Covid-19
Wrth i Lywodraeth Cymru ddiddymu rhai o'r cyfyngiadau cyfreithiol sy’n ymwneud â Covid-19, mae dyletswydd ar y Brifysgol o hyd i reoli a lliniaru’r risgiau. Prif nod y Brifysgol yw sicrhau iechyd, diogelwch a lles pawb yn ein cymuned.
Mae mesurau ar waith i liniaru a rheoli risg Covid-19 a sylw dyledus i’r canllawiau a’r gofynion diweddaraf. Bu cefnogaeth ein cydweithwyr o’r undebau llafur a phob un ohonoch yn amhrisiadwy mewn cyfnod anodd iawn.
Gwybodaeth Cyffredinol i Staff a Fyfyrwyr
Yn ychwanegol i Sesiwn Cynefino gorfodol ar-lein i staff, rydym wedi cynhyrchu Fideo byr ar drefniadau Covid-19 ar gyfer y flwyddyn academaidd 21/22 - (noder: Polisi Gorchuddio Wyneb wedi newid) Os oes gennych symptomau Covid-19, trefnwch i gael prawf cyn gynted â phosibl, a chofiwch ein hysbysu cyn gynted ag y byddwch yn derbyn canlyniad prawf positif. |
Asesiadau Risg a Phrotocolau Covid-19 Campws (Sylwer y gall y dogfennau canlynol gyfeirio at brotocolau gorchuddio wyneb a chanllawiau profi, olrhain a diogelu nad ydynt bellach yn gyfredol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru cyn bo hir.)
|
Staff 'mewn risg' o Covid-19 Gall unrhyw staff sydd ‘mewn risg’ o Covid-19 gwblhau’r Asesiad Risg isod gyda’u rheolwr llinell. Mae enghraifft ac awgrymiadau wedi'u cynnwys i gynorthwyo'r broses hon. Os ydych chi'n teimlo yr hoffech gael cyngor ar liniaru risgiau oherwydd bod y sefyllfa feddygol yn gymhleth, neu y byddai'n well gan eich aelod o staff drafod eu pryderon iechyd yn gyfrinachol ag Iechyd Galwedigaethol, plîs cyfeiriwch nhw gan ddilyn y Broses Cyfeirio Rheolaeth. I'r mwyafrif o bobl, ni fydd angen atgyfeiriad ffurfiol at Iechyd Galwedigaethol a bydd y rheolwr a'r aelod staff yn gallu rheoli risgiau yn lleol gan ddefnyddio gwybodaeth gan y GIG ar ffactorau risg cyffredinol ar bobl fregus a bregus iawn. I wirio'ch sgôr risg Covid-19 gallwch ddefnyddio Offeryn Asesu'r Gweithlu Covid-19. |
Gweithio Gartref Gweler nifer o adnoddau isod i'ch helpu chi i addasu i weithio gartref. |
Eich Lles Gweler nifer o adnoddau isod i'ch helpu chi i drwy'r cyfnod hwn.
|