UWB Crest

Ysgol y Gyfraith

Cyfraith Stryd

Menter gymunedol a rhedwyd gan fyfyrwyr yw Cyfraith Stryd, sy'n anelu i wella dealltwriaeth gyfreithiol ymysg y bobl leol. Fe sefydlwyd y project gan fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, Iwan Emlyn Jones a Joshua Simpson, yn 2010.

Mae Cyfraith Stryd yn anelu i ddosbarthu gwybodaeth fuddiol i bobl yn y cymunedau lleol sydd heb fynediad rhwydd i’r fath o wybodaeth a materion cyfreithiol a all eu heffeithio nhw. Yn rhad ac am ddim, mae myfyrwyr yn traddodi cyflwyniadau rhyngweithiol ar bynciau fel Cyfraith Droseddol, Cyfraith Defnyddwyr, a Chyfraith Cyflogaeth i sefydliadau megis Clybiau Ieuenctid, Sefydliad y Merched ac ysgolion uwchradd.

Ysbrydolwyd Cyfraith Stryd gan ddiwrnod agored BPP ym Manceinion, lle teimlodd Iwan a Joshua bod angen mwy o ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr sydd yn cysidro gyrfaoedd mewn meysydd heblaw’r gyfraith, megis addysg. Mae’r prosiect yn gyfle gwych i fyfyrwyr datblygu sgiliau cyflwyno, ymchwilio, cyd-weithio a siarad yn gyhoeddus - sgiliau hynod dymunol mewn unrhyw faes cyflogaeth. Yn ogystal, mae’n darparu cymorth addysgol trwy alluogi myfyrwyr i ymroi'r hyn sydd wedi cael ei dysgu yn ystod y cwrs i amodau ymarferol a di-gyfreithiol.

Fe gynhelir apwyntiad gyntaf erioed Cyfraith Stryd yn Sefydliad y Merched ym Morthaethwy, Ynys Môn, lle bu'r myfyrywr yn rhoi cyflwyniad ar Gyfraith Defnyddwyr.

Eisiau cymryd rhan? Islwythwch y ffurflen cofrestru yma (anfonwch ffurfleni wedi'u llenwi i streetlaw@undeb.bangor.ac.uk):

Am ragor o wybodaeth ar Gyfraith Stryd cysylltwch â streetlaw@undeb.bangor.ac.uk, neu cymerwch golwg ar ein tudalennau we...