Royal Geographical Society logo

Academydd o Brifysgol Bangor yn derbyn medal ddaearyddiaeth bwysig

Cyhoeddwyd Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor yn un o 25 o bobl a sefydliadau eithriadol ar restr y Royal Geographical Society (gyda’r Institute of British Geographers) am eu cyfraniadau nodedig i ddaearyddiaeth eleni.

Mae’n fraint fawr i mi fod wedi derbyn Gwobr Goffa Gill, gan ymuno â’r cwmni nodedig o enillwyr y gorffennol sydd wedi gadael eu marc ar ein maes. Mae fy niolch o waelod calon i’m teulu anhygoel, mentoriaid amhrisiadwy, a phartneriaid cydweithredol, y mae eu cefnogaeth wedi bod yn hanfodol ar hyd fy nhaith.
Dr Iestyn Woolway,  Cymrawd ymchwil annibynnol NERC, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor

Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor,

“Llongyfarchiadau mawr i Iestyn ar dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ei waith ymchwil rhagorol. Mae ei faes ymchwil yn dangos y potensial enfawr sy’n bodoli o gyfuno arsylwadau gofod ac ymchwil ar leoliad i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r Ddaear, sy'n esblygu'n gyson. Gobeithiwn y bydd llwyddiant Iestyn, yn ei dro, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddaearyddwyr Bangor i gofleidio’r posibiliadau sydd ar gael iddynt yn y maes hynod ddiddorol hwn.”

Mae’r rhestr lawn o enillwyr ar gael ar wefan y Royal Geographical Society: www.rgs.org. Cyflwynir y Gwobrau mewn seremoni yn Llundain ddydd Llun 3 Mehefin.

Ffurfiwyd y Royal Geographical Society yn 1830 er mwyn ‘hyrwyddo gwyddor ddaearyddol’, a’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yw’r gymdeithas ddysgedig a’r corff proffesiynol ar gyfer daearyddiaeth, ac mae’n bodoli i ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo ymchwil daearyddol, teithiau a gwaith maes, addysg, arfer proffesiynol, ymgysylltu â’r cyhoedd, a mewnbwn daearyddiaeth i bolisi.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?