Meet the Corporate Transformational Specialist gyda Paul Withams
Ymunwch ag Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor ar gyfer y gweddarllediad rhyngweithiol hwn a ‘Meet the Corporate Transformational Specialist' gyda Paul Withams.
Bydd y gweddarllediad yma yn iaith Saesneg yn unig.
Testyn: "Planning Organisational Transformation to Address Financial Crime"
Gyda Stephen Jones, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol Ysgol Busnes Bangor a siaradwr gwadd, Paul Withams, Rheolwr Gyfarwyddwr, Coastal Consulting Services Ltd.
Mae Paul D. Withams yn Gyfarwyddwr Rhaglen brofiadol sy'n enwog am ei arweinyddiaeth strategol a chyflawni mentrau newid mawr ar draws disgyblaethau Gwasanaethau Ariannol. Gydag arbenigedd mewn bancio a rheoli asedau, mae Paul yn rhagori mewn gyrru enillion mewn effeithlonrwydd gweithredol a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Graddiodd Paul gyda'r MBA Banciwr Siartredig o Brifysgol Bangor ym mis Rhagfyr 2023.
Mae ei yrfa wedi cynnwys gwasanaeth sylweddol yn NatWest/RBS Group yn ogystal â darparu trawsnewidiadau llwyddiannus yn Schroders, Pay.UK a Valcon/SMBC Bank, gan arddangos ei ystwythder a'i ymrwymiad i ganlyniadau.
Mae Ysgol Busnes Bangor ym Mhrifysgol Bangor yn ysgol fusnes blaenllaw sy'n canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil ac sy'n cynnig Addysg Weithredol arloesol i'r sector gwasanaethau ariannol byd - eang. Yr unig sefydliad yn y byd i gynnig y cymwysterau deuol; MBA Banciwr Siartredig a MBA Trosedd a Chydymffurfiaeth Ariannol.