UWB Crest

Adnoddau Dynol

Croeso i Adnoddau Dynol

Datganiad cenhadaeth adrannol Adnoddau Dynol yw cefnogi'r Brifysgol i wireddu ei hamcanion busnes strategol trwy roi i gleientau wasanaeth uchel ei ansawdd a chynhwysfawr sy'n gwella'n barhaus.

Mae'n ceisio cyflawni hyn trwy weithredu nodau strategol y Brifysgol ar Adnoddau Dynol, gan roi cyngor proffesiynol amserol i Uwch Reolwyr, datblygu a chynnal polisïau a systemau cadarn yng nghyswllt personél, lledaenu arferion da o ran cyflogaeth a datblygu staff ar draws y Brifysgol, a galluogi'r Rheolwyr Adrannol Academaidd a Rheolwyr Arannol Gwasanaethau i arddel y polisïau a'r arferion hyn a chymryd cyfrifoldeb drostynt o fewn maes eu gweithgaredd.