UWB Crest

Ysgol y Gyfraith

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau

Ysgoloriaethau Aur ac Arian  MBA & MA

Mae ysgoloriaethau Aur gwerth £5,000 ac ysgoloriaethau Arian gwerth £2,000 ar gael i astudio’r radd MA neu’r graddau MBA a gyflwynir ar y cyd gan Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Busnes Bangor. I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i ymgeiswyr yn gyntaf wneud cais am le ar un o’r rhaglenni canlynol:

  • MBA y Gyfraith a Rheolaeth

  • MBA Bancio a’r Gyfraith
  • MA Bancio a’r Gyfraith

Caiff pob ymgeisydd wybod canlyniad eu cais am le ar raglen academaidd trwy e-bost. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael cynnig lle yma yn cael pecyn ymgeisio am ysgoloriaeth gan Ysgol y Gyfraith ym Mangor ar yr un pryd. Os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost, byddwch yn derbyn llythyr. Bydd y pecyn ymgeisio am ysgoloriaeth yn cynnwys:

  • manylion am yr ysgoloriaethau Aur ac Arian
  • manylion am sut i wneud cais
  • ffurflen gais ar gyfer ysgoloriaeth

Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi gwybodaeth am eu llwyddiannau academaidd a phersonol a nodi eu rhesymau am wneud cais am ysgoloriaeth. Rhoddir ysgoloriaethau ar sail safon y ceisiadau a dderbynnir. Er mai llwyddiant academaidd yw’r prif faen prawf, caiff gwaith academaidd, profiad gwaith a llwyddiannau personol eu hystyried hefyd. NODWCH: ni dderbynnir ffurflen gais HEB gopi o CV.

Mae yna ddau ddyddiad cau ar gyfer ymgeisio:

  • Dyddiad cau interim: 1 Mawrth
  • Dyddiad cau terfynol: 1 Gorffennaf


Lawrlwythwch y ffurflen gais. (NODWCH: rhaid cynnwys copi o’ch CV gyda’ch ffurflen cais. Ni dderbynir cais HEB CV.)


Gwybodaeth bellach: law.pg@bangor.ac.uk

Gwobr Teyrngarwch

Mae Ysgol y Gyfraith yn cynnig gwobr am deyrngarwch i raddedigion Bangor sy’n mynd ymlaen i wneud gradd meistr yn Ysgol y Gyfraith ym Mangor. Rhoddir gwobr am deyrngarwch gwerth £500 i fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd a rhoddir gwobr am deyrngarwch gwerth £1,000 i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i dudalennau Prifysgol Bangor am wybodaeth am ragor o gyfleoedd ariannu Ôl-raddedig.