""

Cwrs DPP Addysg Glinigol Ffisiotherapi

Cynnwys y Cwrs

Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?

Mae ffocws a chynnwys y cyrsiau hyn yn amrywio. Dyma enghreifftiau o’r cynnwys: 

Cwrs rhagarweiniol

  •  Hanfodion addysg glinigol
  • Proffil myfyrwyr Ffisiotherapi Prifysgol Bangor.
  • Bod yn drefnus ac yn barod ar gyfer addysg glinigol (gan gynnwys ystyriaethau moesegol a phroffesiynol).
  • Deall gwaith papur CPAF a ddefnyddir mewn addysg glinigol.
  • Delio â heriau mewn addysg glinigol.

Cwrs Diweddaru

Mae'r cwrs diweddaru yn canolbwyntio mwy ar anghenion penodol. Cyn y cyrsiau, rydym yn cynnal arolwg o’r sawl sydd wedi cofrestru  er mwyn llunio themâu a chynnwys addas ar gyfer y cwrs. 

Yn gyffredinol, byddwn yn cyflwyno unrhyw ddiwygiadau i ddeunyddiau rhagarweiniol. Byddwn hefyd yn archwilio'r heriau a wynebir mewn addysg glinigol ac yn datblygu safbwyntiau ac atebion i ymdrin â'r rhain.

Byddwn hefyd yn trafod ac yn dechrau datblygu strategaethau i ysgogi newidiadau cadarnhaol mewn addysg myfyrwyr.

Pa bynnag cwrs y byddwch chi’n ymuno ag o, bydd ein darpariaeth yn canolbwyntio ar rymuso addysgwyr clinigol i fod yn hyderus wrth ymdrin â senarios byd go iawn.

Gwybodaeth bellach 

Ar ddiwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn Derbyn Tystysgrif Cwblhau a fydd yn tystiolaethu 7 awr o DPP

Gofynion Mynediad

Mae'r cwrs hwn ar gyfer Addysgwyr Clinigol Ffisiotherapi sy'n cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Os hoffech gofrestru ar gyfer y cwrs hwn, ond nad ydych yn bodloni’r gofynion hyn, cysylltwch â threfnydd y cwrs

Tiwtors

Jonathan Flynn

A headshot of Jonathan Flynn

Mae Jonathan yn ddarlithydd, uwch diwtor ac yn Gyfarwyddwr Addysg Ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi gweithio mewn Sefydliadau Addysg Uwch ers dros 20 mlynedd ac mae ganddo brofiad helaeth mewn dylunio cwricwla, dysgu ac addysgu, asesu a datblygu profiadau addysgol ystyrlon. Mae'n gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac mae wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau i raddedigion. Mae ei brif ddiddordeb ymchwil yn cael ei yrru gan ddiwinyddiaeth ac yn canolbwyntio ar gysyniadau sy'n gysylltiedig â phererindod a cherdded pellter hir.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Emily Rigby

 

A headshot of Emily Rigby

Mae Emily yn ddarlithydd mewn Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad mewn addysg glinigol uniongyrchol tra'n gweithio mewn Bwrdd Iechyd lleol fel arbenigwr clinigol. Mae Emily wedi gweithio yn y Brifysgol ers 2021, gan arwain a hwyluso dysgu ac addysgu ar y rhaglen MSc / Diploma Ôl-raddedig Ffisiotherapi cyn-gofrestru. Hi yw'r arweinydd ar gyfer lleoliadau clinigol ac mae'n gweithio'n barhaus i wella cyfleoedd a phrofiadau lleoliadau clinigol i fyfyrwyr ac addysgwyr clinigol fel ei gilydd.

 

 

 

 

Gwneud Cais

Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn ar gael ar y dyddiadau canlynol, ac yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Llun 18 Tachwedd 2024 – (Campws Wrecsam, Prifysgol Bangor, Wrecsam)

I gofrestru ar gyfer un o’r cyrsiau hyn, cwblhewch ein ffurflen gofrestru drwy glicio ar y botwm ‘cofrestru’ isod.

COFRESTRWCH YMA

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?