Image of students at the beach smiling

YSGOL HAF YMCHWIL IECHYD A GOFAL

I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?  

Mae'r ysgol haf hon wedi'i hanelu at ymchwilwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae croeso i chi rannu eich ymchwil mewn cyflwyniad deng munud.

Pam astudio’r cwrs?

Erbyn diwedd yr ysgol haf hon, bydd y cynrychiolwyr:

  • wedi datblygu a gwella sgiliau hanfodol
  • wedi cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu hymchwil
  • wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs? 

3 diwrnod astudio, ar y dyddiadau canlynol, ar ein campws ym Mangor:

  • Dydd Llun 24 Mehefin i Dydd Mercher 26 Mehefin 2024.

Tiwtors

Dr Lorelei Jones

A headshot of Dr. Loreli

Mae Dr Lorelei Jones yn anthropolegydd meddygol sydd â diddordeb mewn trefniadaeth, gwybodaeth, proffesiynau ac arferion gofal.

Mae ei hymchwil ym maes trefniadaeth gymdeithasol gofal iechyd ac mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys:

  • Ansawdd a diogelwch gofal ysbyty
  • Arweinyddiaeth Feddygol, arloesi a newid sefydliadol
  • Arweinyddiaeth systemau, cydweithredu a gofal integredig 
  • Gweithredu a gwerthuso polisïau

Mae Dr Jones yn gwneud ymchwil amlddisgyblaethol a throsi (theori i ymarfer) gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau yng Ngogledd Cymru a chyfrannu at ddysgu rhyngwladol.

Mae Lorelei yn Gymrawd y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol, yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn aelod gweithredol o'r Gymdeithas Astudiaethau Trefnu Gofal Iechyd, ac yn aelod o'r Pwyllgor Gwyddonol ar gyfer y gynhadledd ryngwladol ar Ymddygiad Sefydliadol mewn Gofal Iechyd.
 

 

 

 

 

Yr Athro/Prof. Ellen Stewart

A headshot of Ellen stewart

Athro Polisi Cyhoeddus ac Iechyd yw Ellen ym Mhrifysgol Glasgow, a chyn hynny bu’n gyd-gyfarwyddwr y Centre for Health Policy ym Mhrifysgol Strathclyde, ac yn Chancellor’s Fellow yn y Centre for Biomedicine, Self & Society ym Mhrifysgol Caeredin. Ar hyn o bryd mae’n arwain ymchwil sy’n edrych ar ddulliau elusennol cyfoes o godi arian yn y GIG yn y Deyrnas Unedig, ac yn 2023 cyhoeddodd How Britain Loves the NHS: Practices of Care and Contestation (Policy Press).

 

Cynnwys y Cwrs

Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?

Erbyn diwedd yr ysgol haf hon, bydd y cynrychiolwyr:

  • wedi datblygu a gwella sgiliau hanfodol
  • wedi cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu hymchwil
  • wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd

Gwybodaeth bellach 

Mae croeso i chi rannu eich ymchwil mewn cyflwyniad deng munud.

Cost y Cwrs

Cofrestrwch a thalu am y cwrs gyda'r 'blwch cyswllt cofrestru ysgol haf' isod

COFRESTRU YSGOL HAF

Gofynion Mynediad

Mae'r ysgol haf hon wedi'i hanelu at ymchwilwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?