Newyddion yr Ysgol
Digwyddiadau
Nid oes yn y calendr digwyddiadau ar hyn o bryd.
Croeso i Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn ysgol arloesol ac yn un sy’n ehangu, gan adlewyrchu arbenigedd ac ymroddiad i ragoriaeth addysgu ac ymchwil. Mae ein rhaglenni i israddedigion ac ôl-raddedigion wedi cael eu cynllunio’n ofalus i baratoi graddedigion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn gweithle cynyddol fyd-eang. Mae’r Ysgol yn hyrwyddo amgylchedd o ddatblygiad parhaus wedi’i gyfoethogi gan weithgareddau allgyrsiol yn cynnwys darlithoedd gwadd rheolaidd, lleoliadau gwaith, ffug lysoedd, yr Innocence Project a Chyfraith Stryd.
Mae Prifysgol Bangor yn awr wedi’i gosod ymhlith y 275 brifysgol gorau’r byd, ac mae wedi’i gosod ymhlith y 15 brifysgol orau ym Mhrydain (a’r orau yng Nghymru) am ragoriaeth addysgu. Rydym yn ymfalchïo mewn lefel o foddhad myfyrwyr llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol diolch i feintiau dosbarth bychain, diogelwch a fforddiadwyedd Bangor, a chymuned amlddiwylliannol fywiog y Brifysgol.
Mae pob gradd LLB Bangor yn cael eu cydnabod gan Gymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr a Chyngor y Bar, ac felly mae ganddynt statws Graddau Cymhwyso yn y Gyfraith.