Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru.
Mae Bangor yn cynnig cyfleoedd gwych i’r myfyriwr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau a datblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i’n myfyrwyr.
Gradd yn y Gymraeg
Gellwch wneud y cyfan o’ch gradd, neu ran ohoni drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl ysgol academaidd. Mae modiwlau unigol cyfrwng Cymraeg hefyd ar gael mewn ysgolion eraill.

Pam astudio drwy’r Gymraeg?
- Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi
- Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweinyddu’n ddwyieithog
- Mae cyflogau swyddi dwyieithog ar gyfartaledd uwch
- Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa