As part of her PhD, Rhiannon Heledd Williams is currently researching America's periodic press under the supervision of Dr Jerry Hunter from the School of Welsh at Bangor. She is currently spending a semester at Harvard University as part of her studies.
‘Fy Antur Fawr yn Harvard!’ gan Rhiannon Heledd Williams
Ychydig a feddyliais ar ddechrau fy noethuriaeth y byddwn yn treulio cyfnod yn yr Unol Daleithiau yn astudio ym Mhrifysgol nodedig Harvard. Trwy’r cynllun cyfnewid rhwng Prifysgol Bangor a Harvard, cefais y cyfle i ddod yma i ddinas Cambridge ger Boston ar yr arfordir dwyreiniol, er mwyn datblygu fy ngwaith ymchwil am gyfnod o bedwar mis. Neidiais ar y cyfle oherwydd roeddwn wedi clywed llawer am y brifysgol ac wedi gweld yr enw mewn sawl ffilm! Erbyn hyn, rydw i yma ers mis, ac mae amser wedi hedfan – mae’n fyd gwahanol iawn, ac mae’n brofiad anghygoel.
Dechreuais fy ymchwil PhD flwyddyn a hanner yn ôl, gan edrych ar y wasg Gymreig yn America yn y 19eg ganrif, a hynny dan gyfarwyddyd Dr Jerry Hunter. Ar hyn o bryd, mae’r maes ymchwil yn ddiffeithwch bron, ac felly roedd angen dybryd i gryfhau ymwybyddiaeth am y wasg doreithiog a wasanaethai’r Cymry yr ochr arall i’r Iwerydd yn y cyfnod dan sylw. Fy mhrif ffynhonnell yw cylchgrawn enwadol y Methodistiaid Calfinaidd, Y Cyfaill o’r Hen Wlad, a syndod yw nad oes neb wedi gweithio’n fanwl ar ei gynnwys er iddo ffynnu am bron i ganrif, rhwng 1838-1933. Rwyf hefyd yn edrych ar y cylchgronau cyfnodol eraill fel cyd-destun, megis Y Seren Orllewinol (papur y Bedyddwyr), Y Cenhadwr Americanaidd (papur yr Annibynwyr), a phapur wythnosol Y Drych sy’n ymddangos heddiw o dan y teitl Ninnau. Yn ystod blwyddyn gyntaf fy ymchwil, bûm yn pori drwy dudalennau’r Cyfaill yn yr archifdy ym Mangor, a hefyd yn darllen deunydd cefndirol am y Cymry a fudodd i America ac am lenyddiaeth Cymru yn oes Fictoria, er mwyn cymharu’r ddau ddiwylliant. Yn wir, gwelais lawer o debygrwydd rhwng dulliau’r Cymry tramor a Chymry’r henwlad o fynegi eu hunaniaeth genedlaethol, a phwysigrwydd y wasg a llenyddiaeth fel offeryn i gryfhau’r ymdeimlad o Gymreictod.
Serch hynny, rhaid bwrw golwg ehangach ar ddiwylliant y Cymry yn America, oherwydd y ddeuoliaeth ryfedd o fyw fel cenedl Gymreig mewn gwlad gydag arferion gwahanol iawn i Gymru. Ym Mhrifysgol Harvard, medraf edrych ar y cyd-destun Americanaidd yn fanylach, gan sylwi ar lenyddiaeth a hanes y cyfnod, er mwyn fy ngalluogi i ddeall cymhlethdod y Cymry o ddal gafael ar eu hunaniaeth Gymreig, tra oeddent hefyd yn cymathu â’r ffordd Americanaidd o fyw. Wrth edrych yn fanylach ar ddigwyddiadau ac arferion Americanaidd yn y cyfnod yn y casgliad enfawr o lyfrau sydd ar gael yma, medraf asesu i ba raddau yr oedd y Cymry yn glynu at yr hen draddodiadau neu’n mabwysiadu arferion eu gwlad newydd, a chymharu’r ddwy wedd hon ymhellach gyda Chymry’r henwlad yn y cyfnod, gan amlinellu’r gwahaniaeth rhwng hunaniaeth y ddwy genedl Gymreig a’r cysylltiad rhwng eu diwylliant ‘trawsatlantig’.
Rhyfeddod oedd mynd i lyfrgell y Widener am y tro cyntaf, a gweld amryw lyfrau a chylchgronau Cymraeg, gan wybod fy mod dair mil a hanner o filltiroedd i ffwrdd o dir Cymru! Gwelais stôr o gyfnodolion Cymraeg diweddar, o Taliesin i Barddas, a nifer o lyfrau am y traddodiad rhyddiaith Cymraeg yn y ‘stacks’ o dan ddaear! Roeddwn wedi gwirioni gyda’r casgliad cyflawn o gyfnodolion Cymraeg, a oedd yn cynnwys nifer o gylchgronau prin o’r cyfnod yr wyf yn ymddiddori ynddo, a’r casgliad fel drych i’r wasg yng Nghymru ac America gan iddo gyfuno deunydd o’r ddwy wlad. Fel arfer, byddaf yn gweithio yn llyfrgell yr Adran Geltaidd – ystafell Robinson ar y llawr uchaf, ac yno hefyd mae casgliad eang o lyfrau yn cwmpasu’r traddodiad llenyddol Celtaidd. Bûm hefyd yn llyfrgell Houghton, cartref y llyfrau prin sydd fel ymgorfforiad o’r Llyfrgell Genedlaethol yng Nghymru, ac yno gwelais restr hirfaith o lyfrau prin Cymreig yn dyddio o’r bymthegfed ganrif hyd at yr ugeinfed. Byddwn yma am flynyddoedd petawn yn mentro ceisio mynd drwy bopeth, a’r unig beth a’m digalonmai oedd meddwl sut yn y byd y medrwn i gywasgu popeth i bedwar mis!
Yn ogystal â’r cyfleoedd ymchwil sydd yma o ran deunydd darllen, rwyf hefyd yn mynychu cyrsiau amrywiol – braf yw gwrando ar ddarlithoedd heb orfod ysgrifennu’r traethodau sydd ynghlwm â’r modiwlau! Mae’r modiwl ar lenyddiaeth Affricanaidd-Americanaidd yn hynod ddiddorol ac yn fy ngalluogi i gymharu profiadau lleiafrifol y garfan â’r Cymry a dadansoddi deunydd ar gaethwasiaeth, tra mae’r modiwl Hanes ar ymfudo yn taflu goleuni ar y cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd yn y cyfnod yr oedd y Cymry’n ymsefydlu mewn gwlad newydd, ynghyd ag edrych ar resymau dros ymfudo. Mae’r adran Saesneg hefyd yn cynnig dau fodiwl arall sydd o ddiddordeb i mi o ran barddoniaeth y 19eg ganrif, gan edrych ar feirdd Americanaidd y cyfnod a beirdd sydd wedi ymfudo i America ac sydd felly’n croesi ffiniau o ran eu diwylliant, iaith a hunaniaeth. Mae un o’r darlithwyr yn ymddiddori mewn cylchgronau Saesneg yn y cyfnod, ac mae hi’n dod ag un o’i chasgliad i’w ddangos i mi yn y ddarlith bob wythnos! Nid yw’n rhy annhebyg i’r cylchgronau Cymreig yn y cyfnod, sy’n awgrymu bod dylanwadau’r traddodiad Americanaidd yn drwm ar y Cymry mewn sawl ffordd.
Er mai’r cyfnod canoloesol yw prif faes ymchwil yr Adran Geltaidd yn Harvard, byddaf yn mynd i Warren House yn aml ar gyfer gwahanol weithgareddau. O ran diddordeb, byddaf yn mynychu gwersi yno ar sut i ddarllen Cymraeg canoloesol yng nghroniclau Elis Gruffydd gan yr Athro Pat Ford. Mae hefyd yn gyfle da i gyfarfod y rhai sy’n dysgu Cymraeg yno, ac mae sawl un â gafael dda ar y Gymraeg – braf yw cael sgwrs yn fy iaith gyntaf weithiau gan mai drwy gyfrwng e-bost rwy’nn cysylltu â phawb yng Nghymru! Mae’r adran yn glos a chyfeillgar fel un Bangor, ac mae’r awyrgylch i weithio yma yn braf iawn. Mae pawb yn gweithio’n galed ac yn gorfod dysgu mwy nag un iaith fel rhan o’u Doethuriaeth, sy’n ehangu gorwelion. Cyfarfyddais ag un oedd yn dysgu Almaeneg, Lladin a Groeg yn ogystal â’r ieithoedd Celtaidd! Prawf o’r cymhelliad i weithio’n galed yw fod un o’r llyfrgelloedd ar agor bob awr o’r dydd, ac mae rhai’n cysgu yno ar y soffas! Dydw i ddim wedi gweithio mor galed â hynny eto!
Mae Prifysgol Harvard yn agoriad llygad o ran ymchwil a hefyd o ran gweithgareddau ychwanegol. Mae’r seminarau a gynhelir gan yr Adran Geltaidd yn wych er mwyn dysgu am ddiwylliant ac i
eithoedd ein brodyr a’n chwiorydd Celtaidd. Ddydd Gwener diwethaf cafwyd cyflwyniad a thrafodaeth fywiog ar hiwmor a haelioni ym marddoniaeth gynnar Iwerddon, ac mae’r nesaf yn trafod beirdd benywaidd Cymreig-Americanaidd y 19eg ganrif, sy’n hynod berthnasol i mi. Rwyf hefyd wedi dechrau dysgu Llydaweg, ac wedi synnu pa mor debyg yw’r iaith i’r Gymraeg fel ei chwaer Geltaidd! Mae myfyrwraig ymchwil o Lydaw yn mynd i’r gwersi Cymraeg, a minnau’n mynd i’r gwersi Llydaweg er mwyn tegwch! Braf oedd cyfarfod Aled Llion pan gyrhaeddais yma, myfyriwr o Gymru sy’n astudio Doethuriaeth yn yr Adran Geltaidd, a chanddo ef rydw i’n cael hen rifynnau o gylchgrawn Golwg a phapur Y Cymro’er mwyn cadw cysylltiad â Chymru! Bûm hefyd yn ei gynorthwyo yn ei wersi Cymraeg – yn y dosbarth arferol i fyfyrwyr yr adran, ble roeddem yn gwrando ar ddarn o Pawb a’i Farn ac yn sgwrsio; ac yn ei wersi gyda’r nos i bobl eraill, sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl o bob cefndir ac oedran. Cefais fy synnu gan yr awydd i ddysgu Cymraeg yn eu plith, a’r rhan fwyaf heb unrhyw waed Cymreig, ond wedi eu swyno gan adnoddau’r iaith. Cyfarfyddais ag un dyn oedd â gwreiddiau yng Nghymru, ac yn gyfarwydd iawn â Phorthmadog!
Mae’r Gymdeithas Gymreig yn cyfarfod bob wythnos, ac er mai bychan ydynt o ran nifer – maent yn parhau’n driw i’r Gymraeg ac yn falch o’r cyfle am sgwrs – mae un yn ymddiddori yn hanes Cymry America, ac felly’n cyfrannu at fy ymchwil yma mewn ffordd mwy anffurfiol. Braf cael cyflawni ymchwil heb lyfrau weithiau! Yr hyn sy’n creu awyrgylch braf i weithio yma yw pensaernïaeth adeiladau’r coleg, yn llawn o gymeriad hynafol, a’u harddwch yn cyrraedd pinacl yn yr eira trwm a gawsom ers cyrraedd yma.
Roedd hefyd yn ddiddorol treulio Dydd Gŵyl Dewi dramor eleni, ac roedd digon o ddathliadau yma i nodi’r achlysur – mwy na Chymru efallai! Cynhaliwyd cyngerdd Tom Jones yn Boston nos Sul, a neidiodd criw i’r môr yn enw Dewi Sant brynhawn Sul, a hithau’n bwrw eira’n drwm a’r tymheredd saith gradd o dan y rhewbwynt!
Fodd bynnag, er fy mod yn cael agoriad llygad yma, rwy’n siwr y byddaf yn falch o gael dychwelyd i Fangor ym mis Mehefin, a chael sgwrs yn y Gymraeg unrhyw adeg o’r dydd!