Meddygaeth
Noder os gwelwch yn dda bod Meddygaeth yn llawn ar gyfer Medi 2025 ac felly ddim ar gael trwy Clirio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â’n rhestr aros. Sicrhewch eich bod yn gwirio'r gofynion mynediad a'ch bod yn cynnwys pob cymhwyster perthnasol ar y ffurflen (yn cynnwys graddau dros dro os ydych yn disgwyl am ganlyniadau). Os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai ar y rhestr ar ôl i ganlyniadau Lefel-A gael eu rhyddhau i drafod yr opsiynau fydd ar gael drwy Clirio.
Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion)
Noder os gwelwch yn dda bod Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion) yn llawn ar gyfer Medi 2025 ac felly ddim ar gael trwy Clirio. Fodd bynnag, gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno â’n rhestr aros. Sicrhewch eich bod yn gwirio'r gofynion mynediad a'ch bod yn cynnwys pob cymhwyster perthnasol ar y ffurflen (yn cynnwys TGAU, Lefel A a gradd). Nodwch hefyd os ydych yn disgwyl am unrhyw ganlyniadau a rhowch eich canlyniadau dros dro. Os bydd unrhyw leoedd yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhai ar y rhestr ar ôl 14 Awst i drafod yr opsiynau fydd ar gael drwy Clirio.
Fferylliaeth
Mae lleoedd Fferylliaeth ar gael drwy'r system Glirio. Cofrestrwch eich diddordeb, a byddwn yn cysylltu â'r rhai ar y rhestr yn syth ar ôl Diwrnod Canlyniadau Lefel-A i drafod cyfleoedd Clirio posibl.
Gwylio - Profiad Dafydd o'r Drefn Clirio
Pwy All Wneud Cais Drwy Clirio ym Mhrifysgol Bangor?
- Ymgeiswyr heb gynigion cyfredol: Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais israddedig UCAS ac nad oes ganddynt unrhyw gynigion ar hyn o bryd gan brifysgol wneud cais i Brifysgol Bangor drwy Clirio.
- Ymgeiswyr hwyr: Gall unigolion sydd heb wneud unrhyw geisiadau i brifysgol ar gyfer mis Medi eleni wneud cais i Brifysgol Bangor yn uniongyrchol drwy Clirio.
Pam Gwneud Cais i Brifysgol Bangor Drwy Clirio?
Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol Bangor drwy Clirio am sawl rheswm:
- Os ar ddiwrnod y canlyniadau na wnaethoch chi gyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer eich dewis cadarn neu yswiriant, gallai Clirio ym Mhrifysgol Bangor gynnig eich cyfle nesaf.
- Hyd yn oed os gwnaethoch chi fodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad dyma'r llwybr cywir i chi, gallwch 'ryddhau eich hun i Clirio' drwy UCAS ac archwilio'r opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
- Os nad ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto ar gyfer mis Medi eleni, mae Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig llwybr i ddechrau eich astudiaethau yr hydref hwn.
- Gall myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg neu'r rheiny sy'n newid gyrfa ganfod bod Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn ffordd effeithlon o gyflawni cwrs academaidd mewn amgylchedd cefnogol.
- Os yw amgylchiadau annisgwyl wedi arwain at ystyried mynd i'r brifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio, gall Clirio ym Mhrifysgol Bangor gynnig llwybr i addysg uwch.
Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Clirio Nawr
Pam dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

5 Awgrym Da Clirio
Os yn bosibl, peidiwch â bod ar wyliau nac yn y gwaith, cadwch y diwrnod yn rhydd i gysylltu â phrifysgolion. Mae angen i chi fod ar gael i siarad â thiwtoriaid derbyniadau a gwneud penderfyniadau eich hun – ni all eich rhieni, athrawon a ffrindiau wneud hynny ar eich rhan. Os oes rhaid i chi weithio'r diwrnod hwnnw neu os ydych i ffwrdd yn teithio neu ar wyliau, mae'n werth rhoi awdurdod i riant/gwarcheidwad weld manylion eich cais UCAS fel y gallant siarad ar eich rhan.
Efallai nad ydych wedi cael y graddau neu’r sgôr pwyntiau sydd eu hangen arnoch, ond efallai y bydd y brifysgol sydd gennych fel dewis cadarn neu fel dewis wrth gefn yn penderfynu eich derbyn ar y cwrs. Cysylltwch â nhw gyntaf a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhaid i chi ddefnyddio’r drefn Glirio. Os ydynt yn penderfynu peidio â’ch derbyn, neu os nad oes gennych gynigion gan unrhyw sefydliad, rydych yn gymwys i wneud cais am le drwy’r system Glirio. Mae ymgeiswyr sy'n gwneud ceisiadau ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y system glirio ac maent hwythau hefyd yn gymwys.
Byddwch yn gwybod eich bod yn y drefn Clirio os ydi eich cais UCAS yn dweud ‘you are in Clearing’ neu ‘Clearing has started’. Os ydych yn y drefn Clirio, rhaid i chi gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i holi am y lleoedd sydd ar gael ar eu cyrsiau ac i weld a ydych yn bodloni eu gofynion.
Yn ystod y cyfnod Clirio, gall y llinellau ffôn fod yn brysur, ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gael eich trosglwyddo i'r adran berthnasol, efallai y gofynnir i chi ffonio'n ôl yn nes ymlaen, neu efallai y bydd y brifysgol yn eich ffonio chi'n ôl. Peidiwch â phoeni, mae Clirio yn para am lawer mwy nag un diwrnod felly mae gennych amser i benderfynu a dod o hyd i gwrs.
Sicrhewch fod eich rhif cais UCAS, eich rhif Clirio, y codau cwrs, eich canlyniadau Lefel A a’r canlyniadau TGAU perthnasol wrth law gan y bydd y staff ar y Llinell Gymorth yn gofyn amdanynt. Bydd angen eich manylion cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost arnom hefyd er mwyn anfon eich cynnig Clirio atoch yn ysgrifenedig.
Yn union fel y gwnaethoch gyda'ch dewisiadau gwreiddiol, ystyriwch, er enghraifft, gynnwys a strwythur y cwrs, cyfleusterau academaidd, bywyd cymdeithasol, pellter o gartref, cyfleusterau chwaraeon a chostau byw. Efallai y byddwch yn falch o gael cynnig cwrs arall, ond mae angen o hyd i chi ddewis y cwrs iawn yn y brifysgol iawn i chi.
Nid oes yn rhaid i chi fynd am yr un pwnc ag y gwnaethoch gais amdano yn wreiddiol, ond os byddwch yn mynd am rywbeth gwahanol, efallai y bydd y brifysgol yn dal i ddisgwyl i chi fod wedi gwneud pynciau Lefel A penodol. Os yw'r cwrs o’ch dewis yn llawn, edrychwch ar ddewisiadau eraill cysylltiedig, er enghraifft, ar gyfer Meddygaeth, ystyriwch Wyddorau Meddygol neu Wyddorau Biofeddygol.
Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig Clirio cyntaf a gewch. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn hapus i chi gymryd amser i wneud yn siŵr bod y cwrs a'r brifysgol yn addas i chi.
Ewch i ymweld â’r Brifysgol rydych yn bwriadu ei mynychu
Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion, fel Prifysgol Bangor, yn trefnu Dyddiau Agored a digwyddiadau ar gyfer ymgeiswyr Clirio y dylech fynd er mwyn i chi allu edrych o gwmpas y brifysgol a'r ardal, casglu mwy o wybodaeth am y cwrs, siarad â staff a myfyrwyr a phenderfynu a fyddech chi'n hapus yn astudio yn y sefydliad hwnnw.