Tystysgrif Ymwybyddiaeth Fasnachol BPP
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ennill Tystysgrif Ymwybyddiaeth Fasnachol BPP yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth barhaus BPP o Gymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Bangor.
Cynigwyd BPP y cwrs, a chynhelir ym Mangor ac ym Manceinion, am ddim i israddedigion LLB Bangor; ac mae’n pwysleisio’r angenrheidrwydd i fyfyrwyr y Gyfraith gallu feddwl mewn modd masnachol ac i fod ag ymwybyddiaeth fusnes. Ceir myfyrwyr blas ar beth i ddisgwyl o gwrs LPC, yn ogystal â chyfle i glywed barn gweithwyr arweiniol y diwydiant cyfreithiol ynglŷn â sut i gael cais cytundeb hyfforddiant i sefyll allan.
Aseswyd ymwybyddiaeth fasnachol trwy gydol y broses recriwtio – o’r ffurflen cais i’r canolfan asesu a’r cyfweliad - ac mae rhaglen BPP yn hyfforddi myfyrwyr i arddangos y sgiliau dymunol yma.
Dyma sylwadau rhai o fynychwyr blaenorol:
"Roedd y cwrs yn hynod ddefnyddiol ar gyfer gweithio yn y Gyfraith. Cefais fewnwelediad da i mewn i’r gofynion sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa fel cyfreithiwr, yn ogystal â chyngor ar wneud ceisiadau swydd”
– Steffan Cooling, 3ydd Flwyddyn
“Yn sicr, roedd y profiad yn un fuddiol. Mi fydd yn cyflenwi’r hyn rwy’n dysgu ar fy ngradd ac rwyf wedi cael cyngor ar sut i ddelio gyda phobl. Gweithiais fel rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid am 4 mlynedd cyn mynychu Ysgol y Gyfraith, Bangor. Penderfynais astudio’r Gyfraith oherwydd teimlais y byddai’n hynod ddefnyddiol yn y byd busnes ac mewn bywyd yn gyffredinol”
- Ali Nezam, Blwyddyn 1af
“Roedd cwrs Ymwybyddiaeth Fasnachol BPP yn addysgiadol iawn. Pwysleisiodd y sgiliau sy’n angenrheidiol i lwyddo mewn cyfweliadau swyddi. Roedd yn gyfle gwych hefyd i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r maes cyfreithiol”
- Aaron Bridge, 2il Flwyddyn