UWB Crest

Archifau

Newyddion

llawysgrif o Hanes Ynys Môn, Dodsley a gyhoeddwyd yn 1775 (Llgr Bangor 7366).

Canrif ar y Bryn

01/07/11

I ddathlu can mlwyddiant agoriad sywddogol adeiladu’r Coleg ym 1911 mae’r Archifdy a’r Casgliadau Arbennig wedi trefnu arddangosfa newydd.

Wedi’i lleoli yng nghoridor yr Is-Ganghellor ac ar agor i bawb, rydym wedi dewis a dethol dogfennau sy’n adlewyrchu’r digwyddiadau a arweiniodd at adeiladu’r Coleg ar y bryn – yr ymweliadau brenhinol, cystadleuaeth y penseiri a’r penderfyniad dadleuol i doi’r adeilad gyda llechi o Sir Benfro.

Bydd yr Arddangosfa ar agor o’r 2il o Orffennaf 2011.

Arddangosfa 02/06/11

Mae detholiad o Feiblau'r Llyfrgell ac Archifau yn cael eu harddangos yng nghoridor yr Is-ganghellor ar hyn o bryd. Mae croeso i bawb fynd i'w gweld.

Hefyd, dros yr Haf cynhelir arddangosfa am adeiladu'r Brifysgol. Bydd cynlluniau gwreiddiol Henry Hare y pensaer i'w gweld, yn ogystal a phapurau yn ymwneud a'r dewis o ddeunyddiau ar gyfer yr adeilad - carreg dywod o Riwabon a llechi o Breseli yn hytrach na'r garreg galch a'r llechen las leol.

SYR IFOR WILLIAMS

5 Gorffennaf 2008 – 29 Awst 2008

Arddangosfa yn dilyn bywyd a gwaith y gwr o Dregarth a ddaeth yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Prif ddiddordeb Ifor Williams (1881-1965) oedd barddoniaeth Gymraeg gynnar – mae ei gyhoeddiadau yn adlewyrchu hyn. Ond, gwnaeth ymdrech fawr i beidio ag ymbellhau oddi wrth y Cymro cyffredin a chyfyngu ei hun i’r bywyd academaidd. Yn hytrach, teithiodd ledled Prydain i ddarlithio i gymdethasau lleol, a chlywid ei lais ar y radio yn rheolaidd, yn sgwrsio am bethau a apeliai at bawb. Roedd yn awdurdod ar enwau lleoedd ac roedd ganddo ddiddordeb mewn geiriau a arferid eu defnyddio ar lafar gwlad.

Gogoniant y gorffennol

Derbyniodd Archifdy'r Brifysgol rodd hael yn ddiweddar tuag at y gwaith o atgyweirio dogfen. T.P.T. Williams wnaeth y cyfraniad, hanesydd lleol a chyn-aelod o Wasanaethau Gwybodaeth. Y ddogfen o dan sylw yw fersiwn llawysgrif o Hanes Ynys Môn, Dodsley a gyhoeddwyd yn 1775 (Llgr Bangor 7366). Roedd y cloriau ar y gyfrol rwymedig hon wedi dod yn rhydd a rhan o'r gwaith atgyweirio oedd eu clymu'n ôl. Hefyd, roedd rhaid twtio rhai tudalennau a thynnu'r tâp gludiog, drwy sicrhau fod y gwneuthuriad a'e elfennau gwreiddiol o'r ddogfen yn cael eu cadw. Ceir mwy o wybodaeth am y ddogfen o erthygl T.P.T. Williams yn Nhrafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 2006 "The "Dodsley" History of Anglesey re-visited" Os y buasech chi'n hoffi gwneud cyfraniad tuag at wella cyflwyr cadwriaethol dogfen yng nghofal Archifdy'r Brifysgol, cysylltwch â'r Archifydd ar (01248) 382966 neu e.w.thomas@bangor.ac.uk