The Queen's Anniversary Logo
Rwy’n falch iawn o dderbyn y Wobr hon ar ran ein tîm ymchwil dŵr gwastraff. Roedd yr arbenigedd sydd gennym yma ym Mhrifysgol Bangor o fewn ein Hysgolion Gwyddorau’r Amgylchedd, Naturiol ac o fewn Gwyddorau Eigion o ran y ddealltwriaeth wyddonol sylfaenol o gludiant a thynged pathogenau ar raddfa dalgylch yn sylfaen gadarn i’n gallu i weithredu’n gyflym ar ddechrau’r pandemig COVID-19 i ddatblygu'r system newydd hon ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â diwydiant, asiantaethau, a llywodraethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, byddwn yn parhau i ddarganfod beth arall y gall dŵr gwastraff ei ddweud wrthym am iechyd pobl a’r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.
Yr Athro Davey L. Jones, sy'n arwain y tîm ym Mhrifysgol Bangor

Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil: “Llongyfarchiadau i’r tîm dŵr gwastraff ar dderbyn y Wobr fawreddog hon. Mae’r prosiect yma’n destament gwych i ymagwedd ryngddisgyblaethol Prifysgol Bangor at waith ymchwil, ac mae’n dangos yr effaith bwerus sy’n bosib ei gael ar y byd go iawn trwy gydweithio rhwng ymchwilwyr, diwydiant a’r llywodraeth.”

Meddai Syr Damon Buffini, Cadeirydd y Royal Anniversary Trust:

“Mae Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan annatod o’r system Anrhydeddau cenedlaethol, sy’n taflu goleuni ar y gwaith arloesol sy’n digwydd mewn prifysgolion a cholegau ledled y DU. Mae pob un o’r 22 o enillwyr yn dangos rhagoriaeth, arloesedd ac effaith, gyda llawer yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau anoddaf rydym ni fel cymdeithas yn eu hwynebu heddiw. Dylid eu canmol am gyrraedd y pinacl hwn o gyflawniad yn y sector addysg drydyddol. Llongyfarchiadau!”

Mae Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan o system Anrhydeddau cenedlaethol y DU, sy’n cydnabod gwaith rhagorol gan brifysgolion a cholegau’r DU sy’n dangos rhagoriaeth, arloesedd a budd i’r byd ehangach. Dyfarnwyd y Gwobrau am y tro cyntaf ym 1994, a rhoddir y Gwobrau bob dwy flynedd gan y Sofran ar gyngor y Prif Weinidog yn dilyn proses adolygu drylwyr ac annibynnol a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol, elusen annibynnol. Cyhoeddwyd enillwyr y bymthegfed rownd ym Mhalas St James ar 16 Tachwedd, 2023; cyflwynir y Gwobrau mewn seremoni Anrhydeddau ffurfiol yn 2024.

Gellir gweld holl enillwyr y gwobrau ar y wefan www.queensanniversaryprizes.org

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?