Dau berson ifanc yn edrych ar fap

Prifysgol Bangor i groesawu pobl ifanc i Pontio ar gyfer seremoni graddio Prifysgol y Plant

Bydd dysgwyr ifanc o Gwynedd ac Ynys Môn yn ymgynull yn Pontio, Bangor ar ôl llwyddo i gwblhau amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau dysgu allgyrsiol fel rhan o fenter Prifysgol y Plant.

 

 

Mae hi wedi bod yn bleser pur gweithio ar y prosiect peilot yma gyda thîm gwerthchweil Prifysgol Wrecsam a Bangor ac yn fraint cael cwrdd gyda’r plant a phobl ifanc yn ogystal ag athrawon, penaethiaid a chynorthwywyr sydd yn arwain y ffordd o ran ysbrydoli plant a phobl ifanc yn ysgolion Gwynedd a Môn.  Dyma’r genhedlaeth nesaf all wneud gwahaniaeth yn y byd, boed yn wahaniaeth mawr neu’n fach. Mae Prifysgol y Plant yn annog dyfalbarhad wrth geisio cyfleoedd newydd drwy fwynhau dysgu, bod yn barod i gymryd her ac i ddal ati. Llongyfarchiadau i’r holl blant am raddio!
Shari Llewelyn,  un o reolwyr project Prifysgol y Plant yn Ngwynedd a Môn

Medd Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at seremonïau graddio Prifysgol y Plant Gogledd Cymru, a fydd yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y fenter ac sydd wedi cyflawni 30 awr neu fwy o weithgareddau dysgu ychwanegol. Gobeithio y bydd y digwyddiad yn rhoi ymdeimlad arbennig o gyflawni iddyn nhw, yn ogystal ag ymdeimlad o berthyn i leoliad addysg uwch.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n hymrwymiad i gynorthwyo’r cymunedau a wasanaethwn ledled y rhanbarth. Cafodd y cynllun ei greu trwy gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau, gyda phob un ohonynt yn gweithio i esgor ar newid er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc.

“Ein nod yn awr yw datblygu mwy ar y gwaith hwn trwy Ogledd Cymru i ategu arweinyddiaeth, llesiant meddwl a chariad at ddysgu ymhlith pobl ifanc – rhywbeth a fydd yn cysylltu ein holl gymunedau gyda’i gilydd. Dyma ffordd wirioneddol ysbrydoledig o alluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau bywyd a chreu cyfleoedd ehangach i siapio’r dysgu y mae plant a phobl ifanc ei eisiau gyda’n gilydd.”

Ar ôl treialu’r fenter yn llwyddiannus y llynedd ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, cafodd y cynllun ei ymestyn trwy Ogledd Cymru o fis Medi 2023 diolch i gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Yn sgil yr arian hwn, bu modd i Brifysgol Wrecsam weithio gyda Phrifysgol Bangor fel partner cydweithio allweddol a nifer o bartneriaid rhanbarthol eraill i gyflwyno’r cynllun mewn mwy na 50 o ysgolion, fel rhan o weledigaeth ddinesig gyffredin i weithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol yn y rhanbarth.

Llwyddwyd i recriwtio cyfanswm o 147 o gyrchfannau dysgu ledled Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i gymryd rhan ym menter ddiweddaraf Prifysgol y Plant.

Medd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltiad Dinesig ym Mhrifysgol Bangor: “Edrychwn ymlaen at groesawu pobl ifanc, eu teuluoedd a’u hathrawon i Pontio, Prifysgol Bangor i gymryd rhan yn seremoni raddio Prifysgol y Plant.

“Mae’r rhaglen yn gyfle gwych i ategu brwdfrydedd plant dros ddysgu. A thrwy gyfrwng ein gwaith ymchwil ar y rhaglen, edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor am y modd y gallwn gynnig profiadau a gweithgareddau dysgu allgyrsiol o’r radd flaenaf i’r plant a’r bobl ifanc.”

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?