Cylch Ieithyddiaeth: Dr Evangelia Kyritsi a Dr Michalis Georigiafentis
Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens
[Digwyddiad iaith Saesneg] Byddant Dr Evangelia Kyritsi a Dr Michalis Georgiafentis (Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens) yn cyflwyno eu hymchwil fel rhan o ymweliad ymchwil cydweithredol a ariennir yn rhannol gan rhalgen symudedd Taith. Dewch draw neu ymunwch â ni ar-lein!
16:00: Dr Evangelia Kyritsi (Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens) 'Children with speech and language difficulties in bi/multilingual home and school settings'
Crynodeb: Rydym yn ddinasyddion mewn cymuned fyd sy’n ddwyieithog/amlieithog. Mae hyn yn golygu bod nifer sylweddol o blant sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith yn cael eu magu mewn teulu dwyieithog/amlieithog neu eu bod yn byw mewn amgylchedd iaith fwyafrifol. Maent hefyd yn mynychu ysgol lle dysgir o leiaf un iaith dramor neu, mewn rhai achosion, dilynir ymagwedd addysgol ddwyieithog yn gyfan gwbl. Er y cyswllt anochel gyda dwyieithrwydd/amlieithrwydd yn ein bywydau, er gwaethaf manteision dwyieithrwydd/amlieithrwydd, gwaethaf yr angen i allu wynebu’r realiti newydd hwn, mae teuluoedd plant sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith yn parhau i dderbyn cyngor yn erbyn defnyddio iaith y cartref gyda'u plentyn. Mewn geiriau eraill, mae'r teuluoedd hyn fel arfer yn cael eu hannog i fabwysiadu un iaith, h.y. yr iaith fwyafrifol. Mae dull tebyg yn cael ei ddilyn fel arfer yn yr ysgol, lle mae myfyrwyr sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith wedi'u heithrio o ddosbarthiadau iaith dramor neu eu bod yn cael eu trin fel gwrandawyr goddefol.
Yn fy sgwrs, byddaf yn dadlau bod sawl anfantais tymor byr a hirdymor yn perthyn i’r dull, nid yn unig i’r plentyn, ond hefyd i’r teulu, yr ysgol a’r gymuned yn gyffredinol. Byddaf hefyd yn cyflwyno data nad yw’n cefnogi’r gred gyffredin bod dwyieithrwydd yn effeithio ar ddatblygiad iaith plant sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith. Byddaf yn cloi drwy danlinellu materion y mae angen eu hystyried mewn perthynas ag addysgu ieithoedd tramor i fyfyrwyr sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith.
16:30: Dr Michalis Georgiafentis (Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens) 'Contrast in Greek- a comparative perspective'
Crynodeb: Yn y papur hwn, rydym yn archwilio categori Cyferbyniad mewn perthynas â syniadau sylfaenol Strwythur Gwybodaeth, sef ffocws a phwnc, gan anelu at ymchwilio i ymddygiad Groeg mewn perthynas â’r gwahanol fathau o Gyferbyniadau (gweler Georgiafentis a Tsokoglou 2020, Georgiou 2020) o gymharu ag ieithoedd eraill (Ffineg, Hwngareg, Eidaleg, Sbaeneg, Almaeneg, Saesneg) y mae cyfrifon perthnasol yn bodoli ar eu cyfer (gweler, er enghraifft, Molnár ac Winkler 2006).
Mae ieithoedd yn cael eu paramedroli cyn belled ag y mae gwireddu Cyferbyniad yn y cwestiwn, ar lefel gystrawenol (bodolaeth safle Cyferbynnedd, rhwymedigaeth symudiad yr ymadrodd gwrthgyferbyniol, perthynas â safle'r ferf), ac ar lefel ffonolegol o ran goslef (gweler Skopeteas 2016 ar gyfer Groeg, a Kiss 1998, Zubizarreta 1998, Breul 2004, ymhlith llawer o rai eraill).
Yn gyntaf, trwy gymhwyso nifer o feini prawf diagnostig (e.e. amlygu, cyferbyniad amlwg, aelodaeth mewn set, set gyfyngedig o ymgeiswyr, crybwyll yn benodol opsiynau amgen), rydym yn nodi'r amgylcheddau lle mae strwythurau cyferbyniol yn ymddangos. Ymhellach, rydym yn cyfeirio at berthynas Cyferbyniad â ffocws a phwnc, gan wahaniaethu rhwng dau fath, sef ffocws gwrthgyferbyniol a phwnc cyferbyniol. Yn benodol, tynnir ein sylw at y canlynol:
(a) Gwireddiad cystrawennol o ffocws gwrthgyferbyniol yn ogystal â'r mecanweithiau sy'n rhan o'i darddiad (1), gan ymchwilio a yw Groeg yn defnyddio'r mecanwaith symud i'r perifferi chwith i safle cyfagos i'r ferf (fel yn Hwngareg) (2b) neu heb y cyfyngiad ar agosrwydd berf (fel yn Ffinneg) (2b):
(1) a. O JANIS efaje tin turta. SFocusVO
- O janis efaje TIN TURTA. SVOFocus
(2) a. TIN TURTA efaje o janis. OFocusVS
- efaje tin turta O JANIS. VOSFocus
‘John ate the cake.’
(b) Gwireddu pwnc gwrthgyferbyniol, gan gymharu strwythurau cystrawen sy’n cyflwyno’r pwnc yn gyntaf (dyblu gogwyddair) (3b) â chystrawennau dadleoliad chwith (3a) a chymryd i ystyriaeth rôl goslef, h.y. bodolaeth i-bwnc a'i gydfodolaeth â ffocws (fel yn Saesneg ac Almaeneg) (4):
(3) pjos efaje ta γlika?
‘Who ate the sweets?’
- tin TURTA, tin efaje o janis. OTopic,cliticVS
- # tin efaje o janis tin TURTA. cliticVSOTopic
(4) TIN TURTA tin efaje o janis. OTopiccliticVSFocus
‘John ate the cake.’
Yn olaf, trwy ystyried ymddygiad rhai gronynnau ebychnod fel dangosyddion Cyferbyniad, rydym yn archwilio a oes angen rhagamcaniad Kontrast, a gyflwynwyd gan Molnár (2001) ar gyfer Ffinneg ac ymestyn y perifferïau chwith ymhellach (Rizzi 1997), yn y cymal Groeg, gan arwain at dosbarthiad gwahanol o'r categorïau strwythur gwybodaeth.