoedd a’n dylanwad ar y byd. Dyma’r profiad y mae pobl yn ei gael gyda ni ac yn ein plith. Mae llawlyfr brand, felly, yn crynhoi a mynegi:

Ein pwrpas - Ein safbwynt - Ein gwerthoedd - Ein gweithredoedd

Prif Adeilad y celfyddydau hefo coeden

Ar gyfer pwy mae’r dddogfen hon?

Os ydych chi’n darllen y geiriau hyn, yna mae’r ddogfen hon ar eich cyfer chi. Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer y rhai hynny sy’n cynrychioli llais y Brifysgol drwy addysgu, ymchwilio, cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau ac ysgrifennu a siarad amdani gyda phobl eraill. Mae gan bob aelod o gymuned Prifysgol Bangor gyfraniad i’w wneud wrth fynegi ein brand.

Cymerwch y naratif hwn a'i ddefnyddio fel sail i gyfathrebu am bob agwedd ar y Brifysgol.

Mae’n rhaid inni hefyd addasu ein naratif i siarad am ddiddordebau ac anghenion ein cynulleidfaoedd penodol. Yma cewch gyngor a negeseuon allweddol gydag enghreifftiau ar gyfer gwahanol grwpiau rhanddeiliaid.

Pam ddylen ni ddefnyddio y Llawlyfr Brand?

Gall brand adnabyddus, sy’n cyfleu gwerthoedd a phwrpas sefydliad yn glir, sicrhau bod pobl yn ymddiried ynom yn syth. Pwrpas y llawlyfr brand hwn yw creu cysondeb brand sy’n fynegiant triw o’r hyn ydym. Trwy ddilyn y canllawiau yma, byddwch yn helpu i sicrhau bod y Brifysgol yn cael ei gweld fel sefydliad adnabyddus, credadwy a dibynadwy. Dylai cynnwys y tudalennau hyn ddod yn sylfaen eich cyfathrebu wrth siarad am bob elfen o'r brifysgol.

Dyn yn ysgrifennu nodiadau wrth y gliniadur

Sut cafodd ei greu?

Roedd y llawlyfr brand yn cael ei greu trwy broses gydweithredol wedi’i harwain gan ymchwil, gan ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r holl gymunedau sy’n dylanwadu ar ein gwaith ac yn elwa arno. Bu ymgynghori helaeth, yn Gymraeg a Saesneg, gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol, ynghyd â chynrychiolwyr o’n cynulleidfaoedd, yn cynnwys darpar fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, busnesau, partneriaid ymchwil, a phartneriaid cymunedol. Ffrwyth eu lleisiau yw’r llawlyfr brand hwn, yn cyfuno eu safbwyntiau, profiadau a gwerthoedd gyda’n strategaeth a’n dyheadau ni.

 yn defnyddio'r mannau dysgu cymdeithasol yn Pontio

Ein Hanfod Brand

Isod ceir y prif themâu cyffredinol y dylid eu defnyddio wrth siarad am y Brifysgol.
Mae'r rhain yn cynnwys ein diben, ein sefyllfa, ein colofnau a'n gwerthoedd.
Llun agos o fyfyriwr yn gwrando mewn darlith

EIN PWRPAS Pam yr ydym yn gwneud yr hyn yr ydym ni’n ei wneud

Wrth sôn am y Brifysgol, mae'n bwysig ein bod yn glir ynglŷn â'n diben ac yn diffinio pam  rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud:

 

Rydym yn bodoli i greu byd cynaliadwy a llewyrchus, ar gyfer y blaned, ar gyfer ein cymunedau, ac ar gyfer unigolion.

Myfyrwyr yn cerdded yn y coedwig

EIN SAFBWYNT Grym y galon Gymreig

Rydym yn siarad am y Brifysgol fel cymuned fyd-eang sy’n cael ei thanio gan galon Gymreig. Mae hyn yn amlygu:

  • Ein bod yn sefydliad Cymraeg a Chymreig yn gyntaf ac yn flaenaf
  • Ein balchder yn ein hanes, treftadaeth ddiwylliannol a’n hiaith
  • Ein hymrwymiad dwfn i’n cymunedau lleol, a grym cyd-berthynas.

Pileri’r Brand a’n Gwerthoedd

Gellir diffinio ein naratif brand ymhellach yn defnyddio’r colofnau a'r gwerthoedd brand canlynol. Gellir plethu’r rhain i mewn i’r naratif wrth sôn am y Brifysgol.

Man lle mae pobl yn teimlo eu bod ynperthyn. Lle mae cydweithio a chreucysylltiadau yn rhan o’r profiad byw ac yn llawer mwy na dyheadau.

Ymrwymiad i gynhwysiant, sy’n deillio o gynhesrwydd ac sy’n croesawu pob diwylliant, cred a chefndir.

Anelu at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn, o’n haddysgu ysbrydoledig i’n hymchwil o safon byd-eang.

Bod yn geidwaid anrhydeddus wrth amddiffyn ein planed a’n treftadaeth ddiwylliannol.

Meddu ar y weledigaeth a’r ysbryd arloesol i ddychmygu posibiliadau newydd, i arloesi a datblygu.

Pwy Ydym Ni?

Yma fe welwch ffyrdd esbonio naratif canolog brand Prifysgol Bangor mewn gwahanol hydoedd, yn dibynnu ar ble a sut yr hoffech adrodd ein stori.

Lle mae calon Gymreig yn tanio cymuned ryngwladol, i greu byd mwy cynaliadwy ac eithriadol i bawb.

Rydym yn gymuned fyd-eang sy’n cael ei hysbrydoli gan galon Gymreig benderfynol. Trwy addysg ragorol ac ysbrydoledig, ymchwil arloesol, a phartneriaethau grymus, mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ac undod yn ein gyrru i fod yn gatalydd ar gyfer newid.

Rhwng môr a mynydd yng ngogledd Cymru mae cymuned heb ei hail. Mae curiad ei chalon yn creu teimlad arbennig o undod a pherthyn. Daw pobl yma o bedwar ban byd am bob math o resymau. Mae dyhead i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n planed yn codi o’r gymuned hon.

Trwy ragoriaeth mewn addysgu, ymchwil arloesol sy’n dylanwadu ar ein byd, a phartneriaethau grymus i ddatblygu datrysiadau ar gyfer byd busnes a’r gymuned, mae’r cyfan a wnawn yn anelu at sbarduno newid.

Sefydlwyd Prifysgol Bangor ar sail yr egwyddor o gymuned a’i holl bosibiliadau. Mae ein hanes a’n datblygiad yn adrodd stori am y pethau eithriadol y gellir eu cyflawni trwy ymrwymo i wneud gwahaniaeth ar y cyd.

Mae ein lleoliad a’n campysau yn creu amgylchedd a gofod sy’n caniatáu rhyddid i ddysgu, meddwl a datblygu golwg lawn ar y byd. Rydym yn gweithio i arloesi a datblygu’r sgiliau a’r datrysiadau sy’n mynd i’r afael â heriau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y byd go iawn; boed hynny yng ngogledd Cymru, neu ym mhen draw’r byd.

RHAGOR O WYBODAETH

Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar y ffyrdd o gyfleu'r naratif brand i'n gwahanol gynulleidfaoedd a hefyd y canllawiau brand, sy'n cyd-fynd â’n naratif brand.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?