Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Her Ddringo yn Alasga i Fyfyrwyr Bangor

Tom Ripley ar ben y Japanese ColouirTom Ripley ar ben y Japanese ColouirEfallai mai dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yw’r pâr ieuengaf erioed i ddringo’r Cassin Ridge ar Wyneb Deheuol mynydd Denali yn Alasga.

Mae Tom Livingsone, 21, o Southampton, yn astudio marchnata yn Ysgol Busnes Bangor ac mae Tom Ripley, 22, o Ardal y Llynnoedd, yn astudio yn yr Ysgol Gwyddorau, Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer yn ddiweddar, maent wedi dychwelyd o daith  bum wythnos o Fryniau Canolog Alaska.

Cychwynnodd y pâr ar eu taith gan ddringo o gwmpas y Rhewlif Kahiltna, rhewlif 36-milltir ar ei hyd, sy’n gorwedd ychydig o dan y llwyfandir sy’n gartref i’r gwersyll 14,000 troedfedd (Camp 14k). Ar ôl aros yn eu hunfan dros gyfnod o dywydd drwg, buont yn dringo Denali o gyfeiriad Bwtres y Gorllewin er mwyn ymgyfarwyddo’n llwyr â’r  amgylchedd. Pan ddaeth y tywydd teg, dringodd y pâr o Wersyll 14k hyd at y copa 20,320 troedfedd o uchder ac yn ôl mewn diwrnod hir a blinedig iawn.

Wrth gofio’r profiad, dywedodd Tom Ripley:

Tom Livingstone yn dringo tuag at y copaTom Livingstone yn dringo tuag at y copa“Ar ôl Bwtres y Gorllewin, roeddem yn eithaf blinedig. Felly, buom yn gwastraffu dau ddiwrnod o dywydd perffaith wrth ddod atom ein hunain. Ar 22 Mehefin, ymunasom â Nick Bullock ac Andy Houseman, ac aethom lawr Wickware Ramp i waelod  Cassin Ridge. Mae’r esgynfa’n llawn crefasau, a thuag at ei phen, mae blociau rhew yn disgyn yn ei bygwth yn gyson.

“Am 6 o’r gloch fore trannoeth, dechreusom ddringo’r Japanese Colouir, gan ddringo wedyn am 20 awr i gyrraedd brig y Second Rock Band. Roedd y dringo yn ardderchog ac yn eithaf rhwydd, ond roedd rhai rhannau anodd ar hyd y ffordd. Ar ôl 20 awr o ddringo, buom yn gwersylla dros y nos ar sil bychan ar uchder o tua 16,500 troedfedd. Y bore trannoeth, fe wnaethom ddeffro am 7 o’r gloch i eira. Ar ôl dwy ddringfa heriol, yr oeddem ar ben y Second Rock Band, a diwedd y dringo technegol, ond gyda 3,600 troedfedd i fynd, roedd y daith ymhell o fod ar ben.

“Roedd y tywydd yn dal yn wael, ac roedd y ddau ohonom yn nerfus am yr hyn oedd o’n blaenau. Diolch byth, tra oeddem yn eistedd yn ein pabell yn toddi eira, cliriodd yr awyr ac roeddem yn gallu parhau yn y tywydd braf. Cymerasom ein tro i arwain, gan torri llwybr blinedig bob yn ail am awr ar y tro. O’r diwedd, cyraeddasom frig y  Kahiltna Horn. Gollyngasom ein sachau a dygnu ymlaen yr ychydig droedfeddi i’r copa, gan gyrraedd am 11pm.

Tom livingstone yn dod lawr Bwtres y Gorllewin.Tom livingstone yn dod lawr Bwtres y Gorllewin.“Roeddem ni’n dau’n flinedig iawn erbyn hynny, ond aethom i lawr yn ôl  i loches Camp 17k, a chwympo i mewn i ddiogelwch cymharol ein pabell.”

Mae’r ddau Tom yn fynyddwyr profiadol,  ac wedi dechrau dringo yn ifanc. Maent wedi dringo yn helaeth o gwmpas y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r tu hwnt ac ar ôl graddio’r flwyddyn nesaf, y maent yn bwriadu parhau i ddringo cymaint ag y bo modd, yng ngogledd Cymru ac o gwmpas y byd.

Mae Tom Livingstone a Tom Ripley yn ddyledus i'r sefydliadau canlynol, heb eu cefnogaeth ni fyddai'r daith wedi digwydd.

Cefnogaeth ariannol gan: Cyngor Mynydda Prydeinig (BMC), Mount Everest Foundation a Chymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA).

Cyflenwyd offer gan: Anatom, Cotswold Outdoor, First Ascent a Mountain Equipment.

Darllenwch mwy am eu hanturiaethau ar eu blogiau:

www.tomlivingstone.co.uk

www.tomripleyclimbing.blogspot.co.uk

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor