Myfyrwyr yn cynnal astudiaeth

Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Pam Astudio Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd?

Rydym yn adran hygyrch a chyfeillgar gyda staff sydd wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel a chefnogaeth academaidd (a phersonol) gref drwy gydol astudiaethau ein myfyrwyr

Mae ein staff yn ymddiddori mewn trosglwyddo eu harbenigedd a'u gwybodaeth bwnc ac mae ein hymchwil yn sail wybodaeth i’n darpariaeth addysgu, gyda'n myfyrwyr yn elwa o ymholiadau a datblygiadau academaidd arloesol.

Mae gennym gyfleusterau ymchwil, labordai ac offer o'r radd flaenaf sy'n cynnwys recordio a phrosesu sain, olrhain llygaid, potensial digwyddiad-berthynol, technoleg iaith a pheiriannau a/neu adnoddau cyfrifiadurol perfformiad uchel. 

Rydym yn cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth bersonol gyda’r traethawd hir ar amrywiaeth eang o bynciau ieithyddiaeth gan ddefnyddio fframweithiau methodolegol cymhwysol, damcaniaethol, arbrofol, seiliedig ar gorpws neu ethnograffig.

Mae amgylchedd ymchwil bywiog hefyd yn amlwg trwy’r gwahanol ddigwyddiadau cyhoeddus a gweithdai a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.

00:00.00 - 00:06.00
Fy enw i ydi Elham Taheri,

00:06.00 - 00:11.00
Yn gyntaf oll, mi wnes i fwynhau cael fy nysgu gan athrawon proffesiynol iawn.

00:11.00 - 00:18.00
Wrth gwrs, rydw i wedi astudio Saesneg yn y gorffennol, ond y tro yma roedd yn fwy proffesiynol ac roeddwn wrth fy modd efo hynny.

00:18.00 - 0:00:22.00
Mae'n lle clos a chyfeillgar.

00:22.00 - 0:00:28.00
Ac roedd y cwrs, oherwydd bod ganddo rannau damcaniaethol a rhan ymarferol, yn help mawr i mi.

00:28.00 - 0:00:37.00
Rydw i wedi dysgu llawer, nid yn unig yn y dosbarthiadau ond hefyd yn y sesiynau ymarferol, a defnyddio'r damcaniaethau oedd yn cael eu defnyddio yn fy nosbarthiadau.

00:37.00 - 0:00:42.00
Ac fel y dywedais, oherwydd yr athrawon proffesiynol sydd yma, rydw i wedi dysgu llawer

00:42.00 - 0:00:55.00
Ar hyn o bryd, yn union. Ar ôl i mi orffen fy nghwrs yma, symudais i Lundain ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd mewn coleg yn Llundain.

00:55.00 - 0:00:57.00
Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai mor hawdd â hynny, ond yn ddigon ffodus oherwydd fy mod yn graddio o Brifysgol Bangor,
 

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Mae ein cyrsiau'n cynnig amrywiaeth o brofiadau a byddent yn apelio at unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa sy'n cynnwys datblygu y natur a’r defnydd o iaith neu ieithoedd yn y gymdeithas fodern.

Bydd MA mewn Ieithyddiaeth yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae iaith yn gweithio a'r gallu i wneud ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad ieithyddol. Mae myfyrwyr hefyd yn ennill sgiliau deallusol allweddol megis archwilio a gwerthuso damcaniaethau a modelau a rhagdybiaethau empirig sydd hefyd wedi'u cyfuno ag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy - megis llythrennedd cyfrifiadurol, gweithio gyda data, adalw gwybodaeth, dadansoddi beirniadol a datrys problemau. Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i gael cyfleoedd gyrfa mewn cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi, marchnata ac ymchwil. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn ystod o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Ieithyddiaeth yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Ieithyddiaeth, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Ieithyddiaeth

Bydd ein MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut i addysgu Saesneg fel iaith dramor at ddibenion proffesiynol amrywiol ar draws y byd. Yn ogystal â chael profiad yn yr ystafell ddosbarth byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf ynghyd â'r gallu i fabwysiadu/defnyddio gwahanol strategaethau ar gyfer cyfathrebu a chyflwyno yn Saesneg mewn amrywiaeth o gyd-destunau amlieithog a rhyngwladol. Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu ffurfiol, mae'n rhoi'r cefndir damcaniaethol a chefndir mewn ieithyddiaeth sydd ei angen ar fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i addysgu Saesneg i siaradwyr nad ydynt yn siaradwyr brodorol yn ogystal â chynnig profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyfleoedd yn bodoli i ddysgu mewn gwledydd ar draws y byd, e.e. mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion iaith preifat. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor yn llwyddiannus, gallwch benderfynu dilyn gyrfa academaidd a gwneud cais i astudio am PhD.

Mae ein MSc mewn Technolegau Iaith yn datblygu sgiliau a gwybodaeth y mae cyflogwyr eu hangen mewn nifer o feysydd sy'n ymwneud â maes technolegau iaith, yn enwedig meysydd megis prosesu iaith naturiol, cyfieithu peirianyddol, trosi testun-i-leferydd. Byddwch hefyd yn gweld eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i feysydd gyrfa gwahanol neu i barhau â'ch astudiaethau ar lefel PhD mewn technolegau iaith neu faes cysylltiedig.

Bydd graddedigion o’r cwrs hwn yn apelio at gyflogwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd sy'n ymwneud â maes ehangach ieithyddiaeth (e.e. addysg, rheolaeth, llywodraeth, ymchwil, iechyd) yn enwedig lle mae angen dealltwriaeth o iaith a’r rhyngweithio rhwng pobl a pheiriannau. Efallai bydd eraill eisiau dilyn gyrfaoedd lle mae dealltwriaeth o broblemau iaith yn berthnasol (e.e. cyfieithu, datblygu meddalwedd, cryptograffeg, cynllunio ieithyddol). I'r perwyl hwnnw, efallai y bydd cael gradd Meistr mewn Technolegau Iaith yn arwain at fynd ymlaen i ennill cymwysterau proffesiynol neu i wella eu cyflogadwyedd ymhellach yn y maes o’u dewis. Yn dilyn cwblhau'r MSc mewn Technolegau Iaith yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Cyfrifiadureg neu Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Cyfrifiadureg neu Ieithyddiaeth.

Bydd ein MA mewn Dwyieithrwydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o faterion sy'n ymwneud â dwyieithrwydd ac amlieithrwydd a'r gallu i wneud gwaith ymchwil yn y meysydd hyn. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau deallusol allweddol fel archwilio a gwerthuso damcaniaethau a rhagdybiaethau a modelau empirig. Wrth gyfuno hyn gydag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy - fel llythrennedd cyfrifiadurol, gweithio gyda data, adalw gwybodaeth, dadansoddi beirniadol a datrys problemau. Mae graddedigion yn cael cyfleoedd gyrfa mewn cyfathrebu, addysgu, therapi iaith a lleferydd, cyhoeddi, ymchwil, ac mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir trwy'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Dwyieithrwydd yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Dwyieithrwydd.

Bydd ein MSc mewn Caffael a Datblygiad Iaith yn rhoi'r sgiliau, y ddealltwriaeth a'r wybodaeth angenrheidiol i chi weithio'n effeithiol a gwella eich cyflogadwyedd mewn sefydliadau sy'n gweithio gyda phoblogaethau dwyieithog a dysgwyr ail iaith sydd ag amhariad iaith neu beidio, fel therapyddion ac iaith a lleferydd ac athrawon. Yn dilyn cwblhau'r MSc mewn Caffael a Datblygiad Iaith yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Ieithyddiaeth, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Ieithyddiaeth

Ein Hymchwil o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Fel adran, mae gan ein staff  proffiliau ymchwil  gweithredol ac amrywiol  a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys:  caffael iaith gyntaf ac ail iaith, amrywiad a newid iaith, cynnal iaith, datblygiad iaith annodweddiadol, ieithyddiaeth corpws, iaith a chyfathrebu, technolegau iaith / prosesu iaith naturiol, ieithoedd dadleuol eu statws, prosesu a chaffael mydryddiaeth a chystrawen, seicoieithyddiaeth, ieithyddiaeth hanesyddol, gramadegoli, Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol (CODA), Dadansoddiad Disgwrs Beirniadol (CDA), dadansoddiad amlfodd, iaith amseryddol a natur iaith ffigurol, addysgeg dysgu iaith wrth gaffael ail iaith ac wrth ddysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith ychwanegol ac ieithyddiaeth Gymraeg.

Caiff ein hamgylchedd ymchwil bywiog ei gefnogi hefyd gyda nifer o ddigwyddiadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?