Students outside Pontio

Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn CELT

Rydym yn cefnogi staff addysgu i ddatblygu cwricwlwm cynhwysol a pherthnasol ar draws ysgolion academaidd Prifysgol Bangor, ac mae ein gwaith yn cwmpasu llawer o'r fframweithiau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant presennol o fewn y sefydliad. Mae defnyddio deunyddiau cwrs y gall myfyrwyr weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ynddynt, gan ddarparu cefnogaeth ar gyfer anghenion amrywiol myfyrwyr a chynnig cyfleoedd cynhwysol i bawb, yn helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn, yn denu ystod eang o fyfyrwyr i'r brifysgol ac yn cynnal ymgysylltiad myfyrwyr.

Mae academyddion yn gweld bod gwneud modiwlau’n fwy cynhwysol yn gallu gwella eu hymarfer addysgu. I ddysgu mwy, dewch i un o'n gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus lle caiff hyfforddiant cydraddoldeb sylw rheolaidd.

Mae ein gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cyfrannu at chwe ffrwd waith:

  • Cofnodi a Rhannu Gweithgarwch Cyfredol
  • Cofnodi data a gweithgarwch cyfredol sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ar draws y sefydliad
  • Adnabod a rhannu ymarfer gorau a meysydd i'w gwella
  • Cyfrannu camau gweithredu sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu tuag at y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
  • Cyfrannu at gais Prifysgol Bangor am wobr arian Athena SWAN trwy rannu camau gweithredu a chynlluniau addysgu a dysgu sy’n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar draws y sefydliad, megis yr adroddiad canlyniadau gradd

  • Datblygu cwricwlwm gwrth-hiliol ar draws Prifysgol Bangor
  • Hyrwyddo trafodaeth a gweithredu ynghylch dad-drefedigaethu'r cwricwlwm
     
  • Sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnwys set amrywiol o addysgeg a chynnwys, a’u bod yn gynhwysol i bob myfyriwr
  • Gwella profiad myfyrwyr fel bod myfyrwyr yn profi ymdeimlad o berthyn a chynrychiolaeth o fewn Prifysgol Bangor
  • Cymryd rhan mewn cyfathrebu trawsddiwylliannol, gan rannu safbwyntiau a phrofiadau i wella gwrth-hiliaeth a chynwysoldeb ar draws y brifysgol
  • Ehangu’r cwricwlwm addysgu i werthuso’n feirniadol y sylfaen dystiolaeth a’r syniadaeth
     
  • Gwneud staff a myfyrwyr yn ymwybodol o’r prosesau ar gyfer adrodd am wahaniaethu, a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt
  • Sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi a datblygu staff yn ymgorffori arferion cynhwysol ym mhob agwedd ar eu gwaith, addysgu neu ymchwil

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?