Ynys Enlli o Mynydd Mawr, Penllŷn

LIVE (Ecoamgueddfa Llŷn)

Mae LIVE yn gydweithrediad rhwng sefydliadau cymunedol, adrannau academaidd a llywodraethau lleol yng Nghymru ac Iwerddon. Nod LIVE yw galluogi cymunedau arfordirol i wneud y gorau o’u hasedau naturiol a diwylliannol, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig yn y cyfnodau tu allan i'r cyfnodau sy’n boblogaidd gan dwristiaid yn draddodiadol.

Cafodd #Ecoamgueddfa Pen Llŷn, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru, a hyd y gwyddom yr ecoamgueddfa ddigidol gyntaf yn y byd ei chreu drwy gydweithio agos rhwng Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a’r partneriaid ym Mhen Llŷn. 
Mae’r tîm bellach wedi’i leoli yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ac maent yn gweithio’n agos gydag archeolegwyr yr Ysgol er mwyn cyflwyno ystod o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ac adnoddau digidol archaeolegol. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu teithiau rhithiol panoramig sy’n arddangos y dreftadaeth archeolegol ysblennydd a’r arfordiroedd sydd gan Ben Llŷn i’w cynnig. 


Gallwch gael golwg ar y daith rithiol o amgylch Tre’r Ceiri, bryngaer Brythonig-Rufeinig o'r Oes Haearn, drwy glicio yma. Crëwyd y ddelweddaeth a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller, Panoramas and virtual tours. 

Tre’r Ceiri

Mae Tre’r Ceiri yn fryngaer Frythonaidd-Rufeinig drawiadol o’r Oes Haearn. Mae wedi ei lleoli ar ben y mynydd mwyaf dwyreiniol o dri copa’r Eifl ger Llanaelhaearn. Mae’n heneb warchodedig ac mae ei chyflwr gyda’r gorau ym Mhrydain. Safleoedd ymgasglu oedd bryngaerau: roeddent yn darparu llety, yn le i storio bwyd ac i gynnal defodau. Roeddent yn ganolbwynt i gymunedau a oedd yn byw ar y tir hwn yn ystod mileniwm cyntaf CC a hanner cyntaf mileniwm cyntaf OC. Mae’r fryngaer wedi’i hamgáu gan wal gerrig drawiadol, mae iddi ddwy fynedfa a thu mewn i’r waliau mae hyd at 150 o dai crynion ac adeileddau hirsgwar. Roedd trigolion y fryngaer yn parchu carnedd gladdu gynharach o’r Oes Efydd, sydd ar gopa’r bryn.

Ymgollwch mewn taith rithiol o amgylch yr heneb a’i chyffiniau. Gellir newid y testun a’r sain i’r Gymraeg neu’r Saesneg drwy glicio ar yr eiconau perthnasol.

  • Prosiect LIVE ac Ecoamgueddfa – www.ecoamgueddfa.org | www.ecomuseumslive.eu
  • Lluniau a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller, Panoramas and Virtual Tours
  • Crynodebau testun o’r teithiau gan Dr Kate Waddington, Prifysgol Bangor
  • Ffilm gan Cai Erith, Forrest Lancaster a Rhys Mwyn

Lluniau a’r daith rithiol gan Bernd Kronmueller, Panoramas and Virtual Tours.

Cyn bo hir byddwn hefyd yn gallu cynnig dwy daith rithiol ychwanegol – un ohonynt yn daith o amgylch mwyngloddiau manganîs yn Nant, Porth Ysgo, a’r daith arall o amgylch y chwareli gwenithfaen yn Nhrefor (nid nepell o fryngaer Tre’r Ceiri). Mae’r dair taith hefyd yn cynnig golygfeydd panoramig o'r arfordir godidog yn y lleoliadau hyn.

Disgrifiad Hygyrch o'r Profiad 360

Mae Tre’r Ceiri ar ben bryn dwyreiniol tri chopa Yr Eifl, a dyma’r fryngaer uchaf yng ngogledd orllewin Cymru o’r Oes Haearn. Gellid dadlau mai hon yw’r fryngaer sydd wedi’i chadw yn y cyflwr gorau ym Mhrydain. Safleoedd ymgasglu oedd bryngaerau: roedden nhw’n fannau setlo, yn rhywle i storio bwyd, i gwrdd, ac i gynnal seremonïau; roedden nhw’n ganolbwynt i gymunedau a oedd yn byw ar y tir hwn ac yn ffermio’r tir isel ac roeddent yn lloches yn ystod cyfnodau o argyfwng. Mae'r anheddiad pen y bryn hwn lle bu llawer iawn o drigolion yn byw yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn (600CC –79OC) a’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig (79-410OC). Mae’n bosib ei fod hefyd wedi cael ei ailfeddiannu yn y cyfnod canoloesol cynnar hefyd (410-1050 OC). Bu’r safle’n ganolbwynt i lawer o waith cloddio, gan gynnwys gwaith ar ddechrau’r ugeinfed ganrif gan Hughes, Baring-Gould a Burnard, yn ogystal ag A.J. Hogg yn y 1950au. Archwiliodd y cloddfeydd hyn y safle a’i adeiladau’n fanwl ac maent wedi darparu llawer iawn o wybodaeth am gynllun y safle a’r gwahanol ddarganfyddiadau a adferwyd o’r adeiladau. Yn fwy diweddar, mae Hopewell a Boyle o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi gwneud gwaith atgyfnerthu i glirio ac ailadeiladu rhai o’r mynedfeydd, y rhagfuriau a’r tai crwn. Ymchwiliodd Smith y garnedd gladdu gynharach o’r Oes Efydd, sydd ar y copa. 

Mae ein dealltwriaeth o union ddyddio’r fryngaer a’i gwahanol gyfnodau adeiladu a meddiannu yn dal yn gyfyngedig gan nad oes dyddiadau radiocarbon ar gael. Fodd bynnag, mae’n bosib gwneud dehongliadau ar ddyddio gwahanol gyfnodau meddiannaeth sy’n seiliedig ar adfer arteffactau y mae modd eu dyddio o tua 150 o adeiladau. O’r Oes Haearn y mae’r tai crwn syml, ond mae’r celloedd anarferol llai, y tai crwn wedi’u rhannu a’r adeiladau petryal diweddarach yn rhai Brythonaidd-Rufeinig, ac mae’n bosibl bod rhai o'r cytiau petryal, mwy, wedi cael eu hadeiladu yn y cyfnod canoloesol cynnar. 
Mae safle uchel a phensaernïaeth aruthrol Tre'r Ceiri yn datgelu mai safle o rym, cynulliad, anheddiad, lloches a defod ar gyfer y milenia oedd hwn. Gellir ei weld heddiw drwy ddringo'r mynydd a cherdded ar hyd llwybrau arfordirol hardd Penrhyn Llŷn.     

Mae bryngaer Tre’r Ceiri wedi’i hamgylchynu gan wal gerrig, wedi’i chadw hyd at 3m o led a 3.5m o uchder, gyda dwy brif fynediad ar yr ochrau gogledd-orllewinol a de-orllewinol. Mae mur y rhagfur wedi’i gadw’n arbennig o dda a gellir gweld bod y gwaith parapet gwreiddiol yn rhedeg ar hyd top y rhagfur mewn rhai rhannau. Byddai hyn wedi gwella effaith weledol ac amddiffynnol y ffin a byddai hefyd wedi galluogi trigolion y fryngaer i osod eu hunain ar ben y wal. Mae rhannau eraill o’r rhagfur yn cynnwys brigiadau enfawr o gerrig yn rhedeg ar hyd ymyl y llwyfandir ar ben y bryn, sydd i’w gweld ar yr ochrau deheuol a dwyreiniol. 

Yn ddiweddarach, adeiladwyd wal allanol ar ochr orllewinol y bryn, gan ddarparu lle ychwanegol i’r trigolion. Mae gwaith cyfnerthu diweddar y rhagfuriau a’r mynedfeydd gan David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi bod yn bwysig o ran datblygu ein dealltwriaeth o’r safle: mae nifer o ardaloedd wedi cael eu clirio a’u sefydlogi mewn ymdrech gadwraeth ac mae hyn wedi gwneud yr archaeoleg drawiadol yn haws ei deall a’i gweld. 

Mae gan y fryngaer ddwy brif fynedfa ym mhen de-orllewinol a gogledd-orllewinol y fryngaer, ac mae’r ddwy tua 2m o led. Mae tair mynedfa fach, gul ychwanegol yn y rhagfuriau ar yr ochrau dwyreiniol, gorllewinol a gogleddol - gallai rhai o’r rhain fod wedi darparu mynediad i ffynhonnau pen y bryn. Mae’r ddwy brif fynedfa yn y de-orllewin a’r gorllewin yn wynebu ceuffyrdd gydag waliau ystlys. Mae’n ymddangos mai’r fynedfa dde-orllewinol oedd un o ddwy brif ffordd at y fryngaer: roedd ceuffordd yn mynd at hon a oedd yn troelli drwy gyfres o dros ugain o gaeau bach â waliau cerrig sydd y tu allan i’r fynedfa. Gallai’r rhain fod wedi cael eu hadeiladu ar ôl creu'r rhagfur allanol. Mae’r llwybr at y fynedfa hon yn serth iawn. Mae’n debyg mai’r fynedfa i’r gogledd-orllewin oedd y brif fynedfa: mae hon yn cynnwys llwybr hir a chul gyda waliau uchel sy’n drawiadol ac yn cael eu hamddiffyn yn dda.

Roedd yr holl fynedfeydd hyn wedi cael eu rhwystro gan rwbel. Cafodd rhai ohonyn nhw eu clirio a’u hailadeiladu’n rhannol yn ystod gwaith atgyfnerthu a chadwraeth David Hopewell a thîm o unigolion yn codi waliau sychion yn y 1990au. Roedd y gwaith clirio a chloddio yn y fynedfa gogledd-orllewinol (tua 2.5m o led) yn dangos bod hyn wedi cael ei ail-fodelu a’i ailadeiladu yn y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig, a chafwyd hyd i jar Rufeinig yma. Mae hyn yn dangos i ba raddau y cafodd rhagfuriau a mynedfeydd gwreiddiol yr Oes Haearn eu hailffurfio yn ystod cyfnod meddiannu’r anheddiad yn y mileniwm cyntaf OC. 

Mae dadansoddiad diweddar David Hopewell o’r safle wedi datgelu bod y man amgaeedig yn cynnwys dros 11 o dai crwn cerrig, 11 adeilad petryal, a 123 o gytiau anarferol (rhai wedi’u cynhyrchu gan dai crwn wedi’u rhannu), llawer ohonynt mewn clystyrau ac yn uno. Mae mynedfeydd i’r tai crwn yn wynebu amrywiaeth o gyfeiriadau. 

Y tai crwn cyntaf a adeiladwyd ar y safle oedd tai crwn mawr syml, ac mae'r rhain yn dyddio’n ôl i gyfnod yr Oes Haearn. Mewn cyfnod diweddarach, rhannwyd llawer o’r tai crwn ac ychwanegwyd celloedd anarferol ac adeiladau petryal at adeiladau a oedd yn bodoli eisoes. Ailfodelwyd pymtheg o dai crwn yr Oes Haearn yn ddiweddarach yn barau o adeiladau lled-betryal drwy ychwanegu pared a gwaith maen arall. Roedd llawer o’r tai crwn a rannwyd (62%) wedi cynhyrchu crochenwaith Brythonaidd-Rufeinig, er mai ychydig iawn o grochenwaith o’r dyddiad hwn a gafodd ei adfer o dai crwn syml yr Oes Haearn (dim ond 11% a gynhyrchodd grochenwaith Rhufeinig). Mae hyn yn dangos bod llawer o’r gwaith adeiladu diweddarach wedi digwydd yn y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig. Mae’r arferiad yma o adeiladu dros sawl canrif wedi arwain at y clystyrau o dai ac adeiladau sydd wedi’u cydgysylltu a welwn ar y safle heddiw.

Mae’r darganfyddiadau o’r gwaith cloddio’n cynnwys troellwyr, breuan gyfrwy ac offer cerrig o’r Oes Haearn, yn ogystal â gleiniau glas cymhleth a gwaith metel, gan gynnwys breichdlws efydd â gleiniau o’r Oes Haearn diweddarach neu dortsh o gwt 41. Mae amrywiaeth o wrthrychau Brythonaidd-Rufeinig y mae modd eu dyddio yn datgelu pwysigrwydd yr anheddiad hwn yn yr ychydig ganrifoedd cyntaf ers y mileniwm cyntaf OC – mae’r darganfyddiadau’n cynnwys crochenwaith Rhufeinig, offer cerrig ac addurniadau personol, gan gynnwys broetsh eurog efydd ysblennydd (o gwt 10: casgliad Amgueddfa Cymru). Bu adfer crib cyrn/asgwrn gydag addurniadau dotiog consentrig o gwt 23 yn ddiddorol – gallai’r arteffact hwn fod yn un Brythonaidd-Rufeinig ond, yn yr un modd, gallai ddyddio i’r cyfnod canoloesol cynnar.

Mae carnedd gladdu fawr mewn cyfnod cynharach o’r Oes Efydd ar gopa'r bryn ym mhen gogledd-ddwyreiniol y cae. Mae hyn yn cynnwys twmpath mawr o gerrig a oedd yn darparu man claddu ar gyfer y meirw. Cafodd y carnedd gladdu yn Nhre’r Ceiri ei harchwilio a’i hatgyfnerthu’n ddiweddar gan George Smith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Daeth o hyd i sylfeini wal o gerrig allanol yr ymyl o amgylch gwaelod y twmpath a darn o asgwrn wedi’i amlosgi. 

Mae crugiau neu garneddau crwn yn nodwedd gyffredin o dirweddau’r Oes Gynnar a’r Oes Efydd Ganol ym Mhrydain (c. 2500-1500/1200 CC) ac maen nhw fel arfer yn cynnwys sawl claddedigaeth amlosgi a gafodd eu claddu dros amser. Roedden nhw’n ganolbwynt i’r tirluniau lle byddai grwpiau’n ymgynnull ar gyfer angladdau a seremonïau eraill, ac roedden nhw’n nodi mannau pwysig. Mae carnedd gladdu pen bryn fel y rhain i’w gweld ar draws penrhyn Llŷn a Gogledd Cymru (os hoffech chi ymweld ag aliniad o garneddau claddu pen bryn cynharach o’r Oes Efydd, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb yn Nhaith Gerdded Archaeolegol Mynydd Rhiw LIVE) ac maen nhw’n datgelu pwysigrwydd cysyniadol pen bryniau mewn cymdeithas o’r Oes Efydd gynharach. Mae nifer o garneddau ar ben y bryn i’w cael mewn bryngaerau o’r Oes Haearn, ac mae’n arwyddocaol bod y trigolion yn parchu’r henebion yn hytrach na dwyn y cerrig ar gyfer adeiladau, fel y gwelir yn Nhre’r Ceiri. Mae’n bosibl bod trigolion bryngaer yr Oes Haearn yn cyfiawnhau eu hawliau i’r tir hwnnw drwy honni bod eu hynafiaid wedi’u claddu yn yr heneb hynafol.

multiple Logos

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?