Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i astudio yma, rydym yn eich hannog i ymweld â ni.
Wrth ymweld â'r campws, cewch flas go iawn o fywyd myfyriwr yma a chael cyfle i ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.
Diwrnod Ymweld Clirio
Unwaith rydych yn cael cynnig lle drwy Clirio, cewch eich gwahodd dros ebost i'r Diwrnod Ymweld Clirio fydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i gofrestru. Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi'u teilwro, fydd yn cynnwys cyflwyniad i Fangor a thaith o'r campws fel rhan o'r rhaglen.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Clirio
Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.