UWB Crest

Astudiaethau Israddedig

Newyddion yr Ysgol

Llwyddiant yng Nghynhadledd y Gymdeithas Meddygol

Yn ddiweddar, daeth cyn-fyfyrwraig ar y cwrs BSc Niwroseicoleg (intercalated) yma yn yr Ysgol Seicoleg i’r brig yn y cystadleuaeth poster yng nghynhadledd y Gymdeithas Meddygol. Roedd poster Elin Powell, ‘Rôl y cortecs serebrol mewn darganfod gwynebau’, wedi ei seilio ar y prosiect bu iddi gwblhau dan oruchwyliaeth yr Athro Bob Rafal, cyfarwyddwr y cwrs, tra y buodd hi’n astudio ym Mangor.

Gallwch weld y poster yma.

Enwi darlithfa ar ôl darlithydd ysbrydoledig 

Bu Alun Waddon yn ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg o 1970-2005. Ar ôl ei farwolaeth yn ddiweddar penderfynodd yr Ysgol gydnabod ei gyfraniad pwysig mewn Seicoleg ym Mangor drwy enwi Darlithfa 1 ar ei ôl. Roedd yn ddarlithydd ysbrydoledig a oedd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i gynorthwyo ei fyfyrwyr. Roedd ganddo’r funud ychwanegol honno i ateb cwestiynau ac agorodd ddrysau i’w fyfyrwyr, yn llythrennol a ffigurol. Cafodd Darlithfa 1 ei henwi’n Ddarlithfa Alun Waddon gan wraig Alun,  Dr Michelle Aldridge-Waddon, a 2 o’i 3 phlentyn, mewn seremoni a gynhaliwyd ar 27 Hydref, gyda chydweithwyr a chyfeillion Alun yn bresennol.

Prifysgol Bangor ar eich ffôn symudol ...

Mae Prifysgol Bangor yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i lansio ‘gwefan symudol’ gyda’r bwriad o ddenu myfyrwyr newydd. Mae’r wefan yn manteisio ar y we symudol i roi mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ar y we ar gyfer staff a myfyrwyr presennol hefyd.

Yn sicr, hon yw’r wefan symudol gyntaf amlieithog sy’n cynorthwyo ymwelwyr Cymraeg, Saesneg neu Tsieinëeg eu hiaith, ac mae’n un o’r rhai cyntaf yn y DU sydd wedi’u hanelu’n benodol at ddarpar-fyfyrwyr.

Mae’r wefan newydd, a ddyluniwyd i’w defnyddio ar ffonau deallus (smart-phones) sydd â chyswllt â’r rhyngrwyd, wedi cael ei datblygu i ychwanegu at y wybodaeth gynhwysfawr sydd eisoes ar gael ar wefan y Brifysgol. Mae wedi’i hanelu at fyfyrwyr sy’n ystyried astudio ym Mhrifysgol Bangor ac ar gael yng nghledr eu llaw.

Mae defnyddwyr ffonau deallus sy’n ymweld â gwefan lawn www.bangor.ac.uk yn cael eu tywys yn awtomatig i’r wefan symudol, ond gallant ddewis ymweld â’r wefan lawn os dymunant.

“Mae rhywbeth yn debyg i adeiladu Tardis Dr Who; fel mae pawb yn deall, mae’n llawer mwy y tu mewn nag y mae’n ymddangos ar y tu allan ar y dechrau!” meddai Sam Foster, Rheolwr Tîm y We ym Mhrifysgol Bangor.

“Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn ei chael yn ychwanegiad defnyddiol wrth iddynt fynd ati i wneud benderfyniadau.”
Mae ymwelwyr â’r wefan symudol yn gallu gweld gwybodaeth allweddol am Brifysgol Bangor, y cyrsiau, cymorth i fyfyrwyr, gwybodaeth am astudio fel myfyriwr rhyngwladol, fideos BangorTV, oriel delweddau, newyddion a digwyddiadau, gwybodaeth a mapiau sy’n berthnasol yn ôl eu lleoliad presennol os ydynt ar y campws.

Mae nifer o nodweddion wedi’u cynnwys sy’n hwyluso defnyddwyr y wefan symudol i gysylltu â’r Brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys ffurflenni cysylltu –  ar ddwy ffurf – un syml ac un i archebu prosbectws. Mae’n cynnwys rhifau ffôn a fydd yn deialu pan fyddwch yn clicio arnynt, presenoldeb ‘Twitter’ a  ‘Facebook’, rhestri Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth a chyfeiriadur o'r holl gysylltiadau ar gyfer Prifysgol Bangor.

Ymchwilwyr yn mesur gwerth gwên

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi pennu gwerth economaidd ar wên, gan ddangos yn wyddonol yr effaith y gall gwên ddiffuant ei chael ar y modd y cymerwn benderfyniadau.  ‘Gwybodaeth gymdeithasol’ y mae’r seicolegwyr yn galw hyn, a dywedant y caiff fwy o effaith nag y gellwch ddychmygu.

Fel yr eglura Danielle Shore, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg, a phrif awdur yr ymchwil: “Dychmygwch fod angen car newydd arnoch. Pa ffactorau sy’n dylanwadu ar eich dewis? Efallai eich bod yn bwriadu seilio eich penderfyniad ar faterion llwyr ymarferol, megis costau cynnal a dibynadwyedd; fodd bynnag, yn ôl ymchwil, mae ffactorau cymdeithasol, megis ymddygiad y gwerthwr, yn bwysicach nag a dybiech.”

“Os bydd y gwerthwr yn rhoi gwên ddiffuant o bleser ichi, cewch brofiad cadarnhaol a byddwch yn debygol o brynu car gwell, neu fwy o nodweddion ychwanegol, nag yr oeddech wedi bwriadu eu prynu’n wreiddiol. Yn wir, mae’r wên ddiffuant fel pe bai’n fath o arian cymdeithasol, yn wobr werthfawr y bydd pobl talu i’w derbyn,” eglura.

Bu’r ymchwilwyr yn edrych ar ymateb pobl i ddau fath o wên, sef gwên ddiffuant a gwên gwrtais. Presenoldeb ‘llinellau chwerthin’ sy’n gwahaniaethu rhwng y gwenau hyn – y rhychau bach sydd i’w gweld yng nghorneli’r llygaid pan fo rhywun yn gwenu’n ddiffuant, ond nid pan fo’n gwenu’n gwrtais. Bu’r awduron yn cynllunio arbrawf lle chwaraeodd y myfyrwyr gêm yn erbyn ‘gwrthwynebwyr’ cyfrifiadurol a oedd naill ai â phosibiliadau uwch neu is o ennill arian, ac a oedd yn gwenu, naill ai’n ddiffuant neu’n gwrtais. Yng nghyfnodau diweddarach y ‘gêm’, bu’r ymchwilwyr yn mesur dewisiadau pobl, gan ofyn iddynt ddewis eu gwrthwynebwyr. Trwy’r canlyniadau, roedd yr ymchwilwyr yn gallu penderfynu pa mor werthfawr oedd y naill wên a’r llall, yn ôl barn y cyfranogwyr.

Eglurodd Shore fel a ganlyn: “Y canfyddiad pwysig yn yr arbrawf hwn yw bod yn well gan bobl wrthwynebwyr oedd yn gwenu’n ddiffuant, hyd yn oed pan oeddent yn gysylltiedig â llai o bosibiliadau o ennill. Cawsom fod hyn yn ddiddorol, am fod ein cyfranogwyr i gyd yn fyfyrwyr prifysgol ac, fel rheol, â llawer o gymhelliant i ennill arian. Nid oeddem wedi disgwyl iddynt ddewis gwrthwynebwyr a oedd yn gwenu’n ddiffuant ond pan oedd y gobaith o ennill yn gyfartal. Syndod o’r mwyaf oedd y ffaith iddynt ddewis gwrthwynebwyr a oedd yn llai tebygol o dalu.”

Yn wir, cyfrifodd yr ymchwilwyr mai ychydig yn fwy na thraean ceiniog oedd gwerth gwên ddiffuant yn yr arbrawf.  

Swm bach yw hwn, ond dychmygwch eich bod yn cyfnewid 10 neu 20 o’r gwenau hyn mewn trafodaeth fer. Byddai’r gwerth hwnnw’n cynyddu’n gyflym ac yn dylanwadu ar eich gallu i roi barn. Felly, gallai’r car newydd ymddangos yn well bargen pe bai gwerthwr â gwên ddiffuant yn ei werthu ichi,” awgryma Dr Erin Heerey, cyd-awdur yr astudiaeth.

Yn ôl Shore, mae i’r ymchwil hon oblygiadau ar y modd y mae pobl yn cymryd amrywiaeth o benderfyniadau cymdeithasol o bwys.

Gall gwenau diffuant helpu pobl i ddod i gytundeb yn ystod trafodaethau. Efallai y caiff pobl sy’n aml yn gwenu’n ddiffuant ei bod yn haws iddynt ddarbwyllo eraill i weithio tuag at yr u nod. Oherwydd bod cyfathrebu cadarnhaol yn helpu pobl i greu cysylltiadau, gallai gwên atgyfnerthu’r cysylltiadau cymdeithasol a rannwn â’n ffrindiau a’n cydweithwyr.”

Cyhoeddwyd eu hymchwil yn y cylchgrawn Emotion. Cafodd efrydiaeth PhD Danielle nawdd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

 

Ydych chi wedi ystyried astudio’n ôl-radd ym Mangor?

Ni ellwch gael gormod o gymwysterau ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd. Gall cymhwyster ôl-radd fod o gymorth i wneud i chi sefyll allan ymysg ymgeiswyr am swyddi, agor drysau i gyfleoedd newydd,  neu’ch helpu i symud ymlaen o’ch swydd bresennol neu newid cyfeiriad yn eich gyrfa.

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Cyrsiau Ôl-radd ddydd Gwener 18 Chwefror rhwng 12.00 - 2.00.

Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr presennol, ac unrhyw raddedigion sy’n gweithio neu’n byw’n lleol ac sy’n awyddus i astudio ym Mangor, i ymweld â’r Brifysgol a chael gwybod o lygad y ffynnon pa ddewisiadau ar gyfer graddau uwch hyfforddedig ac ymchwil sydd ar gael yn y Brifysgol.

Bydd staff y Swyddfa Derbyniadau Ôl-radd  a Chynghorwyr Gyrfaoedd a Chyfleoedd hefyd ar gael i roi cyngor ac arwain darpar ymgeiswyr a myfyrwyr drwy’r broses o wneud cais.

Cynhelir y Ffair yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol. Bydd un o’r rhai a fydd yn cofrestru a dod i’r achlysur yn ennill y wobr ragorol o Apple iPad, gan y bydd enwau pawb fydd yn cofrestru yn mynd i het a thynnir un enw buddugol.  Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad wrth fynd i wefan y Brifysgol.

“Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio ar lefel ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor ddod i’r Ffair, a dysgu mwy am y nifer helaeth o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael,” meddai Michael Rogerson, Swyddog Marchnata Ôl-radd.

Yn ogystal, bydd rhai ysgolion megis Gwyddorau Eigion, Seicoleg ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cynnal teithiau o amgylch eu hysgolion, a sgyrsiau ar eu gwahanol feysydd, ar gyfer rhai sydd yn awyddus i gael golwg fwy manwl ar eu cyrsiau a’u hadnoddau.

 

Mwy o gydnabyddiaeth yn Ewrop i Ysgol Seicoleg Bangor

Yn Nhabl Rhagoriaeth Ewropeaidd 2010 y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch gosodwyd 59 o brifysgolion yn Ewrop yn y “Grŵp Rhagoriaeth” ym maes Seicoleg. O’r rhain gosodwyd Ysgol Seicoleg Bangor yn y trydydd safle’n gyffredinol (ail yn y Deyrnas Unedig) ar sail nifer y sêr a enillodd yn yr arolwg sefydliadol a hefyd fe’i gosodwyd yn y deg uchaf ar sail mynegai meini prawf rhagddewis y Ganolfan. Dyfernir sêr i adrannau sy’n gwneud yn arbennig o dda mewn rhai meysydd ac mae’r ffaith bod Bangor wedi sgorio mor uchel yn arwydd eglur o ansawdd cyffredinol yr Ysgol a’r parch rhyngwladol sydd i’w staff a’i myfyrwyr.

Sefydliad annibynnol yw’r Ganolfan Datblygu Addysg Uwch sydd yn ymrwymedig i ddiwygio addysg uwch. Bwriad Tabl Rhagoriaeth y Ganolfan Addysg Uwch yw helpu i roi gwybodaeth am ansawdd addysgu ac ymchwil ôl-radd unrhyw adran i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio ar lefel ôl-radd , yn ogystal ag i staff academaidd ac anacademaidd sydd â diddordeb mewn safle adran unigol yn Ewrop. Mae’r drefn sgorio’n cynnwys gwerthusiadau gan fyfyrwyr a gwybodaeth am raglenni astudio ac offer addysgu, cyfrifiadurol a labordy, perfformiad ymchwil ac agweddau rhyngwladol.

"Rydw i wrth fy modd bod Ysgol Seicoleg Bangor wedi gwneud cystal yn y tabl hwn o adrannau Seicoleg elit. Mae’r ffaith ein bod wedi ennill 6 seren yn yr arolwg sefydliadol, sy’n ein gosod yn y trydydd safle’n gyffredinol, yn arwydd rhagorol o ansawdd yr amgylchedd ymchwil y gallwn ei gynnig i fyfyrwyr ôl-radd ac i staff. Os cymerwn i ystyriaeth hefyd yr amgylchedd naturiol anhygoel sydd yng nghyffiniau’r brifysgol, credaf nad oes yr un adran well yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithio neu astudio " meddai’r Athro Oliver Turnbull, Pennaeth yr Ysgol.

Mae Ysgol Seicoleg Bangor yn un o’r ysgolion mwyaf yn y Deyrnas Unedig hefyd o ran nifer ei myfyrwyr ac yn cynnig i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol fel ei gilydd gyfuniad o faint ac ansawdd, mewn amgylchedd naturiol gwych ac mewn dinas fywiog lle mae myfyrwyr yn cyfrif. Nid yw’r elfennau hyn ar gael mewn lleoedd eraill. Ewch i wefan yr Ysgol Seicoleg i gael mwy o fanylion am raddau Seicoleg ac allbwn ymchwil yr ysgol."

15/04/2010 Cynorthwyydd Dysgu Seicoleg yn cipio gwobr ‘New Investigator’

Delwedd o Fay ShortMae aelod o dîm dysgu'r Ysgol Seicoleg wedi derbyn gwobr fawreddog gan yr American Psychological Association (APA), am ei gwaith ym maes canfyddiad a pherfformiad dynol.

Cyflwynir gwobrau’r New Investigator yn flynyddol gan bum papur academaidd cyhoeddir gan yr APA sy’n ymwneud â niwrowyddoniaeth, i anrhydeddu ymchwilwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa. 

Mae erthygl Dr Fay Short, “Virtual limbs and body space: Critical features for the distinction between body space and near-body space” a’i chydawdur Dr Robert Ward sydd hefyd yn seicolegwr ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill y wobr Division of Experimental Psychology 2009 New Investigator Award in Experimental Psychology: Human Perception and Performance.

Dywedodd Fay, “Mae’n anrhydedd anferth i mi dderbyn y wobr yma ar ddechrau fy ngyrfa fel seicolegydd ac rwy’n obeithiol bydd yn fy ysbrydoli i barhau gydag ymchwil o’r safon uchaf.”

Ganwyd Fay yn Hull, ond fe’u magwyd ym Mhrestatyn. Daeth Fay i Fangor yn gyntaf yn 1999 ar ôl iddi astudio yn Ysgol Uwchradd Prestatyn a Choleg Iâl, Wrecsam. Graddiodd gyda gradd ddosbarth gyntaf (BSc) mewn Seicoleg yn 2002, cwblhaodd radd Feistr yn 2003 a derbyniodd ddoethuriaeth mewn Niwroseicoleg Ymwybyddol yn 2008.

Eglurodd Fay’r ymchwil a gyflwynwyd yn ei phapur, “Mae ymchwil blaenorol wedi darganfod eich bod yn naturiol yn ymateb yn gynt ar rywbeth sydd ar eich corff yn hytrach nac wrth ymyl eich corf. Dychmygwch pa mor gyflym y buasech yn ymateb i bry cop yn symud yn agos i’ch llaw ac yna dychmygwch faint yn gyflymach y byswch yn ymateb i’r pry cop ar eich llaw!

“Mae ein hymchwil yn archwilio os ydy hi’n bosib i ‘dwyllo’r’ ymennydd i ymgorffori gwrthrychau allanol i mewn i gynrychiolaeth fewnol ein corff. Trwy ddefnyddio technegau rhithrealiti (virtual reality) fe wnaethom ni archwilio os ydy hi’n bosib i ni annog ein tueddiad naturiol tuag at ein corff ein hunain a’i ymestyn i’r rhith-gorff.

“Canlyniad ein hymchwil oedd ei bod hi’n bosib i’r ymennydd dderbyn rhith ddwylo fel dwylo go iawn, hyd yn oed mor bell â’u bod yn ymateb i dargedau ar y rhith ddwylo yn gynt na thargedau wedi eu lleoli’n agos i’r rhith ddwylo. Mae oblygiadau hyn yn holl bwysig oherwydd mae’n dangos fod yr estyniad yma o ‘gynrychiolaeth gorfforol’ dim ond yn bosib pan mae gennych reolaeth dda o’r rhith gorff.”

Delwedd o Fay ShortYn ogystal â’i diddordebau ymchwil mewn cynrychiolaeth gorfforol, mae gan Fay ddiddordeb cryf ym maes cynghori, ac mae ganddi hyfforddiant eang ym maes dysgu. Mae ei rôl bresennol ym Mhrifysgol Bangor yn ei galluogi iddi allu canolbwyntio ar arwain myfyrwyr at lwyddiant academaidd. Mi fydd Fay yn defnyddio technegau rhith realiti gyda cham nesaf ei hymchwil wrth iddi archwilio os oes 'na reswm niwrolegol pam fod rhai pobl yn dioddef o ‘body dysmorphic disorder,’ cyflwr sydd ar hyn o bryd yn cael ei gategoreiddio fel salwch meddyliol ble mae’r claf yn gorganolbwyntio ar un rhan o’i gorff gyda’r farn ei fod yn annormal neu’n hyll.

“Mae gen i ddiddordeb mawr yn sut mae’r corff yn cael ei gynrychioli yn yr ymenydd. Mae canfyddiadau ymchwil y papur yma wedi amlygu pwysigrwydd rheolaeth dros y corff, felly efallai fod profiad o ddiffyg rheolaeth dros y corf, yn enwedig yn ystod yr arddegau pan mae’r corf yn datblygu yn cyfrannu at deimladau negative sy’n arwain at ‘body dysmorphic disorder’.

“Mi fydd yr ymchwil rwy’n ei gyflawni yn y dyfodol yn defnyddio technegau rhith realiti i archwilio ymatebion i ddwylo ‘hyll’ ac yn edrych ar sut y gallwn drawsnewid teimladau tuag at y dwylo yma drwy roi rheolaeth dros symudiad i’r cyfrannwr. Rydym yn obeithiol fod yr ymchwil yn gwella ein dealltwriaeth o’r salwch difrodus yma.” 

 

08/03/2010 Sut mae ymgeisydd yn symud yn dylanwadu ar sut y pleidleisiwch.

Gall iechyd ymddangosiadol ymgeisydd etholiad ragfynegi sut bydd pobl yn pleidleisio yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar – a gall pleidleiswyr lunio barn ynghylch pa mor iach yw ymgeisydd yn ôl y ffordd mae’r person hwnnw’n symud yn unig.

Efallai na fydd casgliadau’r pleidleiswyr yn gywir - ac efallai na fyddant hyd yn oed yn sylweddoli bod sut mae’r ymgeiswyr yn symud wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i bleidleisio, ond mae cysylltiad clir rhwng sut mae ymgeisydd yn symud a phatrymau pleidleisio dilynol wedi cael eu profi am y tro cyntaf. Mae’n ymddangos ein bod yn fwy tebygol o bleidleisio am rywun sy’n symud mewn ffyrdd sy’n ymddangos yn iach i ni.

Mae’r papur yn The Quarterly Journal of Experimental Psychology hefyd yn rhoi enghraifft glir o sut yr ydym yn dod i gasgliadau yn yr isymwybod ynghylch pobl eraill, wedi’i seilio ar sut maent yn symud.

Gofynnodd seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor i bobl edrych ar glipiau fideo byrion o Barak Obama a John McCain, neu Gordon Brown a David Cameron – gyda’r delweddau wedi’u troi’n ddynion matshis – gan gynrychioli dim ond symudiad yr unigolyn, a chyda’r sain wedi’i ddiffodd. Roedd pobl yn sgorio’r 'dynion matshis' am amrywiaeth o nodweddion, yn cynnwys pa mor ddeniadol oeddent, eu natur ddibynadwy, arweinyddiaeth ac iechyd corfforol. Nid oeddent yn gwybod pwy oedd y ‘dynion matshis’, ond gofynnwyd iddynt pa un y byddent yn pleidleisio amdano.

Y canfyddiad yn y diwedd oedd i’r mwyafrif bleidleisio am y sawl yr oeddent wedi’i sgorio iachaf hefyd – wedi’i seilio ar glipiau o ddim ond naw eiliad o hyd. Roedd y cysylltiad rhwng iechyd ymddangosiadol a phatrwm pleidleisio yn llawer cryfach na rhwng arweinyddiaeth a phleidleisio.

Mewn arbrawf a gynhaliwyd cyn etholiadau arlywyddol America, fe wnaeth 63% o’r rhai a gymerodd ran bleidleisio am y 'dyn matshis Obama' dienw (enillodd Obama 52.7% o bleidleisiau’r bobl). Yn y ‘gystadleuaeth dynion matshis’ Brown-Cameron, nid oedd mwyafrif clir. Gall hyn fod oherwydd i’r grŵp yn gyffredinol sgorio Brown a Cameron yr un mor iach, wedi’i seilio ar y clipiau a ddewiswyd.

Y canfyddiad pwysig yw’r cysylltiad a sefydlwyd rhwng yr ymgeisydd yn cael ei weld yn yr isymwybod fel yr iachaf, a dewis pleidleisio dilynol yr ymgeisydd.

Eglura prif awdur y papur, y myfyriwr doethuriaeth, Robin Kramer o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor: "Ein barn ni ynghylch pa mor iach yw person arall sy’n dylanwadu ar ein dewis pleidleisio."

"Roedd ein harbrofion yn canolbwyntio ar glipiau byr iawn o bob siaradwr. Gan dynnu ymddangosiad a defnyddio symudiad yn unig, roeddem ni’n dal i allu gofyn i’r rhai a gymerodd ran ynghylch eu canfyddiad o’r ymgeiswyr. Mewn bywyd go iawn, byddai pobl yn cael llawer mwy o gyfleoedd i weld a chlywed ymgeiswyr. Byddent yn ystyried ffactorau dylanwadol eraill sydd eisoes wedi’u sefydlu, fel sut mae’r ymgeiswyr yn swnio a gwisgo, yn ogystal ag ystyried y polisïau a’r pleidiau dan sylw."

"Mae ein canlyniadau yn pwysleisio ymhellach y gellir dylanwadu ar benderfyniadau pwysig, fel am bwy yr ydym yn pleidleisio, gan deimladau nad ydym yn ymwybodol ohonynt o bosibl. Efallai bod y ffaith bod gwleidydd yn ymddangos yn iach yn hollol amherthnasol i’r hyn a wnânt yn y swyddfa, ac eto gall yr ymddangosiad hwnnw fynd â’n pleidlais ni o hyd," ychwanegodd y cydawdur, Dr Robert Ward, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.

26/02/2009 Gwyddonwyr yn dangos bod iaith yn dylanwadu ar ganfyddiad

Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth wybyddol (sef gwyddor sut mae'r ymennydd yn gweithio pan ydym yn meddwl) wedi dangos bod yr hyn mae ein llygaid yn ei weld a beth mae ein hymennydd yn ei ddehongli yn ddau beth gwahanol. Mewn erthygl yn cyfnodolyn pwysig Proceedings of the National Academy of Sciences USA mae'r Athro Guillaume Thierry, Dr Panos Athanasopoulos a chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor yn egluro bod ein hiaith yn achosi i'n hymennydd ganfod lliwiau'n wahanol.

Eglurodd Dr Athanasopoulos: "Mae ein hiaith yn ein gorfodi i ystyried y byd mewn gwahanol ffyrdd. Mae siaradwyr Groeg yn gyson yn defnyddio dau derm gwahanol i gyfeirio at las: mae'r awyr yn ghalazio (glas golau), byth yn ble (glas tywyll), ac mae pen ysgrifennu las yn ble ond ni all fyth fod yn ghalazio. Byddai siaradwyr Saesneg ar y llaw arall yn dweud yn hollol naturiol bod yr awyr a phen ysgrifennu yn blue."

Er mwyn gweld a ydyw iaith yn dylanwadu ar ein prosesau biolegol a ffisiolegol o ganfod lliw, defnyddiodd yr ymchwilwyr dechneg a elwir event related brain potentials (ERPs). Mae'r dechneg hon yn dilyn gweithgaredd yr ymennydd fesul mili-eiliad.

Meddai'r Athro Thierry: "Rydym yn gwybod bod y system golwg yn ein hymennydd yn dechrau prosesu stimwli, megis lliw, ychydig ddegau o fili-eiliad ar ôl i olau daro retina'r llygad. Rydym yn gwybod hefyd bod iaith yn dod i'n meddwl tua 200 mili-eiliad yn ddiweddarach. Gan ddefnyddio ERPs, gallwn edrych ar gamau cynnar iawn dadansoddi gweledol, ymhell cyn y daw gwybodaeth iaith ymwybodol i'r amlwg."

Darganfu'r ymchwilwyr wahaniaethau rhwng prosesu gweledol lliwiau glas golau a thywydd mewn siaradwyr Groeg a Saesneg mor gynnar â 100 mili-eiliad, gan awgrymu'n wir fod gan siaradwyr gwahanol ieithoedd feddyliau sydd wedi eu trefnu'n wahanol.

26/03/09 Arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu at rwydwaith efelychydd ‘gwir-rithwir.'

Mae arbenigwyr mewn rhithwiredd ym Mhrifysgol Bangor yn barod i gyfrannu at broject fawr i ddatblygu’r hyn a ddisgrifiant fel efelychydd gwir-rithwir. 

Arddangoswyd rhwydwaith project yr efelychydd ‘gwir-rithwir’ yn ddiweddar mewn digwyddiad ‘UK Pioneers 09’ yng Nghanolfan Gynhadledd Olympia, Llundain. Cafwyd hyd i arbenigwyr o fewn y DU a allai droi cysyniad yr efelychydd yn ffaith. 

Eu nod yw datblygu ‘cocŵn rhithwir’ a fydd nid yn unig yn creu golygfeydd a seiniau, ond hefyd arogl, teimlad a hyd yn oed blas, mwyn creu profiad canfyddiadol cyflawn. Yn ogystal â gwerth adloniannol amlwg y fath brofiad, mae'r datblygwyr hefyd yn gweld posibiliadau iddo mewn addysg ac mewn meysydd eraill, megis busnes a thwristiaeth rithwir. Gallai cymwysiadau o’r fath gyfrannu ar warchod yr amgylchedd drwy leihau’r angen i deithio 

Daw cyfraniad Prifysgol Bangor o’r Ysgol Cyfrifiadureg a’r Ysgol Seicoleg. Mae’r Athro Nigel John a Dr Jonathan Roberts yn yr Ysgol Cyfrifiadureg wrthi’n gweithio ar gymwysiadau rhithwir sy’n ail-greu’r teimlad corfforol o weithredoedd penodol. Er enghraifft, at ddibenion hyfforddiant meddygol, maent yn defnyddio ffon reoli ‘force feedback’ fel petai’n chwistrell hypodermig. Wrth ei defnyddio, mae’n ail-greu’r teimlad o wthio trwy’r croen fel petaech yn rhoi pigiad.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn ran o’r rhwydwaith Prydeinig,” meddai’r Athro Nigel John. “Gan Fangor y mae un o’r ychydig grŵpiau cyfrifiadureg yn gweithio ar raddfa genedlaethol yn y maes hwn.”

Y gwyddonydd golwg, Simon Watt o Ysgol Seicoleg y Brifysgol, fydd yn gweithio ar elfen weledol y dechnoleg arddangos. Mae’n astudio sut y mae system weledol bodau dynol yn gweithio, gan sicrhau bod y system arddangos yn gweddu orau i’r modd y mae ein hymennydd yn ail-greu’r ymdeimlad o wrthrychau tri dimensiwn o'r signalau a anfonir gan ein system weledol. 

 Mae'r cyfnod cynnar ‘profi’r cysyniad’ y rhwydwaith ymchwil, sydd wedi’i gyllido gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianegol a Ffisegol, wedi cadarnhau bod yr arbenigedd yn bodoli o fewn y DU i’w droi’n ffaith. Y cam nesaf fyddai gweld y rhwydwaith yn derbyn symiau sylweddol o un o’r Cynghorau Ymchwil Prydeinig er mwyn datblygu'r project dros nifer o flynyddoedd

13/02/09 Darganfyddiadau newydd am wynebau hapus o gymorth i bobl gyda chyflwr genynnol prin

Y gobaith yw y bydd darganfyddiadau newydd am sut mae'r ymennydd yn prosesu  mynegiant yr wyneb yn arwain at well ffyrdd o addysgu a hyfforddi pobl â Syndrom Williams, cyflwr genynnol niwroddatblygol prin.

Gan adrodd yn y cyfnodolyn, Journal of Neuroscience (28.2.09), dywed Dr Debra Mills, darllenydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, bod y tîm wedi dysgu mwy am yn union lle a pha bryd mae'r ymennydd yn prosesu mynegiadau emosiynol cadarnhaol a negyddol. Cynhaliwyd yr ymchwil, sy’n defnyddio delweddau electroffisiolegol a’r ymennydd (fMRI), ar y cyd efo ymchwilwyr ym Mhrifysgol Stanford a’r Salk Institute yn America. Darganfuwyd bod rhan o'r ymennydd sy'n ymateb i fynegiadau ofnus yn y rhan fwyaf ohonom, ym fwy gweithgar o ganlyniad i wyneb hapus mewn pobl â'r cyflwr yma. "

09/01/09 Mae tynnu coes yn llesol ichi!

Mae defnyddio sen yn ifanc yn gwella medrau cymdeithasol ac yn helpu plant i ddatblygu synnwyr digrifwch, yn ôl ymchwil gan Dr Erin Heerey o Ysgol Seicoleg y Brifysgol. Canfu hefyd yn ei hymchwil fod ‘cellwair-ymladd’ yn rhoi cyfle i ddisgyblion wahaniaethu rhwng trais gwirioneddol a thrais cogio, a myn fod tynnu coes a defnyddio llysenwau yn “rhan hanfodol o fywyd” ac na ddylid o anghenraid ddrysu rhwng y rhain a bwlio. Mae tynnu coes yn gymorth i blant ddarganfod sut i ddefnyddio eu cyrff, eu lleisiau a’u hwynebau i gyfleu arlliwiau ystyr, ychwanegodd.

Meddai Dr Heerey: “Rwy’n credu ei bod yn cymryd amser i blant ddod yn hyddysg yn hyn o beth. Gellwch wylio rhai yn ei harddegau yn sefyll mewn cynffon i brynu tocyn sinema, ac maent yn cellwair ymysg ei gilydd. Maen nhw’n dweud pethau gwirioneddol ffiaidd wrth ei gilydd, ond maen nhw i gyd yn chwerthin, ac mae i gyd yn hwyl.”

Yn ddiweddar, bu Dr Heerey yn gwneud ymchwil i’r swyddogaeth y mae tynnu coes yn ei chyflawni o fewn brawdoliaethau mewn colegau yn UDA. Cafodd fod myfyrwyr hŷn yn gwatwar newydd-ddyfodiaid, gan alw llysenwau amrwd arnynt ynglŷn â meddwdod a gwendidau eraill mewn modd a oedd yn eu hannog i newid eu hymddygiad, a hynny’n cynorthwyo aelodau’r grŵp i greu cwlwm agosrwydd. Yn ôl yr astudiaeth – a gynhaliwyd ar y cyd â Dacher Keltner o Brifysgol Califfornia – roedd yr achosion hyn o ‘iselhau’n chwareus’ yn helpu pobl i ddod yn well ffrindiau. Pan fu’r ymchwilwyr ar ail ymweliad â’r grŵp ymhen dwy flynedd, roedd myfyrwyr a fu’n dioddef tynnu coes mewn safleoedd arweiniol ac yn cyflawni’r un swyddogaeth o addysgu rhai newydd am normau cymdeithasol.

Dywedodd Dr Heerey, sy’n wreiddiol o Wisconsin, fod pobl o Brydain fel pe baent yn cymryd tynnu coes yn fwy o ddifrif nag Americanwyr. Meddai, “Bydd pobl yn dweud pethau rhyfedd iawn â wyneb sy’n llwyr o ddifrif. Ond mae pobl ym Mhrydain yn chwerthin am eu pennau eu hunain ychydig yn fwy nag Americanwyr. Fel Americanwr, rydych yn disgwyl gweld y clemion di-eiriau hyn sy’n dweud, ‘Rwy’n cellwair,’ ond dydych chi ddim yn eu gweld. Er hynny, maen nhw yno, ac mae’n rhaid ichi edrych ychydig yn fwy craff.̶

7/4/08 O hyfforddi’r ymennydd at adnabod gwên – Dyma gynhadledd yn cael gwybod am ymchwil gan fyfyrwyr Seicoleg Cymru

Daeth myfyrwyr seicoleg Cymru ynghyd i drafod eu hymchwil ym maes diddorol seicoleg yn ystod y 37ain Gynhadledd Cangen Cymru o’r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig (BPS) a gynhaliwyd ym Mangor yn ddiweddar. Cyflwynwyd 29 papur ymchwil gan fyfyrwyr o’r prifysgolion yng Nghymru sy’n dysgu seicoleg, gyda chynrychiolaeth gref o blith myfyrwyr Ysgol Seicoleg Bangor (22).

Myfyrwyr y drydedd flwyddyn neu fyfyrwyr gradd Meistr oedd yn cyflwyno, ac roedd yn gyfle gwych i fyfyrwyr Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 gael blas ar ystod eang y ddisgyblaeth. Mae’r rhain yn cynnwys asesu gwahanol ddulliau dysgu ac addysgu, pwyso a mesur a yw gwell gwybodaeth yn gwneud cleifion yn fwy bodlon ynglŷn â gwasanaethau gofal iechyd, cloriannu sut rydym yn darllen wynebau ac awgrymiadau cymdeithasol, ynghyd â chwestiynau fel pam nad yw pobl sy’n clywed lleisiau’n datblygu sgitsoffrenia?

“Rydym yn falch ein bod yn cynnal y Gynhadledd yma, a bod cymaint o’n myfyrwyr wedi manteisio ar y cyfle i gyflwyno eu hymchwil unigryw. Bydd cyflwyno eu canfyddiadau yn brofiad dysgu gwych iddynt, a bydd cyhoeddi’r papurau ymchwil yn Nhrafodion y Gynhadledd hefyd yn ychwanegiad at eu CVau gyrfaol,” meddai'r Athro Oliver Turnbull, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg. Seicoleg yw'r trydydd pwnc i’r mwyaf poblogaidd fel gradd gyntaf, a’r pumed pwnc Lefela o ran poblogrwydd. Ar ben hynny, ym Mhrifysgol Bangor y ceir y drydedd Ysgol Seicoleg i’r fwyaf yn y DU.

2/1/08 £1.2m Dementia Study

Professor Bob Woods of Bangor University's School of Psychology is to lead a major new research project investigating the clinical and cost-effectiveness of ‘reminiscence groups’ for helping people with dementia and their carers. The groups, run by professionals and volunteers, use photographs, recordings and other objects to trigger personal memories for people with dementia, and it is thought that this may help to maintain their autobiographical memory and improve their relationships with their carers, but there is little evidence about their effectiveness. The £1.2 million trial is commissioned by the National Institute for Health Research’s Health Technology Assessment (NIHR HTA) programme. In the project, researchers will investigate the effectiveness and added value of reminiscence group therapy compared with the usual care that people with dementia are offered.

 “The growing number of people with dementia, and the increasing cost of caring for them, provides a major incentive to develop and test methods of supporting them in the community for longer,” says Professor Woods. “Drug treatment has received most attention, but there is increasing evidence that psychological and social interventions may be equally effective, even preferable where medication has negative side-effects. We hope that the results of our study will provide the NHS with important evidence to help inform the care of people with dementia.”   View full details about the project.

7/12/07 Bilingualism Highlighted in Wales

The Bilingualism Centre was launched at Bangor University on 16 November 2007 drawing attendees from across Wales and beyond. Professor Deuchar, outlined the main aims of the Centre describing how it will provide new theoretical insights deriving from fundamental research but also new practical outputs, i.e. resources and tools for users and practitioners. She explained how the Centre draws together international experts in bilingualism from the fields of linguistics, education and psychology from an interdisciplinary perceptive and that it has recruited 15 new members of staff and has appointed two new Professors.

The launch consisted of a mini-conference followed by a Champagne reception in the School of Psychology's Brigantia building. The conference included contributions from the Neuroscience Group, the Experimental Psycholinguistics Group, the Corpus-Based Group and the Survey and Ethnography Group which form the core areas of the centre's research focus. < back to Research > < back to Postgraduate >

3/12/07 Lecturers beware! Challenging your students may be something you may regret…

Dr Jesse Martin challenged his students to raise £1,000 to see him in a bath of baked beans, so on a cold December day Dr Martin, a Teaching Fellow at the School of Psychology had to eat his words if not his beans and get in the bath. Psynergy, the student Committee at the School of Psychology, raised £1,071.77 for Charity over three weeks of fundraising which included male leg-waxing, selling cakes at lectures and guessing the currents in a cake! "This is an amazing amount of money and we'd like to thank everyone in the School of Psychology for being so generous and patient with us! We'd also like to thank all those who've supported and donated including, of course, Jesse for agreeing to get in the bath!" said Fraiser Bailey on behalf of the Psynergy Committee. < back to Research > < back to Postgraduate >

29/11/07 Leading the way in neuroscience

An organisation that places Wales' world-class neuroscience research even more firmly on an international stage was launched on the 28th November 2007. Invited guests and the public attended the launch of The Wales Institute of Cognitive Neuroscience (WICN) at the Oriel of the Senedd Building, National Assembly of Wales, Cardiff. Building on existing world-renowned expertise in psychology at Bangor, Cardiff and Swansea universities, the Welsh Assembly Government has invested over £5 million to establish the new multi-centre WICN. Although Wales may be small in size, the instituted draws together psychologists from three of the top psychology departments in Europe. These three faculties, home to over 250 academics and researchers, have brought in approximately £11 million in grants in just the last three years, and it is anticipated that this investment will strengthen Wales' position internationally in the study and application of cognitive and clinical neuroscience.

"WICN is an organisation of which Wales can be truly proud. The Institute boasts some of the foremost researchers in neuroscience in the world. The results of neuroscience research will feed into health services in Wales, will be shared internationally, and can bring economic and employment benefits" said Professor Merfyn Jones, Bangor University's Vice-Chancellor. < back to Research > < back to Postgraduate >

26/11/07 Ten International Scholarships Available

The School of Psychology is pleased to announce the following scholarships that are available for International (non EU) students applying for undergraduate and postgraduate study commencing in September 2008:

Two Psychology Scholarships for 50% of fees.
There is one 50% undergraduate bursary and one 50% masters bursary. These will be awarded on a merit basis to the applicant (max 1 per year per level) who has completed a bursary statement and who is deemed to have outstanding qualifications for their chosen programme of study.

Two £2000 Undergraduate Psychology Scholarships.
Three £2000 Masters Psychology Scholarships.
All International students: International students may alternatively apply for an International Student Scholarship from the University International Office.

To apply for one of the Psychology Scholarships, candidates must submit a 500-1000 word statement in support of their application, which answers the following question: Why have you chosen to apply to study Psychology at Bangor? Deadline for Scholarhsip applications: Friday 13th June 2008. This should be submitted with a short covering letter to:
Admissions and Marketing Administrator
Bangor University
Brigantia Building
Penrallt Road
Bangor, Gwynedd LL57 2AS

e-mail: Admissions Administrator telephone + 44 (0) 1248 382629 fax + 44 (0) 1248 382599 < back to Research > < back to Postgraduate >

6/11/07 Finding alternatives to suicide

On being faced with dealing with the aftermath of the suicide of a loved one, family and friends often say, "if only he or she had called me" If only he'd asked for help…" and so forth. But from the perspective of the people who commit suicide, at that moment it seems to them that there is no other way forward – no other possibilities present themselves. A new approach that integrates ancient meditation practices and modern therapy aims to prevent the recurrence of suicidal depression. The intention of the new approach is to enable participants to be able to see the range of options which may be there in these difficult moments. The new approach, to be trialled in North Wales and Oxford, would provide the health service with a new therapy to offer people with recurrent depression who are also at greater risk of suicidal thoughts. The approach moves away from simply treating people’s problems to helping people find a life that is worth living. The Centre for Mindfulness at Bangor University's School of Psychology will receive £1.1 million from the Wellcome Trust to roll-out the trial, following positive pilots by Professor Mark Williams at Oxford University (formerly of Bangor University). He has spent five years developing effective ways of assisting people with recurrent depression and suicidality.

The research trial will start recruiting participants in Autumn 2008. In the meantime there are regular mindfulness-based courses running for the general public in Bangor. Contact the Centre for Mindfulness Research and Practice by email or 01248 382939.< back to Research > < back to Postgraduate >

19/10/07 Bangor Imaging Unit Opens

A new generation MRI (high field Magnetic Resonance Imaging) scanner, which is the first of its kind to be delivered and installed in the UK, was officially 'opened' on 19th October at Bangor University's School of Psychology. The Scanner, represents an investment in equipment of £1.5m and has seen an investment, to date, of over £2m in the Brain Imaging Unit which houses this and related equipment. The 4.6 ton scanner travelled a 3 day non-stop journey across Europe from the factory in Holland in January (pictures and video clip). Since then the equipment has been installed and staff trained in its use. The new Brain Imaging facility will have a significant impact on cognitive neuroscience in Bangor and across Wales through the Welsh Institute for Cognitive Neuroscience. The equipment will be used for both academic and clinical research. MRI is a very versatile technology, which can give detailed information about the structure and function of almost any type of tissue in the body. Researchers in the School of Psychology use it to study the brain mechanisms involved in perception, cognition, emotion, language and the development of mental abilities. There is also a large research programme into the make-up of the brain and related neurological and psychiatric disorders.

Professor Bob Rafal a lecturer and researcher at the School who holds a joint post with the NHS and is involved with the North Wales Brain Injury Service said; "We hope to use the scanner for research into recovery from brain injury and strokes. It is also our aim that the research should lead to improvements in clinical practice in North Wales, the UK and internationally." The Scanner will be used by other health related researchers in the College of Health and Behavioural Sciences at Bangor University: scientists from the School of Sport, Health, and Exercise Sciences will investigate the effect of exercise and fatigue on human tissue, which has important clinical implications for musculoskeletal disorders. The Unit will enable them to conduct dynamic cardiac imaging, allowing for the investigation of the structure and function of the heart in action. Other researchers are planning to continue investigations into to recent findings that exercise can improve memory function in older people. These are further examples of exciting developments in research that could have real life impact on the health of individuals locally, nationally and internationally. The University has a longstanding collaboration with the local NHS Trusts, and the expansion of the imaging programme testifies to the success of this. It has been possible to attract funding from the Welsh Assembly Government through the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW) for the equipment, and from the Wolfson Foundation for the building work.The Imaging Unit also houses laboratories for brain research with other methodologies (electroencephalography, transcranial magnetic stimulation, patient testing) and has already attracted a number of internationally renowned scientists to Bangor. < back to Research > < back to Postgraduate >

5/10/07 Our brains have our hands licked!

A neuroscientist at Bangor University's leading School of Psychology has established and illustrated for the first time how adept our brains are when it comes to switching between different systems of manipulating objects. When we use both hands to move an object, the brain manages both hands simultaneously, but when two separate objects are to be manipulated- the hands may require different movements and forces-a more complex operation, and the brain switches to a different control system. "What neurophsychologists hadn't previously realised was how adept our brains are at moving between these two different types of systems," explains Dr Jörn Diedrichsen, who's paper on the subject is published in Current Biology Vol 17 Issue 19.

"Psychologists had assumed that switching between using the hands together and apart was quite difficult for our brains to achieve- much as doing two separate actions such as patting your head and rubbing your tummy can seem challenging- but we're actually very adept at moving between these unconscious 'systems'." Dr Jörn Diedrichsen is a member of one of the largest and most prestigious cognitive neuroscience research groups in the UK. Based at the University's School of Psychology, they also contribute to the Wales Institute of Cognitive Neuroscience, a joint collaboration between Bangor, Swansea and Cardiff Universities in the field of cognitive neuroscience research. < back to Research > < back to Postgraduate >

3/9/07 Position of car indicator lights affects safety

People find it harder to make rapid decisions about which way a car will turn if its amber indicator lights are inside the headlights (i.e. nearer the middle of the car) than if the indicator lights are outside the headlights.The indicators on cars are critical safety features that enable pedestrians and other road users to predict where a car is likely to go in the next few seconds. The difference in reaction times is enough to make a significant impact on safety.“Several modern cars position the right indicator to the left of the right headlight and the left indicator to the right of the left headlight, and this study shows that this design feature could reduce their safety,” says Andrew Bayliss, who carried out the research.

The research was carried out using two groups of 15 young adults at the School of Psychology at the Bangor University where Dr Bayliss works. They were shown pictures of the fronts of cars and asked to press a button on the left of the keyboard as quickly as they could if the light on the left of the car flashed, and a button on the right if the right light flashed. The students responded significantly faster to cars where the indicator lights were outside the headlights, than when they were placed inside. Furthermore, Bayliss believes that the effect could be greater for older people or for people in real world situations that have more distractions than the students faced in the trials.< back to Research > < back to Postgraduate >

29/08/07 Ruth Bowden Scholarship Awarded to Bangor Psychology PhD Student

Janet Bultitude a PhD student in Bangors 5*A rated Psychology department has been awarded the Ruth Bowden Scholarship from the British Federation of Women Graduates (BFWG). The scholarship is awarded based on academic merit to a female researcher of the medical sciences who is entering the final year of her PhD. Janet was selected for interview from among 180 applicants and attended the BFWG Headquarters last month to present her research on the rehabilitation of hemispatial neglect using prism adaptation. Her application was supported by her supervisor, Prof. Bob Rafal. The BFWG offer a number of Academic Awards annually to support female postgraduate students of all nationalities and academic disciplines. Prof. Ruth Bowden OBE (1915-2001) was a world-renowned expert on peripheral nerve injuries.< back to Research > < back to Postgraduate >

11/6/07 Bangor comes out tops again!

A survey of the best student rated university towns and cities in the UK according to the facilities and location has Bangor as one of the best places in the country. The Survey asked students to rate their university and location according to the following categories: going out, shops, transport links, community and facilities.Bangor scored the second highest score of 60%, beaten by only eight other locations scoring 62%. Overall, it appears that the north of the UK fares better than the south and south east.“This is not new information to us!” commented Carys Roberts, Head of Student Recruitment. “Bangor University is based in one of the most fantastic parts of the UK and many of our students come here to take advantage of the mountains and sea- where a whole range of outdoor activities offer themselves. Bangor is also a friendly, compact and relatively safe community in which to live and study. These are all ‘pluses’ when added to the excellent teaching that we offer,” added Carys. The survey was carried out by Accommodation for Students website, and included ratings from students from over 70 universities. Also scoring 60% with Bangor were: Southampton, Exeter, Sheffield, Portsmouth, Swansea, Cardiff and Belfast. Scoring 62% were Manchester, Aberdeen, Brighton, Dundee, Edinburgh & Glasgow.< back to Research > < back to Postgraduate >

01/05/07 Wales International Student of the Year 2007

Chinese psychology student Yusi Liu’s inspirational story of student life in Bangor has resulted in her being named the Wales International Student of the Year 2007 in a prestigious British Council competition. Yusi just missed out on the overall title of UK International Student of the Year but was present at the national awards cermony in London at the end of April, where the 12 regional winners were commended for their extraordinary achievements.

The 22 year old psychology student was one of more than 2,000 students, representing 130 nationalities, to enter the 2007 International Student Awards and is thrilled to have won the Wales regional title. She said,

“I was delighted and very excited about winning. It’s not the £1,000 prize money that excites me; it’s winning such a commemorative award. I entered the competition because I have a colourful and enjoyable life in the UK, especially in Wales. I feel Wales is like my second home now.”

The International Student Award doesn’t focus solely on academic achievements; it focuses on extra-curricular achievements and community involvement, celebrating the whole international student ‘experience’. To enter Yusi was asked to write a personal ‘letter home’ in English. Yusi added,

“I wanted to share my story because people here are so friendly and I have made lots of friends both local and international. Since arriving at Bangor, I’ve joined many clubs and societies, done volunteering work, attended various international events, been involved with the Rotary Club and had several part-time jobs. All of these have enriched my life at Bangor.”

Yusi’s letter was judged to be the best and she will receive a £1,000 prize, the letter can be read in full here. You can also watch some short video clips of Yusi talking about her life in Bangor. < back to Research > < back to Postgraduate >

1/02/07 ‘Beyond Boundaries’ - Bangor Research Conference

‘Beyond Boundaries’ brought together research students and local academics from different departments of Bangor University in order to promote an understanding of research across all disciplines within the University. Delegates and participants had the opportunity to network and nurture a multidisciplinary outlook which will enrich their own work in the future. In keeping with this approach, there was no specific subject theme to be addressed by papers. A varied programme of research papers and posters were presented in an innovative and interesting manner that was comprehensible to non-specialists in the field of study. This event provided an opportunity to gain experience in providing poster and oral presentations. During the conference, the Dr John Perkins Prizes for Excellence was awarded to Elizabeth Allen (best oral presentation) and Jacqualyn Eales (best poster presentation). All participants in the conference received a certificate for their involvement.

The Conference had a full programme of 20 oral presentations, 25 poster presentations from research students across the university and a keynote speech from Hywel Williams, historian and Guardian journalist as well as the Mayor of Bangor. ‘Beyond Boundaries’ provided a lively and interesting day for all who attended and reinforced the belief that research has an important place in today’s society.< back to Research > < back to Postgraduate >

1/2/07 Audience Response System

The Audience Response System (ARS) is an electronic voting system similar to that used on the television programme “Who Wants to be a Millionaire” when the contestant wants to “ask the audience”. In the television show, the contestant asks the audience a question, and the members of the audience then enter a response on a personal handset. A computer collates the answers and displays them for the audience to see in an easy to understand format. The ARS is used in the same manner during a lecture. A lecturer can pose a question to the students, and they then enter their responses on a personal handset, with the answers collated and displayed to the class on screen as a graph.

The system is used in conjunction with Powerpoint, with the questions displayed on one slide, and then the answers displayed on the next slide. The responses are almost instantaneous. The system is going to be used with some of the largest lectures at the University to foster interaction between a single lecturer and up to 400 students.< back to Research > < back to Postgraduate >