Gwarant ac Yswiriant
Mae yna gytundeb gwarant ar eich offer ac yswiriant hefyd fwy na thebyg*. Mae manylion y warant a’r cytundebau yswiriant yn eich pecyn myfyriwr.
Ond mae disgwyl i chi ofalu am eich offer oherwydd o dan rai amgylchiadau bydd eich yswiriant yn ddi-rym ac mae rhai elfennau’n cael eu cyfrif yn nwyddau traul ac nid ydynt felly o dan warant.
Yswiriant – Ffeithiau Allweddol
Rydym wedi gwneud trefniadau i ddarparu polisi i chi sy’n cynnwys y nodweddion gofynnol a ganlyn a’r eithriadau canlynol a ganiateir:
Eitem |
Cynnwys |
Eithrio |
Polisi sero tâl dros ben |
✓ |
|
Niwed damweiniol, tân, lladrad a niwed damweiniol (3ydd parti) |
✓ |
|
Lladrad o adeiladau neu gerbydau heb eu cloi/ diogelu |
✓ |
|
Os caiff eitem ei cholli neu ei rhoi yn y lle anghywir |
✓ |
|
Adfer yn llawn yr holl galedwedd a meddalwedd, o leiaf i’r safon a gyflenwyd yn wreiddiol |
✓ |
|
Gellir darparu yswiriant byd-eang, os gofynnir amdano |
✓ |
|
Ni fydd yn gyfyngedig i un hawliad unigol |
✓ |
Sylwch – crynodeb yw’r matrics uchod. Am fanylion llawn y polisi,cliciwch yma am 'Ffeithiau Allweddol' ac 'T&A'. Fel arall, cysylltwch â ni 01248 382104 fel y gallwn eich cyfeirio at ein partner yswiriant.
Os cawsoch eich cyfarpar cyn Mehefin 2013, cysylltwch â ni i gael manylion llawn y polisi.
Cofiwch roi gwybod i’r heddlu os yw’r offer wedi ei ddwyn – bydd angen y Cyfeirnod Trosedd ar y cwmni yswiriant.
* Yswiriant - Cofiwch edrych ar eich adroddiad asesu anghenion astudio. Yn ddiweddar mae DSAkit wedi bod yn trefnu cytundebau yswiriant, ond yn y gorffennol roedd lwfans yswiriant wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond eich cyfrifoldeb chi oedd trefnu’r polisi. Argymhellwn yn gryf eich bod yn yswirio eich offer ac yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi defnyddio polisïau tŷ, cwmnïau megis Nevett a Taylor/CompuCover wedi cael cyngor gan Undeb y Myfyrwyr neu’r Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae DSAkit yn ailwerthwr i 'Summit Insurance Services Limited', a caiff ei reoli gan y 'Financial Conduct Authority (FCA)'. Rhif Cofrestru 'Summit Insurance Services Ltd's FCA' yw 300172
Gwarant
Mae’r yswiriant yn cynnwys:
- Cydrannau mewnol diffygiol
Nid yw’n cynnwys:
- Traul naturiol
- Difrod i’r bysellfwrdd
- Difrod i’r sgrin
- Difrod i’r mamfwrdd a achosir gan ddifrod i’r cysylltydd trydan.
- Nwyddau traul ee batri, pecynnau pŵer/ceblau
- Difrod a achosir gan hylifau
- Difrod a achosir gan firws
- Problemau meddalwedd
- Bagiau gliniaduron – nid ydynt yn dal dŵr.
Gwarant gan Toshiba – bydd yr holl warantau sy’n dod gydag offer nodiaduron wedi eu cofrestru o dan gyfeiriad y Brifysgol. Felly rhowch eich cyfeiriad cyfredol pan fyddwch yn ffonio am help. Bydd angen i chi roi rhif cyfresol eich offer i 'Toshiba Support Line' fel y gallant ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol.
Gwarant gan Stone – bydd yr holl warantau sy’n dod gydag offer bwrdd gwaith wedi eu cofrestru o dan gyfeiriad y Brifysgol. Felly rhowch eich cyfeiriad cyfredol pan fyddwch yn ffonio am help. Bydd angen i chi roi rhif cyfresol eich offer i 'Stone Support Line' fel y gallant ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol.
Gwarant gan DSAkit – os cewch unrhyw broblem gyda pheiriant argraffu neu sganiwr rhaid ffonio 01248 382104