Rhagoriaeth Academaidd
A wyddoch chi? Cafodd Prifysgol Bangor ei henwi mewn asesiad gan y grŵp cyhoeddi ‘ResearchResearch’ yn un o nifer fach o brifysgolion Prydain sydd â chynnydd ymchwil rhagorol. Cadarnhaodd yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf fod ymchwil gyda’r orau yn y byd yn cael ei gwneud ym Mhrifysgol Bangor.
Sefydlwyd Prifysgol Bangor yn 1884 ac mae’n falch o’i hetifeddiaeth academaidd. Mae gennym safonau uchel mewn ystod eang o bynciau, yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol tuag at ymchwil. Mae buddsoddiad mewn swyddi academaidd newydd a chyfleusterau newydd yn parhau i gryfhau addysgu ac ymchwil ym Mangor.
Mae gennym glystyrau unigryw o ragoriaeth ymchwil lle yr ydym yn manteisio ar adnoddau lleol. Wedi ein lleoli ar lannau’r Fenai rydym ymysg y lleoliadau gorau ym Mhrydain ar gyfer astudio Gwyddorau Eigion ac yn mwynhau’r defnydd o long ymchwil: Prince Madog cyfleuster anghyffredin sydd yn cynnig profiad ymarferol ar y môr i’n myfyrwyr.
Ein Canolfan Dwyieithrwydd (sydd yn cael ei ariannu gan yr ESRC) yw’r ganolfan ymchwil gyntaf ym Mhrydain i ganolbwyntio yn bendant ar ddwyieithrwydd, tra bod gan yr Ysgol Seicoleg sganiwr MRI newydd sydd y cyntaf o’i fath i gael ei anfon a’i osod yng Nghymru.
Ym Mangor, gallwch astudio ystod eang o bynciau o fewn y colegau canlynol;
Canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil 2008
Cefnogaeth myfyrwyr
A wyddoch chi? Mae Prifysgol Bangor ar y brig o ran yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w myfyrwyr yn ôl y Times Higher Education Supplement,
Wrth gymharu â phrifysgolion eraill drwy Brydain, mae gan Fangor un o’r systemau Arweinwyr Cyfoed mwyaf ym Mhrydain. O’r munud y cyrhaeddwch ym Mangor, rhoddir cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sy’n bosibl i chi o ran materion iechyd a lles, yn ogystal â’ch gwaith academaidd. Mae systemau fel y cynllun Arweinwyr Cyfoed a’r system diwtora yn golygu bod myfyriwr arall bob amser wrth law. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel, gan gynnwys tiwtoriaid personol, cwnsela, arweinwyr cyfoed ac ymgynghorydd ariannol i fyfyrwyr.
Er mwyn eich helpu i ymgartrefu yn ystod yr wythnosau cyntaf, mae gan y Brifysgol un o’r cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf drwy Brydain, ac felly mae myfyriwr arall wastad yno am gymorth a chyngor.
Mae’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr wedi’i lleoli ar llawr cyntaf Neuadd Rathbone. mwy
Adnoddau Dysgu
A wyddoch chi? Mae gennym ni dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr, gyda 200 ohonynt ar gael 24 awr y dydd!
Mae gan y Brifysgol ystod eang o adnoddau dysgu nodedig. Mae gennym gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac y mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn. Yn ychwanegol at Brif Lyfrgell y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, lleolir Llyfrgell y Gwyddorau a Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn Adeilad Deiniol.
Mae gennym gasgliadau arbennig yn y Llyfrgell Gymreig, sydd â dewis mawr o lyfrau Cymraeg a llyfrau mewn ieithoedd eraill sy'n berthnasol i Gymru. Mae'r Adran Archifau a Llawysgrifau yn un o'r rhai mwyaf mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 500,000 o lawysgrifau a chof ysgrifau bellach yn yr Adran, yn ogystal â chasgliad helaeth o fapiau llawysgrif a phrintiedig. Y mae'r dogfennau yn cyfeirio yn bennaf at ogledd Cymru. Mae yma hefyd bapurau ysgolheigion Cymraeg fel Syr John Morris-Jones, Syr Ifor Williams a'r Athro Bedwyr Lewis Jones, a llenorion fel Cynan a T.E. Nicholas.
Mae ein catalog cyhoeddus yn un o'r rhai gorau y gallwch ei gael. Trwy ddefnyddio UNIcat gallwch weld beth sydd mewn stoc a gallwch weld peth o'r deunydd trwy gyfrwng y We. Mae Desg Fenthyca ym mhob safle gyda staff cyfeillgar wrth law i wneud yn siwr fod deunydd yn cael ei fenthyg, ei ddychwelyd neu ei gadw yn ddidrafferth.
Mae nifer o ystafelloedd cyfrifiaduron fynediad agored wedi eu lleoli o gwmpas y campws. Erbyn hyn mae’n bosibl cael mynediad i’r rhyngrwyd o’ch ystafell gan ddefnyddio eich cyfrifiadur personol. Mae gan bob ystafell bwynt data.
Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau a chyfarpar arbenigol gan gynnwys, Canolfan Iaith aml-gyfryngol, llong ymchwil £3.7 miliwn ar gyfer ein hadrannau gwyddoniaeth, Amgueddfa Byd Natur a Gerddi Botanegol sy’n cynnwys y labordy ymchwil gwreiddiau mwyaf yn Ewrop.
Lleoliad Rhagorol
A wyddoch chi? Mae Bangor wedi ei enwi yn un o'r lleoliadau gorau i fod yn fyfyriwr ynddo.
Yn ôl arolwg gan y wefan Accommodation for Students mae Bangor yn un o'r llefydd gorau ym Mhrydain i fod yn fyfyriwr oherwydd lleoliad a chyfleusterau'r Brifysgol.
Mae Bangor yn ddinas gadeiriol hynafol sy'n sefyll rhwng Eryri a'r môr. Mewn dinas mor gryno, mae’n ddigon hawdd cerdded i unrhyw le mewn dim o dro. Wedi’i lleoli mewn ardal sydd â llawer iawn o gyfleusterau hamdden, mae Bangor yn ardal ddelfrydol i chi sydd â diddordeb mewn chwaraeon – yn enwedig gweithgareddau awyr agored.
Bangor yw prif ganolfan diwylliant a siopa yr ardal. Mae dwy ganolfan siopa fodern a chymysgedd o siopau cadwyn cenedlaethol a siopau llai. Mae rhagor o siopau, gan gynnwys Morrisons, ym Mangor Uchaf heb fod ymhell o'r rhan fwyaf o'r neuaddau.
Yn ogystal â’r Undeb, mae nifer o gigs Cymraeg yn cael eu cynnal yn y ddinas hefyd. Ar yr ochr glasurol, mae Bangor yn ganolfan fywiog iawn o ran perfformio cerddoriaeth a chynnal cyngherddau. Mae gennym ddwy neuadd gyngerdd ardderchog ac rydym yn hyrwyddo un o’r rhaglenni mwyaf cyffrous ac amrywiol a geir mewn unrhyw Brifysgol ym Mhrydain.
Bywyd Cymdeithasol
A wyddoch chi? Bangor oedd y lleoliad a gafodd ei ddewis ar gyfer Penwythnos Mawr BBC Radio 1 yn 2010 ac fe gafodd aelodau o'r Côr y cyfle i berfformio yn fyw ar y llwyfan gyda Florence and the Machine.
Mae’r undeb yn cynnig dewis eang o glybiau a chymdeithasau sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr. Maent yn cynnwys cymdeithasau crefyddol a rhyngwladol fel Cymdeithas Islamaidd a Chymdeithas Japaneaidd i glybiau hollol wahanol fel y cylchgrawn Cymraeg Y Ddraenen a’r Gymdeithas Gwrw. Mae eich cyfnod yn y Brifysgol yn gyfle gwych i chi drio rhywbeth newydd neu i rannu eich diddordebau â phobl eraill tebyg i chi.
Mae nifer o fandiau Cymraeg a Saesneg wedi chwarae ym Mangor. Ymhlith yr artistiaid Cymraeg mae Gennod Droog, Bryn Fon, Guy Toms, Yr Ods, Derwyddon wedi perfformio ynghyd ag artistiaid fel Athlete, The Pigeon Detectives ac We are Scientists.
Bydd UMCB yn trefnu llu o ddigwyddiadau a nosweithiau allan er mwyn diddannu myfyrwyr Cymraeg Bangor yn cynnwys nosweithiau gwisg ffansi, tripiau i wylio gemau Rybi a Phêl droed.
Mae nifer o'n hadeiladau a neuaddau myfyrwyr yn agos at ganol y ddinas lle cewch y Stryd Fawr hiraf yng Nghymru, dwy ganolfan siopa a chymysgedd dda o siopau mawr cenedlaethol a busnesau lleol llai. Mae llawer o dai bwyta arbenigol i'w cael hefyd gan gynnwys rhai Indiaidd, rhai Eidalaidd a rhai ar gyfer llysieuwyr. Mae yma lawer o gaffis a thafarndai.
Mae gennym orsaf drenau a gorsaf fysiau ar gyfer teithiau hir i’r De neu ar gyfer teithio’n lleol. Mwy
Gyrfaoedd a Chyfleoedd
A wyddoch chi? Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cael ei chydnabod yn genedlaethol fel un o’r gwasanaethau gyrfaoedd mwyaf gweithgar yn y DU
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig llu o adnoddau, cyngor ymarferol a chefnogaeth i'ch helpu i gyrraedd eich uchelgais ar ôl graddio. Pa bynnag syniadau sydd gennych, mae ein tîm o gynghorwyr arbenigol â chymwysterau proffesiynol yma i'ch helpu i wireddu eich breuddwydion. O'r munud cyntaf y dowch i Fangor byddwn yma i'ch cynghori a rhoi i chi wybodaeth ymarferol am brofiad gwaith, swyddi gwyliau, gwaith yn ystod y tymor ac, wrth gwrs, eich helpu i weld beth fyddwch yn ei wneud ar ôl graddio. Oherwydd ein bod ni am i chi gyflawni eich gôl, byddwn yn dal i'ch cefnogi am 3 blynedd ar ôl i chi raddio.
Mae’r Ganolfan hefyd yn ymroddedig i’ch helpu i fod yn fentrus os ydych chi am weithio ar liwt eich hun, bod yn hunangyflogedig, neu fod mewn gwaith cyson. mwy
Llety
A wyddoch chi? Neuadd John Morris Jones yw dewis gartref y mwyafrif o fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor a rhai sy’n dysgu’r iaith.
Agorwyd neuaddau preswyl newydd sbon danlli ar safle'r ffriddoedd ym mis Medi 2008 a mis Medi 2009.
Rydyn ni’n ffodus ein bod ni’n gallu sicrhau ystafell mewn Neuaddau Preswyl i holl israddedigion y flwyddyn gyntaf. Mae dros 2,300 o ystafelloedd ar gael sy’n cynnwys rhyw 1,450 o ystafelloedd en-suite, a’r cyfan o fewn pellter cerdded i’r Brifysgol. mwy
Mae costau byw ym Mangor yn is nac yn nifer o ardaloedd eraill ym Mhrydain ac mae prisiau'r neuaddau preswyl yn adlewyrchu hyn. Mae'r pris hefyd yn cynnwys eich biliau megis gwres, trydan a dŵr poeth.
Costau byw isel
A wyddoch chi? Yn ôl yr ‘A-Z of Universities and Higher Education Colleges’ papur newydd yr ‘Independent’, Bangor yw un o’r “llefydd rhataf ym Mhrydain” ar gyfer myfyrwyr.
Cewch werth eich arian ym Mangor! Mae byw yma yn rhad o gymharu â chostau byw mewn nifer o ddinasoedd a threfi prifysgol eraill. Yn ôl yr ‘A-Z of Universities and Higher Education Colleges’ papur newydd yr ‘Independent’, Bangor yw un o’r “llefydd rhataf ym Mhrydain” ar gyfer myfyrwyr. Cafodd Bangor hefyd ei enwi y 4ydd lleoliad mwyaf cost effeithiol gan 'The Independant' yn y Student Living Index Guide for 2008
Yn y Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr, mae Biwro Cyflogaeth yn cynnig help i ddod o hyd i waith rhan-amser neu yn ystod y gwyliau ac mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael i fyfyrwyr. Darllenwch ein tudalennau ar Gyllid Israddedigion am fanylion pellach.
Bywyd Cymraeg
A wyddoch chi? Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nac mewn unrhyw brifysgol arall yng Nghymru
Mae'r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwr ym Mangor. Gall myfyrwyr Cymraeg eu hiaith gymdeithasu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â manteisio ar y cyfle i gyfarfod â phobl o gefndiroedd gwahanol a phobl o wledydd eraill.
Mae Bangor yn cynnig cyfleoedd gwych i'r myfyriwr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg gan ei bod yn cynnig mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nac unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru. Gellwch wneud y cyfan o’ch gradd neu ran ohoni drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl adran, tra bo modiwlau unigol cyfrwng Cymraeg i’w cael mewn ysgolion eraill.
Fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg, bydd Bangor yn cyflwyno bwrsariaethau newydd i gynorthwyo’r rheini sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs, neu’r cwrs cyfan, trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o fanylion ewch i'n tudalennau cyllid.
O'r funud yr ydych yn cyrraedd y Brifysgol mae UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yn sicrhau fod pob myfyriwr Cymraeg yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a'r cyfleusterau sydd ar gael.
Mae UMCB yn bodoli i hybu a diogelu buddiannau'r Cymry ym Mangor, ac mae’r aelodau ym medru manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael yn Adeilad yr Undeb ar waelod Allt Glanrafon, tra’u bod hefyd yn mwynhau sylw personol a gofalus eu hundeb eu hunain dan arweiniad y Llywydd Sabothol.
Lleoliad gwych ar gyfer chwaraeon
A wyddoch chi? Rydym ni’n cefnogi myfyrwyr â dawn arbennig mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer unrhyw radd
Mae Bangor wedi’i lleoli mewn ardal sydd â llawer iawn o gyfleusterau hamdden. Mae’n ardal ddelfrydol i chi sydd â diddordeb mewn chwaraeon – yn enwedig gweithgareddau awyr agored a chwaraeon i dimau fel rygbi, hoci a phêl-droed.
Os ydych chi eisoes â diddordeb brwd mewn gweithgareddau awyr agored fe fyddwch chi’n hapus eich byd gyda’r dewis eang o gyfleoedd ar stepen drws y Brifysgol.
Maes Glas yw Canolfan Chwaraeon y Brifysgol. Yn ddiweddar cafodd ei hymestyn a'i diweddaru â grant Loteri Cenedlaethol ac mae yno ddwy brif neuadd chwaraeon, tair ystafell â chyfarpar llawn ar gyfer ymarfer cardiofasgwlaidd ac ymarfer pwysau, campfa, wal ddringo gyda dau esgyniad o anhawster gwahanol a wal glogwyn, yn ogystal â phedwar cwrt sboncen.
Yn yr awyr agored mae gennym gaeau gwellt ar gyfer pêl-droed a rygbi, cae gwellt synthetig newydd ar gyfer hoci a hyfforddi a thrac athletau modern a chyfleuster chwaraeon maes a rennir â Chyngor Sir Gwynedd. mwy