Trefn Cwyno
Trefn Cwyno DSAKit
Rydym yn cymryd unrhyw gwyn o ddifrif ac rydym am ddatrys y sefyllfa’n gyflym ac yn deg.
Mae’r drefn hon yn dilyn Trefn Gwyno Myfyrwyr y Brifysgol a welir yn llawn ar: gweled taflen gwybodaeth
Sut ydw i’n cyflwyno cwyn?
Gallwch gyflwyno eich pryderon i ni’n bersonol, dros y ffôn, yn ysgrifenedig, trwy e-bost neu drwy ein gwefan.
Ffôn: 01248 382104
Ffacs: 01248 383826
DSAkit
Gwasanaethau Gwybodaeth
Prifysgol Bangor
Adeilad Deiniol
Ffordd Deiniol
Bangor
Gwynedd
LL57 2UX
E-bost: dsakit@bangor.ac.uk
Gwefan: www.bangor.ac.uk/dsakit
Byddwn yn ymdrin â’ch cwyn yn deg ac yn ddiduedd a byddwn yn cadw eich cwyn yn gyfrinachol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan fyddwn yn derbyn eich cwyn byddwn:
- Yn cydnabod eich cwyn yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gweithio
- Yn rhoi enw a rhif cyswllt uniongyrchol y sawl sy’n delio â’ch achos ac a fydd yn cysylltu â chi’n rheolaidd (fel rheol y Rheolwr Cefnogi Dysgu ac Anabledd, Gwasanaethau Gwybodaeth fydd y person hwn).
- Casglu cymaint o wybodaeth â phosib ac yna gysylltu â’r gwahanol bobl sydd ynglŷn â’r mater i ddatrys y gwyn.
- Cadarnhau’r holl ffeithiau; rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad, yn ysgrifenedig cyn pen 28 diwrnod gwaith.
Os nad ydych yn fodlon?
Gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach drwy drefn gwyno’r brifysgol. Yn y lle cyntaf rhaid i chi gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau TG.
Gallwch gyfeirio eich cwyn at eich swyddog anabledd, eich aseswr neu’ch canolfan asesu. Gallant ddelio â’r gŵyn ar eich rhan gyda DSAkit, yn unol â’u trefniadau eu hunain i ymdrin â chwynion.
Os na fydd yn bosib datrys y gŵyn yn y modd hwn, er bod hynny’n annhebygol, gofynnir i’r Corff Cyllido weithredu fel cyflafareddwr. Mae penderfyniad y Corff Cyllido ym mhob cwyn sy’n ymwneud â hawliau DSA yn derfynol.
Os ydych yn cael anhawster i ddeall y wybodaeth hon neu os byddai’n well gennych dderbyn y wybodaeth ar ffurf arall (h.y. wedi ei chyfieithu, sain, Braille neu brint bras) cysylltwch â ni.